Skip to main content

RhCT sy'n arwain y ffordd o ran gweithredu yn erbyn achosion o dipio'n anghyfreithlon!

Yn rhan o adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar achosion o Dipio'n Anghyfreithlon ledled Cymru yn ystod mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, cafodd Cyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) ei nodi fel yr awdurdod arweiniol o ran gweithredu!

Allan o gyfanswm o 69 o erlyniadau llys a gafodd eu cyflwyno ledled Cymru, cafodd 18 o’r rhain eu cyflawni yn RhCT, o ganlyniad i waith gwych Swyddogion Gorfodi Cyngor Rhondda Cynon Taf! Os byddwch chi'n tipio'n anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol yma byddan nhw'n troi pob carreg a chymryd camau cyfreithiol bob amser ble mae angen!

Mae’r ffigwr glanhau amcangyfrifiedig ar gyfer Cymru'n syfrdanol – bron i £2 miliwn y flwyddyn. Dyma pam fod gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i gymryd achosion o dipio'n anghyfreithlon o ddifrif a dwyn y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif!

Mae'r Garfan Gorfodi yn patrolio strydoedd, llwybrau a mynyddoedd yn rheolaidd yn barod i ddal y rheiny sy'n gyfrifol am dipio'n anghyfreithlon ac mae ganddyn nhw'r pŵer i gyhoeddi dirwy gwerth o leiaf £400. Mae modd i unrhyw un sy'n cael ei ddal yn Tipio'n Anghyfreithlon gael ei gyfeirio at y Llys yn rhan o gamau pellach. Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at gofnod troseddol, dedfryd o 6 mis yn y carchar a/neu DDIRWY ddiderfyn. Y Llys fydd yn gyfrifol am bennu'r ddirwy a'r ddedfryd.

Yn Rhondda Cynon Taf, roedd y gost glanhau yn cyfateb i oddeutu £150,000 a'r eitemau a gafodd eu tipio'n anghyfreithlon fwyaf aml oedd eitemau cartref (2,300) a nwyddau gwyn (204). Dylai'r rhan fwyaf o'r rhain fod wedi'u cymryd AM DDIM i un o nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned Rhondda Cynon Taf er mwyn eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio.

Cynhaliodd Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd ymroddedig y Cyngor waith ymchwilio mewn perthynas â dros 4,020 o achosion o dipio'n anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf. Fe wnaethon nhw adennill dros £16,300 drwy gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig a thros £11,600 drwy achosion llys – cyfanswm o bron i £30,000!

Yn ogystal â hyn, fe wnaeth UN person osgoi’r carchar o drwch blewyn a chafodd ddedfryd ohiriedig o 12 mis. Rhoddwyd gorchmynion cymunedol sy'n para 12 mis ac sy'n gofyn am 100 awr o waith di-dâl i DDAU berson, a chafodd person arall orchymyn cymunedol sy'n para 12 mis ac sy'n gofyn am 80 awr o waith di-dâl.

Er bod hyn yn newyddion da, mae angen cannoedd o filoedd o bunnoedd i lanhau ar ôl gweithredoedd diog y rhai sy'n tipio'n anghyfreithlon, sy'n difetha ein cefn gwlad hardd, ein ffyrdd a'n mannau cyhoeddus. Dylid defnyddio'r cronfeydd yma i gynyddu a gwella gwasanaethau i drigolion.

Mae Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn disgrifio'r drosedd o dipio'n anghyfreithlon fel a ganlyn: “illegal deposit of any waste onto land that does not have a licence to accept it”. Mae modd i unrhyw un sy'n cael gwared ar eu gwastraff yn anghyfreithlon wynebu dirwy sylweddol a/neu gofnod troseddol!

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ailgylchu deunydd sych, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau diderfyn bob wythnos, yn rhad ac am ddim. Mae gyda ni hefyd sawl canolfan ailgylchu yn y gymuned ledled y fwrdeistref sirol. Does yna fyth esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig os byddwch chi’n cael gwared ag eitemau sy'n gallu cael eu casglu wrth ymyl y ffordd neu'u hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:

"Rwy'n falch o weld bod gwaith caled ac ymroddiad Carfan Gorfodi'r Cyngor yn cael sylw haeddiannol. Dylai'r newyddion yma atgoffa trigolion y byddwn ni'n cymryd camau cyfreithiol pan fo angen – da iawn i'r garfan! 

"Fyddwn ni ddim yn goddef yr ymddygiad yma yn RhCT." Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

“Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y costau rydyn ni'n eu hadennill. Byddai modd gwario'r arian ar wasanaethau rheng flaen allweddol, a dyma ddylai ddigwydd. 

Pan fydd unigolyn yn tipio’n anghyfreithlon mae’n cael sgil effaith enfawr, nid yn unig ar ein Bwrdeistref Sirol, ond hefyd ar y gwasanaethau sy’n cael eu dargyfeirio er mwyn cynnal y gwaith clirio. 

“Mae gweithredoedd diog y lleiafrif yn y pen draw yn effeithio arnon ni i gyd. Dyna pam y byddwn ni'n parhau i ddefnyddio’r HOLL bwerau sydd ar gael inni, i ddwyn y rheini i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae nifer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio yn eitemau y mae modd eu hailgylchu trwy fynd â nhw i'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Neu gallan nhw hyd yn oed gael eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."

I roi gwybod am achosion o dipio'n anghyfreithlon, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/rhoigwybod.

Rydyn ni gyd yn gyfrifol am sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei waredu'n gyfreithiol. Cofiwch, os byddwch chi'n rhoi'ch gwastraff i rywun sy'n ei dipio'n anghyfreithlon, mae modd i chi wynebu dirwy o £300, fan lleiaf. Mae modd i chi wirio a oes gan berson neu fusnes drwydded cludo gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu.

Wedi ei bostio ar 09/03/2026