Skip to main content

Cytuno i ymgynghori dros yr haf ar Strategaeth Canol Tref Tonypandy

Summer 2025 consultation agreed CYM - Copy

Mae'r Cabinet wedi cytuno y bydd strategaeth ddrafft ar gyfer Canol Tref Tonypandy yn destun ymgynghoriad â thrigolion lleol yn ddiweddarach yn yr haf eleni. Yn y strategaeth mae gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y dref, ynghyd â sawl prosiect posibl arall.  Os bydd y strategaeth yn cael ei mabwysiadu, bydd yn lasbrint ar gyfer buddsoddi'n lleol.

Ymgymerodd y Cyngor â gwaith ymgysylltu cychwynnol at ddibenion datblygu'r strategaeth, rhwng mis Rhagfyr 2024 a mis Chwefror 2025, wedi iddo sicrhau cyllid pwysig drwy grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Yn rhan o'r gwaith yma, gofynnwyd am safbwyntiau ar gryfderau Canol Tref Tonypandy, ei gwendidau, a'r heriau a'r cyfleoedd, a hynny'n rhan o weithdai gyda grwpiau lleol a sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ar-lein.

Mae'r Cyngor wedi penodi ymgynghorwyr The Urbanists i roi cyngor a chymorth mewn perthynas â datblygu'r strategaeth. Maen nhw wedi gweithio'n agos gyda swyddogion i wneud cynnydd pwysig yn ystod y misoedd diwethaf. Cafodd y strategaeth ddrafft, a gafodd ei llywio gan waith ymgysylltu cychwynnol, ei rhannu â'r Cabinet am y tro cyntaf ddydd Llun 7 Gorffennaf. Mae wedi nodi pum uchelgais craidd ar gyfer Canol Tref Tonypandy, sy'n cynnwys:

  • Bod Tonypandy yn Groesawgar, gyda chysylltiadau sy'n golygu bod modd cyrraedd canol y dref yn hawdd a llwybrau bywiog, a bod teithio cynaliadwy yn cael ei hyrwyddo yno. Bydd arwyddion a gwaith celf lliwgar yn rhan allweddol o hyn.
  • Bod y stryd fawr yn darparu cymysgedd o gartrefi, cyfleusterau hamdden a lleoedd gwaith. Mae'r uchelgais Byw ar y Stryd Fawr yn cynnwys cartrefi wedi'u lleoli ochr yn ochr â siopau, gan ddarparu lle bywiog o ran byw yno. Bod cyfleusterau ar gael yn agos, ynghyd â chyfleoedd lleol i gymdeithasu yn ystod y dydd a gyda'r nos.
  • Bod Tonypandy yn adeiladu ar dreftadaeth arwyddocaol yr ardal, ac yn ei defnyddio'n garreg sarn i arloesedd. Bydd Creu Hanes yn y ffordd yma yn darparu cyfleoedd i ddathlu'r gorffennol a hyrwyddo'r dyfodol.
  • Mannau i Ddathlu yng nghanol y dref i ddarparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd er mwyn dathlu achlysuron, bywyd a chelfyddydau a diwylliant. Bydd hyn hefyd yn annog ymwelwyr i ddod i ganol y dref.
  • Canolbwyntio ar Feithrin Busnesau, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn ffynnu. Bydd cael amgylchedd llawn cymorth yn annog entrepreneuriaid lleol ac yn llenwi'r ardal â masnachwyr sy'n cynnwys busnesau bach sydd newydd gael eu dechrau a siopau annibynnol.

Mae'r strategaeth ddrafft hefyd yn cynnwys cyfres o brosiectau posibl sydd â'r nod o ddenu buddsoddi a gwireddu newid cadarnhaol ac ystyrlon yng Nghanol Tref Tonypandy. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar Sgwâr Pandy, Stryd Dunraven, a Stryd Dunraven Isaf. Ymhlith y prosiectau sydd wedi'u cynnig ar gyfer pob un o'r ardaloedd yma mae:

  • Prosiectau anofodol megis datblygu strategaeth farchnata, ynghyd â rhestr o achlysuron allweddol a rhoi cymorth i fusnesau.
  • Gwelliannau i fannau cyhoeddus sy'n cynnwys datblygu man gwyrdd yn Heol Gelli a gwella'r Gerddi Coffa.
  • Gwell arwyddbyst ac arwyddion ledled canol y dref.
  • Gwelliannau i eiddo nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio i'w llawn botensial ar y stryd fawr, neu sy'n wag.
  • Cyfleusterau teithio llesol gwell er mwyn annog beicio a cherdded yn lleol, er enghraifft darparu man storio diogel ar gyfer beiciau.
  • Gwelliannau i fynedfeydd allweddol i ganol y dref gan gynnwys gwella'r man cyrraedd yn yr orsaf drenau fel ei fod yn fynedfa allweddol.

