Mae Aelodau Etholedig wedi cymeradwyo cyllideb y Cyngor ar gyfer 2026/27, yn dilyn argymhelliad y Cabinet. Cafodd adborth a gyflwynwyd yn rhan o'r ymgynghoriad dau gam ei ystyried yn rhan o'r drafodaeth, a bydd yn sicrhau nad oes unrhyw doriadau yn cael eu cyflwyno i wasanaethau er gwaethaf yr heriau ariannol parhaus.
Ochr yn ochr â diogelu ein gwasanaethau allweddol, mae cyllideb y flwyddyn nesaf yn cynyddu'r cyllid sy'n cael ei roi i ysgolion i dalu am yr holl bwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau a phwysau eraill, yn darparu £1 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yn cynyddu'r cymorth sy'n cael ei roi yn rhan o Gynllun Lleihau Ardrethi Busnes lleol y Cyngor er budd busnesau ledled Rhondda Cynon Taf.
Cymeradwyodd y Cynghorwyr gyllideb y flwyddyn nesaf yn ystod cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar ddydd Mercher, 4 Mawrth, a hynny'n dilyn argymhelliad y Cabinet yn ystod ei gyfarfod diweddar ddydd Llun, 23 Chwefror. Mae'r penderfyniadau yma wedi galluogi'r Cyngor i bennu cyllideb gyfreithiol fantoledig ar gyfer 2026/27, yn unol â'r amserlen gyfreithiol a bennwyd.
Darparodd swyddogion adroddiadau rheolaidd i'r Cabinet a oedd yn amlinellu'r broses o bennu'r gyllideb. Roedd y diweddariad a ddarparwyd ym mis Ionawr yn trafod setliad terfynol Llywodraeth Cymru – a gafodd ei gymeradwyo ar 9 Rhagfyr, gan alluogi swyddogion i gymeradwyo Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer Cynghorau ac yn cynrychioli cynnydd o 4.5% yn lefel y cyllid sy'n cael ei ddarparu i Rondda Cynon Taf – sef yr un lefel o gyllid sy'n cael ei ddarparu ar gyfartaledd i Gynghorau Cymru. Pan ystyriwyd y cyllid yma, ynghyd â'r pwysau diweddaraf y mae'r Cyngor yn eu hwynebu o ran gwariant, roedd bwlch yn y gyllideb gwerth £6.4 miliwn yn parhau.
Cynhaliwyd ail gam yr ymgynghoriad blynyddol mewn perthynas â chyllideb y Cyngor ar ddechrau mis Chwefror 2026, gan ganolbwyntio ar strategaeth gyllideb ddrafft – y mae elfennau allweddol ohoni wedi’u nodi isod. Roedd y broses yn cynnwys achlysuron galw heibio cyhoeddus wyneb yn wyneb ym Mhontypridd, Aberpennar a Threorci, yn ogystal â chyfleoedd i ymgysylltu â grwpiau penodol a chyfle i drigolion gymryd rhan ar-lein.
At ei gilydd, cytunodd 85% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg â'r cynnydd mewn cyllid ar gyfer ysgolion, cytunodd 80% â dull y Cyngor o barhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd a chytunodd 78% o'r rhai a ymatebodd â'r newidiadau i ffioedd a thaliadau.
Elfennau allweddol o'r Gyllideb ar gyfer 2026/27
Bydd y gyllideb yn cynyddu lefel y gefnogaeth y mae Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes lleol y Cyngor yn ei darparu i fusnesau cymwys ledled Rhondda Cynon Taf. Darparodd y cynllun lleol £300 i fusnesau cymwys pan gafodd ei gyflwyno yn 2020/21 a chafodd lefel y gefnogaeth ei chynyddu i £500 yn 2025/26. Bydd y gyllideb yn cynyddu'r cyllid yma i £625 ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda chynnydd pellach i £750 yn 2027/28. Rydyn ni'n amcangyfrif y bydd tua 1,400 o fusnesau lleol yn gymwys ar gyfer y cynllun yma.
Bydd cyllideb 2026/27 y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu ysgolion, fel sydd wedi digwydd yn ystod blynyddoedd blaenorol, gan gynnwys yn ystod cyfnodau heriol iawn o safbwynt ariannol. Yn 2026/27, bydd y gyllideb yn talu am yr holl bwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau a phwysau eraill, ac yn darparu £1 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol. At ei gilydd, bydd cyllideb yr ysgolion yn cynyddu £10.4 miliwn neu 4.8% yn ystod y flwyddyn nesaf, a bydd yn cael ei hariannu'n llawn.
