Skip to main content

Menyw'n derbyn dirwy am gamddefnyddio bathodyn glas yn RhCT

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhybuddio unrhyw un sy'n camddefnyddio bathodyn glas yn dilyn erlyn menyw leol.

Parciodd Miss Laura Morris, o Aberdâr, ei cherbyd mewn lle parcio i bobl anabl yn Stryd Dean, Aberdâr, gan arddangos bathodyn glas ar y forden flaen. Pan aeth Swyddogion Gorfodi'r Cyngor i edrych ar y bathodyn, daethpwyd i'r amlwg na allai perchennog y bathodyn fod wedi parcio yn y lle hwnnw, na theithio yn y car, gan ei fod wedi marw.

Cafodd Miss Morris wahoddiad i gyfweliad dan rybuddiad gan swyddogion Carfan Twyll Corfforaethol y Cyngor. Cyfaddefodd Miss Morris fod ei bathodyn glas yn eiddo i'w thad-cu a oedd wedi marw, a chyfaddefodd fod ei gweithredoedd yn annoeth ac yn amhriodol.

O ganlyniad i natur ddifrifol yr achos, cafodd ei gyfeirio at Lys Ynadon Merthyr Tudful. Cafodd y gwrandawiad ei gynnal ar 19 Chwefror 2025 a phlediodd Miss Morris yn euog i ddwy drosedd o feddu ar eitem (h.y. y bathodyn glas) at ddefnydd twyll, neu mewn cysylltiad â thwyll, yn groes i Adran 6 o Ddeddf Twyll 2006.

Mae camddefnyddio bathodyn glas yn drosedd a gall arwain at ddirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol. Bydd hysbysiad tâl cosb fel arfer yn cael ei roi i unrhyw un sy'n camddefnyddio lle parcio i bobl anabl.

Yn yr achos yma, rhoddodd y Llys ddirwy o £100.00 i Miss Morris ac roedd rhaid iddi dalu costau erlyn gwerth £305.00 a gordal i ddioddefwyr gwerth £40.00, sef cyfanswm o £445.00.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Materion yr Hinsawdd:

“Mae pobl yn dibynnu ar eu bathodynnau glas a bwriad y cynllun yw helpu pobl sy'n wynebu heriau o ran symud i gael mynediad i amwynderau lleol, fel eu bod nhw'n gallu parcio'n agos i weithleoedd, archfarchnadoedd a chyfleusterau iechyd. Mae camddefnyddio'r cynllun yn golygu nad yw lle parcio ar gael i rywun sydd ei angen.

“Mae'n peri pryder mawr bod yr euogfarn yma'n cynnwys arddangos bathodyn a oedd yn eiddo i berson a oedd wedi marw. Dydy camddefnyddio'r gwasanaeth yma ddim yn dderbyniol, ac mae'r ymgyrch orfodi ddiweddar yn dangos bod y Cyngor yma'n cymryd camau gweithredu i atal camddefnydd.  Fydd hyn ddim yn cael ei oddef yn RhCT. Bydd ein carfan benodol yn parhau i gadw llygad ar ardaloedd yn y Fwrdeistref Sirol yn rheolaidd a bydd unigolion sy'n cael eu dal yn camddefnyddio'r cynllun yma yn cael eu herlyn.” 

Pam mae bathodynnau glas yn bwysig

Yn ogystal â chymryd bathodynnau glas oddi ar bobl sy'n camddefnyddio'r cynllun, mae camau gorfodi yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y bathodynnau i drigolion sydd wir eu hangen.

Mae nifer o bobl yn dibynnu ar eu bathodyn glas i barhau i fod yn annibynnol a medru symud, gan eu galluogi nhw i gael mynediad at nwyddau a gwasanaethau.

Gall camddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl arwain at ddeiliaid bathodyn glas yn colli apwyntiadau meddygol, yn methu â mynd allan i brynu bwyd neu fynd i'r gwaith. Mae pob lle yn bwysig.

I gael rhagor o wybodaeth am gynllun y bathodynnau glas, gan gynnwys sut i wneud cais trwy wasanaeth newydd y Cyngor, ewch i'r wefan: https://www.rctcbc.gov.uk/BathodynGlas

Gall pobl sy'n amau bod bathodyn glas yn cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus roi gwybod i ni yma – https://forms.rctcbc.gov.uk/cy/Web/fraud/TypeOfFraud neu e-bostio Carfan Twyll Corfforaethol y Cyngor ar Twyll@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 19/03/2025