Byddwch yn wyliadwrus o deganau Labubu ANNIOGEL a FFUG sydd ar werth ar hyn o bryd – ac fe gewch chi helynt os ydych chi'n eu gwerthu!
Mae Carfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod ar helfa 'fwystfilod' yr wythnos yma ac wedi atafaelu neu feddiannu dros 32 o gylchoedd allwedd a 95 bocs o Labubus ffug (sy'n cael eu galw'n Lafufus hefyd) yn ardal Pontypridd.
Mae’n bosibl na fyddwch chi wedi clywed amdanyn nhw ond mae teganau Labubu* yn boblogaidd iawn ar y rhyngrwyd ar hyn o bryd. Mae Labubus yn deganau a chylchoedd allwedd sydd mor hyll maen nhw'n ddeniadol, ac maen nhw'n gwerthu yn sydyn.
Mae modd eu prynu gan unigolion sy'n eu hailwerthu, ond mae'n bosibl y byddwch chi'n prynu Labubu anniogel a ffug (sydd weithiau'n cael eu galw'n Lafufu).
Mae'r teganau Labubu go iawn yn ddrud, daeth y garfan o hyd i’r Labubus yma a oedd yn cael eu gwerthu am £2.99 a £3.99. Mae'r neges yn glir - os mae'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, neu mae’r tegan yn cael ei werthu’n rhad - mae'n debygol iawn eu bod nhw’n deganau ffug. Rydyn ni'n cynghori pobl i brynu'r teganau gan gyflenwr sydd ag enw da.
Nododd swyddogion Safonau Masnach y gallai’r teganau Labubu Pop Mart a gafodd eu hatafaelu, ac sy'n boblogaidd ledled y byd, fod “yn beryglus”.
Mae'r creaduriaid yma, sy’n debyg i gorrach, ac sy’n cael eu cynhyrchu gan y gwneuthurwr teganau o Tsieina - Pop Mart, yn boblogaidd iawn ymhlith casglwyr teganau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hoffai'r Cyngor atgoffa cwsmeriaid a busnesau i fod yn wyliadwrus, a hynny ar ôl i’r garfan atafaelu fersiynau "ffug a allai fod yn beryglus".
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yma i gynnig cyngor i gadw busnesau a'r cyhoedd yn ddiogel a bydd bob amser yn ceisio gweithio gyda busnesau i unioni pethau cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Mae'r neges yn glir, os yw busnes yn gwerthu Labubus ffug, rhaid iddyn nhw stopio ar unwaith a'u dychwelyd i'w cyflenwyr - neu byddan nhw'n cael eu hatafaelu a bydd y garfan safonau masnach yn cymryd camau gorfodi yn eu herbyn!
Yn dilyn y darganfyddiad yma, bydd yr eitemau'n cael eu dinistrio a'u hailgylchu gan y garfan Safonau Masnach.
Meddai Rhian Hope, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddiol Cyngor Rhondda Cynon Taf:
"Yn dilyn y darganfyddiad yma, hoffen ni rybuddio cwsmeriaid, yn enwedig rhiieni, a’u hannog i fod yn wyliadwrus.
"Mae’n bosibl y byddwch chi’n ystyried y teganau ffug yma’n fargen o'u cymharu â'r teganau go iawn, yn enwedig gan ystyried pa mor boblogaidd ydyn nhw’n ar hyn o bryd, ond mae’n bosibl y byddan nhw’n beryglus."
"Gall teganau ffug fod yn beryglus i blant iau os ydyn nhw'n dod i gyswllt â chemegion ac os yw’r tegan yn berygl tagu.
"Dyw'r teganau yma ddim yn destun profion diogelwch rheolaidd a phriodol ac rydyn ni'n annog unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch tegan maen nhw wedi'i brynu i gysylltu â ni trwy'r Gwasanaeth Cyngor i Gwsmeriaid."
