Nodwch: bydd cam cyntaf y gwaith lliniaru llifogydd ar Ffordd y Rhigos a Stryd Abertonllwyd, Treherbert yn dechrau'r wythnos nesaf. Mae'r cam yma'n ceisio mynd i'r afael â llifogydd, sy'n broblem hysbys, yn ystod cyfnodau o law trwm.
Bydd y cam cychwynnol yma – a fydd yn para hyd at chwe wythnos o ddydd Llun, 16 Mawrth – yn cael ei gynnal wrth ffynhonnell y llifogydd, ar ddarn o dir preifat ger y garej oddi ar Ffordd y Rhigos.
Bydd y gwaith yma'n gwella mewnfa'r cwlfer a chyflwyno system basn malurion, gyda'r bwriad o leihau gorlif a llifogydd.
Mae'r Cyngor wedi penodi Hammonds ECS Ltd i gyflawni'r gwaith yma, a does dim disgwyl i'r gwaith yma darfu llawer ar y gymuned leol.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal oddi ar y briffordd, gyda garej breifat yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyfleusterau lles. Does dim disgwyl i'r gwaith ar y safle greu llawer o sŵn.
Mae gwaith cam un yn cael ei gynnal ar ôl cwblhau ymchwiliadau tir ym mis Chwefror 2026, i lywio gwaith pellach yn y dyfodol.
Mae'n debyg y bydd cam dau yn cynnwys gosod strwythur cwlfer newydd yn Ffordd y Rhigos a Stryd Abertonllwyd, i ailgyfeirio llif y dŵr o'r cwlfer presennol sydd wedi'i ddifrodi.
Mae'r gwaith pellach yma wedi sicrhau cyllid yn ddiweddar gan Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27.
At ei gilydd, mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 a hynny trwy'r Grant Gwaith Graddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae £4 miliwn pellach wedi'i sicrhau i barhau â'r maes buddsoddi yma yn 2026/27.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 11/03/2026