Mae'r fersiwn ddrafft lawn o Strategaeth Canol Tref Tonypandy, ynghyd â gwybodaeth bellach am yr uchelgeisiau craidd a phrosiectau arfaethedig, ar gael i'w darllen yn adroddiad dydd Mercher i'r Cabinet a'i Atodiadau  (eitem naw ar yr agenda).

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol y mae Aelodau'r Cabinet bellach wedi cytuno arno, yn digwydd yn ddiweddarach yn yr haf, 2025, dros gyfnod o chwech i wyth wythnos. Bydd y manylion terfynol yn cael eu rhannu gan y Cyngor pan fyddan nhw'n barod.

Bydd y broses yn cynnwys tudalen we ac arolwg penodol, a fydd yn cael eu hyrwyddo'n lleol ar bosteri a thaflenni, ac ar wefan y Cyngor a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Bydd cyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb wedi'u targedu yn cael eu cynnal gyda grwpiau lleol. Bydd y Cyngor a The Urbanists yn mynd i farchnad wythnosol Tonypandy o leiaf ddwywaith yn ystod y cyfnod ymgynghori - a hynny er mwyn cael safbwyntiau pobl sy'n ymweld â chanol y dref.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Rwy'n falch bod y Cabinet wedi rhoi sêl bendith i'r fersiwn ddrafft o Strategaeth Canol Tref Tonypandy, gan gytuno ar gael swyddogion i gynnal ymgynghoriad ffurfiol. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud ynghylch yr uchelgeisiau craidd a'r prosiectau arfaethedig, sydd yn y drafft. Bydd hyn yn ein helpu ni i fireinio'r strategaeth ymhellach cyn y drafodaeth o ran ei mabwysiadu'n ffurfiol. Mae buddsoddi mewn canol trefi yn addewid allweddol yn ein Cynllun Corfforaethol, gyda strategaethau tebyg wedi'u llunio eisoes ar gyfer Aberpennar, Porth, Pontypridd ac Aberdâr.

“Rydyn ni'n gwybod bod Tonypandy, fel y rhan fwyaf o ganol trefi ledled y wlad, yn wynebu heriau – ond mae llawer o bethau hefyd i fod yn obeithiol yn eu cylch. Bydd Metro De Cymru'n cynyddu amlder gwasanaethau trên er mwyn gwella mynediad ar gyfer ymwelwyr yn sylweddol. Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn yr haf eleni ar y posibilrwydd o greu Ardal Gwella Busnes ar gyfer Tonypandy.  Rydyn ni hefyd wedi gweld hen adeilad Barclays yn cael ei drawsnewid yn fusnes modern sy'n ffynnu, sef Anabelle's Hair and Beauty Salon, mae hen adeilad banc HSBC bellach yn gartref i fflatiau modern ynni effeithlon, mae’r hen swyddfa bost – sy’n gartref i RHA/Beacon Cymru erbyn hyn – wedi cael ei thrawsnewid ac yn cynnwys swyddfeydd a fflatiau modern. Heb anghofio'r datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd, sef y Big Shed, ar hen safle'r Co-op, fydd yn cynnwys cymysgedd o unedau manwerthu a phreswyl, a chynnig Trivallis i ailddatblygu safle Llys Mitchell.

“Wrth adeiladu ar y cynnydd yma, bydd llunio strategaeth derfynol ar gyfer Canol Tref Tonypandy yn galluogi pawb i ddod ynghyd a chytuno ar y nodau a'r amcanion a rennir, ar gyfer gwella. Unwaith y bydd wedi'i datblygu ymhellach ac y cytunir arni, bydd y strategaeth yn y pendraw yn lasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol a’r gallu i sicrhau cyllid allanol. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion am yr ymgynghoriad unwaith y byddan nhw'n barod. Rwy'n annog trigolion i ddweud eu dweud ar-lein neu wyneb yn wyneb, er mwyn sicrhau bod cynifer o leisiau â phosibl yn cyfrannu at greu gweledigaeth derfynol a rennir ar gyfer Tonypandy.”

Wedi ei bostio ar 10/07/2025