Skip to main content

Profiadau Dysgu Bythgofiadwy'n Disgwyl Amdanoch chi yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Untitled design (37)

Ydych chi'n athro/athrawes sy'n chwilio am daith ysgol ystyriol, sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm? Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod  yw'r dewis perffaith! Torrwch yn rhydd o'r ystafell ddosbarth mewn safle sy'n llawn gweithgareddau rhyngweithiol!

Mae yna ystod eang o weithdai newydd a llawer yn rhagor ar gael yn dechrau ym mis Medi 2025, gan gynnwys:

Sesiwn Drafod AM DDIM – Hanes Cymru'n dod yn fyw!
Dechreuwch feithrin cysylltiad eich ysgol â threftadaeth ddiwydiannol Cymru drwy gadw lle ar sesiwn drafod 20 munud o hyd am ddim dan arweiniad un o'n cyn lowyr. Drwy straeon cyffrous a myfyrdodau personol, bydd disgyblion yn clywed sut oedd bywyd go iawn o dan y dyffrynnoedd — profiad byw na all unrhyw werslyfr ei gynnig.

Profiad Taith yr Aur Du sydd wedi ennill gwobrau
Rhowch daith fythgofiadwy i'ch myfyrwyr i fywyd glöwr gyda'r daith danddaearol trochol yma sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae cynigion teithio am bris gostyngol ar gael, ac mae eich archeb yn cynnwys pecyn gweithgareddau "Map Mwyngloddio" am ddim i atgyfnerthu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Gweithdai Ymarferol sy'n Sbarduno Chwilfrydedd
Yn ystod eich ymweliad, mae modd i ddisgyblion gymryd rhan mewn un o nifer o weithdai rhyngweithiol sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau:

  • Creigiau sy'n Pweru'r Byd – Stori glo, o'i darddiad i ynni
  • Diwrnod golchi yn Oes Fictoria – Rhowch gynnig ar olchi dillad fel y gwnaeth y Fictoriaid
  • Ysgyfaint Du – Effaith glo ar iechyd
  • Portreadau a Thirweddau Cwm Rhondda – Trin a thrafod gwaith artistiaid lleol
  • Llwch a Pherygl – Peryglon gweithio dan ddaear
  • Dwndwr Twneli – Darganfod y modd y mae sain yn symud mewn pwll glo
  • Newidiadau o ran Plentyndod – Plentyndod yn ystod oes Fictoria
  • Peiriannau Pwerus – Dysgu sut y defnyddiwyd systemau grym a phwli mewn pyllau glo
  • Archwilwyr Ynni – Trin a thrafod effaith amgylcheddol glo a sut y mae modd i dechnolegau mwy gwyrdd yng Nghymru bweru ein dyfodol.

Parhewch â'r profiad gan ddefnyddio'n Blychau i’w Benthyg yn rhad ac am ddim
Mae modd i ysgolion sy'n trefnu ymweliad gael mynediad at ein blychau i'w benthyg yn rhad ac am ddim, sy’n llawn arteffactau sy’n gopïau, gweithgareddau, a deunyddiau sy'n hawdd eu defnyddio gan athrawon i ddyfnhau ymgysylltiad ar ôl y daith.

Rhagor i'w Archwilio
Arddangosfa Ryngweithiol yr Aur Du a mynd yn ôl at natur ar ein Taith Gerdded y Dramffordd dywysedig. 

Am ragor o fanylion am ein cynigion addysgol a sut i gadw lle, bwriwch olwg yma

Gallai Cynllun Bwrsariaeth Amgueddfa GEM ariannu eich taith ysgol yn llwyr!

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd yn lansio cynllun newydd i alluogi ysgolion i ymweld ag amgueddfeydd lleol yng Nghymru. Bydd y cynllun Bwrsariaeth Ymweliadau ag Amgueddfeydd newydd, a gaiff ei ariannu gan adran ddiwylliant Llywodraeth Cymru, yn helpu ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru i alluogi eu myfyrwyr i brofi amgueddfeydd lleol ledled Cymru.

Mae modd i ysgolion wneud cais am fwrsariaethau hyd at £1,000 i dalu 100% o gost ymweliad ag amgueddfa, gan gynnwys cludiant, ffioedd mynediad, gweithdai a chostau staffio. Nid oes angen unrhyw gyllid cyfatebol ar gyfer y bwrsari, gan ei gwneud hi'n haws i athrawon roi cyfle i'w myfyrwyr archwilio eu treftadaeth leol.  Am ragor o wybodaeth ac am ffurflen gais, cliciwch yma.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmins, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: 

Yn ogystal â bod yn un o brif atyniadau twristaidd Rhondda Cynon Taf, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnig ystod eang o brofiadau addysgol sy'n dod â'n gorffennol diwydiannol cyfoethog yn fyw mewn ffordd hwyliog a diddorol i ddisgyblion ysgol. Rydym yn falch o gefnogi ysgolion gyda rhaglenni sy'n ennyn chwilfrydedd, yn dyfnhau dealltwriaeth hanesyddol, ac yn rhoi ymdeimlad pwerus o le a hunaniaeth i blant. Mae'n ased amhrisiadwy i dirwedd ddysgu ein rhanbarth.

Pe hoffech chi drafod taith cosibl eich ysgol i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 20/08/2025