Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn lansio ein hymgyrch Hyrwyddo Democratiaeth Leol yn unol â menter newydd Hyrwyddo Democratiaeth Leol Ewrop. Nod y rhaglen flwyddyn gyfan hon yw ei gwneud hi'n haws i drigolion lywio penderfyniadau lleol. Mae'r ymgyrch newydd yma'n disodli Wythnos Democratiaeth Leol Ewrop ac yn hyrwyddo'r cyfleoedd cyfranogi sydd ar gael i ddinasyddion drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r Cyngor wedi penderfynu cynnal wythnos hyrwyddo rhwng 9 ac 15 Mawrth er mwyn rhannu gwybodaeth am y dulliau hygyrch ac ymarferol y mae modd i drigolion fanteisio arnyn nhw i gymryd rhan yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn cynnwys:
- sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol
- sut i gofrestru i siarad mewn cyfarfodydd
- ymgynghoriadau a deisebau
- newidiadau sydd wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag Etholiad y Senedd ym mis Mai 2026
- sut i ddod yn Gynghorydd
- a chyfleoedd hawdd sydd ddim yn gofyn am lawer o ymrwymiad i ddod yn rhan o bethau, fel y Panel Dinasyddion ac ymgysylltu â phobl ifainc.
Cofrestru i bleidleisio yw'r ffordd hawsaf a phwysicaf o fynd ati i ddweud eich dweud a dod yn rhan o ddemocratiaeth leol. Dim ond 5 munud sydd ei angen arnoch chi i gofrestru, ac mae modd gwneud hynny ar-lein neu yn ysgrifenedig. Yr unig bethau sydd eu hangen arnoch chi yw eich enw llawn, eich cyfeiriad, eich rhif yswiriant gwladol a'ch dyddiad geni.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rhywbeth sy'n digwydd bob dydd yw democratiaeth leol, dydy hi ddim yn achlysur sy'n digwydd unwaith y flwyddyn. Drwy gynnal ein hymgyrch Hyrwyddo Democratiaeth Leol, a dod yn rhan o Ymgyrch Democratiaeth Leol Ewrop, rydyn ni'n sicrhau ei bod hi'n gliriach ac yn haws i bobl ddweud eu dweud, gan eu hannog nhw i wneud hynny.
“Mae modd gwneud hyn drwy siarad mewn cyfarfod, ymateb i ymgynghoriad, neu ymuno â’n Panel Dinasyddion o gartref, mae ein neges yn syml: mae eich llais chi'n newid sut rydyn ni'n gweithio.
“Rwy’n annog pob trigolyn i gymryd rhan mewn democratiaeth leol mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw.”
Mae ymgyrch eleni hefyd yn egluro'r newidiadau allweddol sydd wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag Etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, pan fydd pleidleiswyr ledled Cymru yn ethol Senedd fwy gan ddefnyddio system bleidleisio newydd. O 2026, bydd 96 o Aelodau (sy'n uwch na'r 60 o Aelodau ar hyn o bryd), yn cael eu hethol ar draws 16 etholaeth (mae pedair etholaeth yn cynnwys rhannau o ardal RhCT). Bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob ardal gan ddefnyddio system rhestr gyfrannol gaeedig (D'Hondt). Byddwch chi'n pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol.
Mae modd i chi gofrestru i bleidleisio pan fyddwch chi'n 14 oed yng Nghymru. Ond fydd dim modd i chi fwrw'ch pleidlais yn ystod etholiadau Cyngor lleol ac etholiad y Senedd nes i chi droi'n 16 oed. Rhaid i chi fod yn 18 oed i bleidleisio yn ystod Etholiad Cyffredinol y DU. Mae modd i lawer o ddinasyddion yr UE a dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru bleidleisio yn yr etholiadau yma (yn amodol ar eu trefniadau preswylio a'u gallu cyfreithiol).
Meddai'r Cynghorydd Will Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd: “Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob trigolyn - yn enwedig pobl ifainc a'r rheiny sydd ddim fel ar fer yn cymryd rhan - yn teimlo'n hyderus ynghylch democratiaeth leol.
“Rydyn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth am lwybrau ymarferol y mae modd manteisio arnyn nhw i gymryd rhan bob dydd, o ddeisebau ac ymgynghoriadau i siarad yn ystod cyfarfodydd pwyllgor. Bydd sicrhau ei bod hi'n hawdd dod yn rhan o bethau yn golygu ein bod ni'n gwneud penderfyniadau gwell.”
Wyddoch chi...
- Os ydych chi'n fyfyriwr ac yn treulio amser mewn dau gyfeiriad gwahanol, mae modd i chi gofrestru i bleidleisio A phleidleisio yn y ddau gyfeiriad.
- Does dim angen i chi fynd i orsaf bleidleisio er mwyn bwrw'ch pleidlais, mae modd i chi wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.
- Gall gofrestru ar gyfer y gofrestr etholiadol gynyddu eich sgôr credyd, sy'n hanfodol pan fyddwch chi'n gwneud cais am gontract ffôn, morgais a llawer yn rhagor!
I gofrestru, ac am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
Menter Hyrwyddo Democratiaeth Leol Ewrop: Dyma fenter flwyddyn gyfan gan Gyngor Ewrop sy'n disodli Wythnos Democratiaeth Leol Ewrop, ac sy'n hyrwyddo cyfranogiad dinasyddion ar lefel leol. Mae modd i chi ddysgu rhagor yma: Hafan - Ymgyrch Hyrwyddo Democratiaeth Leol Ewrop
Mae modd i chi ddysgu rhagor am ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd drwy fynd i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/Consultations/CurrentConsultations/ParticipationStrategy.aspx
Wedi ei bostio ar 09/03/2026