Bydd gwaith gwella'r bont droed yn Nheras Harcourt, Penrhiwceiber yn cael ei gynnal o 22 Awst, ac mae hyn yn golygu bydd angen ei chau, ac eithrio ar benwythnos Gŵyl y Banc.
Mae'r bont droed rhwng yr ardal breswyl a Pharc Busnes Cwm Cynon, ac mae’n croesi Afon Cynon a'r rheilffordd.
Sylwch, bydd y gwaith gwella yma'n cael ei gynnal ar ran hŷn o'r bont, sy'n eiddo i'r Cyngor.
Bydd arwyneb gwrthlithro newydd yn cael ei osod ar y rhan yma er mwyn gwella diogelwch i gerddwyr. Mae'r Cyngor wedi penodi Thortech Ltd i gyflawni'r gwaith.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Gwener 22 Awst, pan fydd y bont droed ar gau am ddiwrnod er mwyn i'r contractwr gynnal gwaith cychwynnol, cyn iddi agor eto dros benwythnos Gŵyl y Banc (23 i 25 Awst).
Yna bydd y bont droed ar gau o ddydd Mawrth 26 Awst hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau. Mae disgwyl i hyn bara tua wythnos, er mwyn ailagor y bont droed ddechrau mis Medi.
Mae cyllideb refeniw'r Cyngor yn ariannu'r gwaith yma.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 18/08/2025