Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd yw hi (9-15 Mawrth) ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am i bawb gofio'r negeseuon yma: 'Bydd Wych, Ailgylcha!' a “Gwnewch i’ch Bwyd Fynd Ymhellach: er mwyn eich poced, er mwyn ein planed”.
Trwy ystyried yr hyn rydyn ni'n ei brynu a dim ond prynu'r union nifer sydd ei angen arnoch chi, bydd modd ichi arbed arian, amser, deunydd pecynnu a'r blaned. Mae modd i weithredoedd pwysig, waeth pa mor fach, wneud gwahaniaeth mawr! Mae 66 miliwn o bobl yn byw yn y DU felly drwy weithio gyda'n gilydd, bydd gwneud y pethau bychain yn cael effaith fawr.
Mae aelwyd gyffredin yng Nghymru sy’n cynnwys 4 person yn taflu gwerth £84 o fwyd mae modd ei fwyta bob mis, er bod 77% o bobl wedi nodi bod cost bwyd yn bryder mawr.
Gwastraff bwyd sy'n cael ei ailgylchu lleiaf yng Nghymru o hyd, ond mae cyfle gyda phawb i ailgylchu ei wastraff bwyd. Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth gwastraff bwyd wythnosol i bob cartref yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus.
Diolch i gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor a'r biniau ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd, mae'n hawdd gweld faint o fwydydd byddwn ni'n eu taflu. Drwy gadw golwg ar faint o fwyd rydyn ni'n ei wastraffu, gallwch chi ystyried faint o fwyd sydd ar eich plât a'r rhestr siopa wythnosol, a chyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei brynu.
Rydyn ni'n amcangyfrif bod 25% o'r bag sbwriel neu fin sbwriel cyffredin yng Nghymru yn cynnwys bwyd, a bwyd mae modd ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.
Yn 2022, nododd dadansoddiad bagiau du WRAP Cymru fod 39% o'r holl wastraff bagiau du yn Rhondda Cynon Taf yn cynnwys gwastraff bwyd. Rydyn ni'n falch iawn o ddweud bod hyn wedi gostwng erbyn mis Rhagfyr 2025 a dim ond ychydig dros 20% o'r hyn sy'n cael ei gasglu bob mis yn Rhondda Cynon Taf sy'n wastraff bwyd bellach.
Er ein bod ni'n gwella yn Rhondda Cynon Taf o ran ailgylchu ein gwastraff bwyd, y gwir nod yw sicrhau bod dim bwyd yn cael ei wastraffu trwy ei daflu yn ein gwastraff bagiau du. Wrth gwrs, bydd angen rhoi eitemau does dim modd eu bwyta, fel esgyrn twrci, bagiau te a phlisg wyau, yn eich cadi gwastraff bwyd er mwyn iddyn nhw gael eu hailgylchu. Serch hynny, trwy gynllunio'ch prydau ymlaen llaw a choginio'r hyn sydd ei angen arnoch chi'n unig, neu rewi'ch bwyd dros ben / y bwyd heb ei fwyta, bydd modd sicrhau bod llai o fwyd yn cael ei wastraffu.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:
"Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy o drigolion nag erioed yn cymryd rhan yn y cynllun ailgylchu gwastraff bwyd!
"Eleni yn RhCT, rydyn ni'n falch o ddweud ein bod ni wedi bwrw targed 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a bod cynnydd o 21% wedi bod yn y gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu a gostyngiad o 33% yn y gwastraff bagiau du a gafodd ei gasglu, ynghyd â chynnydd o 11% mewn ailgylchu gwastraff sych!
“Yn ôl yn 2022 dim ond 0.6kg yr wythnos oedd cartrefi yn ei ailgylchu ac yn 2025 roedden nhw’n ailgylchu 2.5kg yr wythnos fesul cartref – mae pob cartref yn ailgylchu bron i 5 gwaith yn fwy o wastraff bwyd, yn lle rhoi’r gwastraff yma mewn bagiau du.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o bobl yn gweld pa mor hawdd yw hi i ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae mwyafrif trigolion Rhondda Cynon Taf bellach yn dweud eu bod nhw'n ailgylchu eu bwyd dros ben. Mae modd i ni weld hyn yn y cynnydd yn y ffigurau - ar gyfartaledd mae dros 15,000 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei gasglu a'i ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf BOB blwyddyn (i fyny o 11,000 tunnell). Pan mae'r gwastraff yn cael ei drawsnewid yn ynni ar safle ailgylchu gwastraff bwyd, BIOGEN ym Mryn Pica, Llwydcoed, mae'n cynhyrchu digon o ynni i bweru dros 1500 o gartrefi.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl. Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod cerbydau o safon uchel a chyfleusterau sy'n hawdd eu defnyddio ar gael er mwyn cynnal gwasanaeth ailgylchu dibynadwy.
“Rydyn ni eisiau llwyddo mewn partneriaeth â'n cymunedau, dyna pam rydyn ni'n darparu gwasanaeth casglu wythnosol llwyddiannus wrth ymyl y ffordd ar gyfer ailgylchu gwastraff a gwastraff bwyd, yn ogystal â chyfleusterau yn y gymuned, addysg barhaus a chodi ymwybyddiaeth o'r pwnc."
Ond mae modd i ni wneud hyd yn oed yn fwy – gallai gwneud y pethau bychain, fel prynu ffrwythau a llysiau rhydd, arwain at 8.2 miliwn yn llai o fasgedi siopa'n cael eu gwastraffu y flwyddyn. Bydd hefyd yn arwain at lai o ddeunydd pecynnu ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar brynu’r union swm neu nifer sydd ei angen arnoch chi, gan arbed arian a’r blaned.
Mae syniadau gwych ar gyfer ryseitiau ar wefan Cymru yn Ailgylchu - https://www.walesrecycles.org.uk/cy/chwech-phryd-gwych a chofiwch fwrw golwg hefyd ar wefan Love Food Hate Waste - https://www.lovefoodhatewaste.com/cy.
Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Hoffech chi ragor o wybodaeth am gynllun ailgylchu gwastraff bwyd y Cyngor? Hoffech chi ofyn am gadi bach i'r gegin? Ewch i www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Am ragor o gyngor ac awgrymiadau, ewch i https://lovefoodhatewaste.com/cy
Wedi ei bostio ar 09/03/2026