Dros nifer o flynyddoedd, mae'r Cyngor wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd sylweddol nad ydyn nhw'n effeithio'n fawr ar ddarparu gwasanaethau. Mae hon wedi bod yn rhaglen ledled y Cyngor sydd wedi cynnwys arbedion gwerth £13 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol (2025/26) a £40 miliwn dros y tair blynedd diwethaf. Mae'r gyllideb sydd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2026/27 yn cynnwys arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £6.335 miliwn.
Bydd ffioedd a thaliadau’r Cyngor yn cynnwys cynnydd safonol o 5%, gan gydnabod y cynnydd sylweddol yn sylfaen costau’r Cyngor a lefel y cymhorthdal sy'n cael ei ddarparu yn sgil hynny. Cytunwyd ar nifer o eithriadau penodol i'r cynnydd safonol yma, fel y nodir yn yr adroddiad a drafodwyd gan y Cabinet, ochr yn ochr â'r gyllideb, yn ystod ei gyfarfod ym mis Ionawr 2026.
Bydd cyllideb y flwyddyn nesaf yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i weithredu'n rhesymol mewn perthynas â lefelau Treth y Cyngor, gan gydbwyso'r effaith ar wasanaethau a gallu'r cyhoedd i dalu. Mae'r gyllideb yn cynnwys cynnydd o 4% yn lefelau Treth y Cyngor, sydd unwaith eto'n debygol o fod ymhlith y lefelau isaf o'i gymharu â Chynghorau eraill ledled Cymru. Bydd y bwlch yn y gyllideb sy'n weddill gwerth £911,000 yn cael ei reoli trwy ddefnyddio cronfa Cyllid Trosiannol wrth gefn y Cyngor.
Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Bydd cyllideb 2026/27 y Cyngor yn cael ei phennu, a hynny ar ôl i Aelodau Etholedig gymeradwyo argymhellion y Cabinet yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth. Mae'r setliad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl ac mae hyn wedi ein galluogi ni i amddiffyn ein meysydd blaenoriaeth a chyflwyno cyllideb nad yw'n cynnwys unrhyw doriadau i wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw, er gwaethaf yr heriau ariannol sylweddol y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu. Mae'r gwaith sydd wedi'i gynnal ym mhob maes gwasanaeth i nodi arbedion effeithlonrwydd gwerth miliynau o bunnoedd wir wedi helpu'r sefyllfa yma.
“Mae llawer o bethau i’w dathlu yn y gyllideb y cytunwyd arni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd y gyllideb yn talu am yr holl bwysau sy'n gysylltiedig â chyflogau a phwysau eraill sy'n cyfateb i gynnydd yng nghyllideb yr ysgolion gwerth mwy na £10 miliwn – wrth i ni barhau i flaenoriaethu'r maes yma yn rhan o gyllideb y Cyngor. Yn rhan o'r gwaith yma, rydyn ni hefyd wedi dyrannu £1 miliwn ychwanegol i'n hysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol, tra bydd tua 1,400 o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf yn elwa o lefel rhyddhad ardrethi uwch o'r flwyddyn nesaf. Bydd y cymorth yma'n cynyddu eto yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.
“Hoffwn i ddiolch i’r trigolion a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad dau gam am eu hadborth, sydd wedi helpu i lywio cyllideb 2026/27. Mae'r adborth yn werthfawr iawn ac yn ein helpu ni i ddeall a yw ein blaenoriaethau'n cyd-fynd â blaenoriaethau ein trigolion, gan ein helpu ni i wneud penderfyniadau pwysig ar draws ein gwasanaethau. Mae addysg, gofal cymdeithasol, gwasanaethau'r amgylchedd a'n ffyrdd yn cynrychioli rhai o'r meysydd pwysicaf ym marn ein trigolion, ac rydw i'n hyderus bod ein cyllideb yn blaenoriaethu'r materion yma yn y ffordd orau bosibl, ynghyd â'n rhaglen gyfalaf sy'n cael ei chyflawni flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Er bod cyllideb 2026/27 y Cyngor yn gadarnhaol ar y cyfan, rydyn ni'n gwerthfawrogi'r heriau ariannol tebygol sydd o'n blaenau – a hynny yng nghyd-destun costau byw uchel iawn a’r galw cynyddol am ein gwasanaethau. Mae swyddogion eisoes yn trafod pennu cyllideb 2027/28, a hynny er mwyn ennill dealltwriaeth well o'r sefyllfa ariannol yn gynnar ac i ymgynghori â thrigolion unwaith eto yn rhan allweddol o'r broses."
Wedi ei bostio ar 06/03/2026