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae angen i'r sawl sy'n chwilio am fargeinion fod yn ymwybodol bod modd i deganau ffug nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon dorri ac achosi anafiadau neu beryglon tagu, mae modd i ddeunyddiau gwenwynig achosi llosgiadau a niwed difrifol, ac mae modd i deganau trydanol anghyfreithlon arwain at danau neu drydaniad.
"Mae'r rheiny sy’n cyflenwi’r teganau ffug yma’n elwa o’r cyffro sy’n gysylltiedig â’r teganau ac yn blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Mae hyn yn enghraifft o dorri rheolau hawlfraint. Dydy’r profion diogelwch gofynnol ddim yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel".
"Mae'r teganau yma’n ddeniadol i blant ond mae modd iddyn nhw fod yn beryglus iawn. Mae modd i ddarnau bach ddod yn rhydd a gallan nhw achosi perygl tagu. Gall cyswllt â chemegion penodol, sydd wedi'u gwahardd mewn teganau go iawn, fod yn niweidiol"
Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y caiff hyn ei wneud - ond mae'r neges yn glir, os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu'r eitemau yma, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu yn eich erbyn!"
Mae'r Adran Safonau Masnach yn parhau i archwilio busnesau lleol ac yn cael gwared â chynhyrchion nad ydyn nhw'n cydymffurfio â gofynion masnachu. Gall hyn arwain at gychwyn achos erlyn yn erbyn masnachwyr sy'n gwybod yn iawn eu bod nhw'n torri'r gyfraith.
Sut i adnabod tegan ffug
- Deunydd pecynnu: Mae Labubus go iawn yn dod mewn bocs matte a llyfn.
- Cod QR: Mae gyda’r Labubus diweddaraf god QR sy'n mynd â chi i wefan Pop Mart ac yn cadarnhau eu bod nhw’n rhai go iawn neu’n deganau ffug.
- Bydd y cod QR sydd ar label y tegan yn mynd â chi i wefan fwsy.popmart.com, os ydych chi’n cael eich tywys i wefan arall, mae’r tegan yn degan ffug.
- Nodweddion: Mae gyda Labubus go iawn glustiau sy'n troi i mewn ychydig, 9 dant, llygaid llachar a bywiog (nid llygaid sydd wedi cau) ac wynebau gwelw, lliw eirinen wlanog.
- Ansawdd: Mae gyda Labubus go iawn ffwr meddal a phwythau taclus iawn.
- Stamp troed: Mae gyda Labubus logo Pop Mart ar eu troed dde, ac mae gyda'r modelau diweddaraf stamp ar eu troed chwith. Dim ond trwy roi’r droed o dan olau Uwch Fioled y bydd modd i chi weld y stamp yma. Dyw teganau ffug naill ai ddim yn cynnwys y nod(au) yma neu mae gyda nhw nod amlwg a does dim angen edrych yn fanwl na’i roi dan olau arbennig er mwyn ei weld.
- Nod UKCA/CE: Y PETH PWYSICAF OLL - dylai nod UKCA/CE fod ar y tegan ei hun (heblaw ei fod yn rhy fach - yn yr achosion yma, rhaid i'r nod gael ei gynnwys gyda'r eitem, e.e. ar y bocs) a rhaid nodi enw'r cwmni sydd wedi mewnforio'r tegan i'r DU (h.y. bydd nod Y DU ar y label). Fodd bynnag, dylech chi ddim dibynnu ar hyn yn unig, dylai prynwyr hefyd gynnal y gwiriadau eraill sydd wedi'u rhestru cyn penderfynu a ddylid prynu eitem.
Os oes gan fusnesau neu’r cyhoedd unrhyw bryderon am Ddiogelwch Teganau, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol: Toys | Business Companion Toys, Child Accident Prevention trust Toy Safety (Saesneg yn unig) neu mae modd i chi roi gwybod am achosion o deganau ffug i'ch gwasanaeth safonau masnach lleol drwy ffonio Adran Cymorth i Gwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133 neu e-bostio: safonaumasnach@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 16/07/2025