Mae cyfleuster Parcio a Theithio newydd Treorci bellach wedi cael ei adeiladu, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi agor y maes parcio â 52 o leoedd i ddefnyddwyr trenau – gan wella mynediad lleol at drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol.
Mae'r cyfleuster parcio newydd wedi cael ei greu yn rhan o brosiect ar y cyd – gyda'r Cyngor yn darparu cyllid ar gyfer y costau adeiladu trwy Raglen Gyfalaf barhaus y Priffyrdd a Thrafnidiaeth. Mae'r cynllun wedi cynnwys defnyddio tir sy'n eiddo i Drafnidiaeth Cymru, nad oedd yn cael ei ddefnyddio. Mae wedi'i leoli oddi ar Glos Ystadfechan – i'r de o gae pêl-droed Cae Mawr ac i'r de-ddwyrain o Orsaf Drenau Treorci.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu cyfleuster Parcio a Theithio newydd Treorci, a bydd yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf o ddydd Mercher 9 Gorffennaf.
Mae’r cyfleuster newydd yn cael ei weithredu yn unol â defnydd cyfleusterau Parcio a Theithio presennol Trafnidiaeth Cymru, a bydd yn faes parcio i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na maes parcio lleol cyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth am gyfleusterau Parcio a Theithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Dechreuodd cam cyntaf y gwaith mewn perthynas â'r cynllun ar y safle yn yr haf 2024, gyda chyfres o waith sefydlu piblinell ddraenio ar hyd y cae pêl-droed – yn ogystal â gosod tanc gwanhau i'r gogledd o'r cae. Bydd y system yma'n cludo dŵr glaw o'r maes parcio newydd i'r afon yn fwy effeithlon. Cafodd y gwaith yma ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2024, gan alluogi dechrau'r prif waith.
Mae gan y maes parcio newydd 43 o leoedd parcio safonol, 6 o leoedd gwefru cerbydau trydan, a 3 o leoedd i bobl anabl. Mae dyluniad y safle wedi cynnwys draenio cynaliadwy trwy saith gardd law, pob un tua maint lle parcio.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n falch iawn bod cyfleuster Parcio a Theithio newydd Treorci bellach ar agor i’r cyhoedd, sydd wedi darparu cyfanswm o 52 o leoedd parcio i ddefnyddwyr trenau – sy'n cymryd lle maes parcio blaenorol yr orsaf a oedd yn llai o lawer. Darparodd y Cyngor gyllid cyfalaf gwerth £733,000 i adeiladu'r cyfleuster, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei weithredu yn y dyfodol.
“Mae annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pob taith ddyddiol, neu ran o'r daith honno, yn bwysig dros ben. Bydd lleihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd yn y ffordd yma yn diogelu'r amgylchedd, yn lleihau tagfeydd traffig ac yn cwtogi amseroedd teithio. Bydd pobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn ei dro, yn elwa ar ragor o wasanaethau bob awr a chyfleusterau gwell trwy Fetro De Cymru – a bydd rhagor o leoedd parcio yn ein gorsafoedd trenau lleol yn ategu'r buddsoddiad yma.
“Hoffwn i ddiolch i gymuned Treorci am ei hamynedd a'i chydweithrediad wrth i waith y cynllun gael ei gwblhau – a hynny yn ystod y gwaith draenio yn yr haf y llynedd ac yn ystod y prif gam adeiladu yn y gaeaf a'r gwanwyn. Rwy'n siŵr y bydd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y gymuned a chymudwyr.”
Ychwanegodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Mae agor y cyfleuster parcio newydd yng Ngorsaf Drenau Treorci yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid, megis Cyngor Rhondda Cynon Taf, i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chyfleus i gymunedau ledled Cymru.
"Trwy fuddsoddi mewn seilwaith sy'n ategu teithio integredig, gallwn ni greu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy sy'n bodloni anghenion teithwyr heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.
“Bydd y cyfleuster yma'n golygu y bydd y gymuned leol yn dibynnu'n llai ar geir i deithio pellter hir. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy hygyrch i bobl Treorci, a'r ardaloedd cyfagos, ddewis trenau ar gyfer eu teithiau."
Wedi ei bostio ar 09/07/2025