Skip to main content

Gwaith gwella goleuadau stryd i ddechrau ym Maes Parcio Heol Sardis

Sardis Car Park - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â Chanol Tref Pontypridd am waith hanfodol arfaethedig ym Maes Parcio Heol Sardis, sy’n golygu na fydd hanner y lleoedd parcio ar gael dros dro o ddydd Llun, 21 Gorffennaf ymlaen.

Bydd y Cyngor yn cyflawni gwaith helaeth i wella goleuadau stryd, gyda physt ychwanegol yn cael eu gosod er mwyn sicrhau lefel golau well yn y maes parcio cyfan, wedi i'r gwaith gael ei gwblhau. Bydd y mast uchel sydd yn y maes parcio eisoes yn cael ei dynnu oddi yno am ei fod wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Mae Centregreat Ltd wedi'i benodi gan y Cyngor i gyflawni'r cynllun ar y safle o 21 Gorffennaf ymlaen. Mae'r gwaith wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, ac mae disgwyl i'r gwaith bara tua chwe wythnos.

Bydd y contractwr yn cau pob ardal waith, a bydd rhannau'r maes parcio nad ydyn nhw ar gael i'r cyhoedd dros dro i’w gweld yn amlwg. Ni fydd modd defnyddio tua hanner y lleoedd parcio presennol yn ystod y cyfnod yma.

Mae gyda'r Cyngor sawl maes parcio arall ledled Canol Tref Pontypridd y gellir eu defnyddio - Heol y Weithfa Nwy, Iard Nwyddau (y rhan sy’n eiddo i’r Cyngor), Stryd y Santes Catrin, Millfield a Heol Berw. Nodwch mai maes parcio arhosiad byr yw Maes Parcio Heol y Weithfa Nwy, sy’n golygu bod parcio yno am uchafswm o bedair awr.

Diolch i drigolion ac ymwelwyr â Phontypridd am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gyflawni ym Maes Parcio Heol Sardis. Dysgwch ragor am feysydd parcio'r Cyngor yn Rhondda Cynon Taf ar ein gwefan.

Wedi ei bostio ar 11/07/2025