Skip to main content

Pobl ifainc yn talu llai i deithio ar fws o ddechrau mis Medi

Under-21s-bus-travel-WELSH - Copy

Bydd pob person 5 i 21 oed yn Rhondda Cynon Taf yn talu uchafswm o £1 am docyn bws unffordd o 1 Medi ymlaen. Bydd y cynllun ar gael yn ystod mis Medi a mis Hydref 2025, a hynny cyn i fenter Llywodraeth Cymru ddechrau o fis Tachwedd.

Roedd y Cyngor yn falch o gyhoeddi'r fenter leol yma'n gynharach y mis yma, gan sicrhau bod y cynnig o docynnau £1 yn berthnasol i bawb o dan 21 oed – gan ddefnyddio cyllid sydd wedi'i sicrhau o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Beth fydd y newidiadau o fis Medi 2025? 

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r fenter tocynnau £1 i bobl ifainc 16 i 21 oed ledled Cymru gyfan am flwyddyn, gan ddechrau o 1 Medi.

Bydd angen i bawb yn y grŵp oedran yma ddangos eu 'Fy Ngherdyn Teithio', gan gynnwys wrth deithio yn Rhondda Cynon Taf, i fanteisio ar y cynnig teithio am £1 o 1 Medi. Rhagor o wybodaeth am 'Fy Ngherdyn Teithio' yma.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu'r fenter i gynnwys pawb o dan 21 oed, o 2 Tachwedd. Mae cynllun lleol y Cyngor yn rhedeg o 1 Medi tan 1 Tachwedd, ac felly'n sicrhau bod pawb rhwng 5 ac 15 oed sy'n teithio yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn y cynnig ddeufis cyn i fenter Llywodraeth Cymru ddechrau.

Does dim angen i bobl 5 i 15 oed ddangos cerdyn adnabod (ID). Yn syml, bydd angen iddyn nhw brynu tocyn unffordd i blentyn i'w cyrchfan (fydd y tocyn ddim yn costio mwy na £1 ar gyfer pob taith unffordd sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf).

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi:   "Mae'r Cyngor wedi darparu sawl cynllun teithiau rhatach yn ystod cyfnodau allweddol, a hynny er mwyn sicrhau bod modd i deuluoedd fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod cyfnod parhaus o gostau byw uchel iawn.  Rydyn ni wedi darparu cynllun o'r fath saith gwaith ers 2023, gan gynnwys y cynllun presennol sef uchafswm o £1.50 am docyn bws unffordd yn ystod gwyliau'r haf, hyd at 31 Awst. Yn ddiweddar rydyn ni hefyd wedi cadarnhau y bydd y cynnig yma'n dychwelyd yn ystod mis cyfan Rhagfyr 2025.

“Yn ogystal â hynny, rhwng 1 Medi ac 1 Tachwedd, byddwn ni'n cyflwyno menter tocynnau £1 i bobl ifainc, yn benodol ar gyfer pawb rhwng 5 ac 15 oed – cyn i'r fenter genedlaethol ddechrau o 2 Tachwedd. Diolch i fentrau ar wahân gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru , bydd pob person ifanc o dan 21 oed, sy'n prynu tocyn unffordd ar gyfer taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf, yn derbyn y cynnig teithio am £1 o 1 Medi.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth ariannol o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, er mwyn parhau i gyflwyno mentrau teithio ar fysiau yn Rhondda Cynon Taf. Nod y bartneriaeth yma yw annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'u teithiau bob dydd, gan helpu i dorri rhwystrau economaidd a allai atal rhai pobl rhag gwneud hynny. Mae ein mentrau hefyd yn ceisio amlygu manteision allweddol eraill fel gwella'r amgylchedd, lleihau tagfeydd traffig, ac annog pobl i siopa'n lleol.”

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 27/08/2025