Mae ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi'i choroni’n bencampwyr ailgylchu!
Enillodd Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg brif wobr cystadleuaeth Ail-wisgo'r Wisg Cyngor Rhondda Cynon Taf i ysgolion. Casglodd yr ysgol bron i 1.5 cilogram o wisgoedd ysgol fesul disgybl – sy'n cyfateb i 6 siwmper ysgol yr un i bob disgybl!
Roedd Ysgol Gynradd Coedpenmaen yn ail agos iawn, a daeth Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn drydydd.
Roedd yr her, a gafodd ei gosod ym mis Gorffennaf, yn gofyn i'r disgyblion gasglu cynifer o wisgoedd ysgol nad oedd yn cael eu defnyddio â phosibl, a dod â nhw i'w hysgol er mwyn eu hailddefnyddio neu’u hailgylchu. Yna, cafodd yr holl wisgoedd ysgol a gafodd eu casglu eu cyfrif yn unol â nifer y disgyblion yn yr ysgol er mwyn dod o hyd i'r enillydd.
Cymerodd 36 ysgol ran yn yr her, a chafodd dros 3,227 cilogram o wisgoedd ysgol eu casglu – sy'n cyfateb i bwysau 12,908 o siwmperi ysgol!
Derbyniodd y 3 ysgol fuddugol y gwobrau ariannol canlynol am eu hymdrechion:
- £300 i Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg
- £100 i Ysgol Gynradd Coedpenmaen
- £50 i Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn
Cafodd y 3 ysgol ymweliad arbennig gan garfan Canolfan Addysg Bryn Pica yn Llwydcoed a roddodd eu gwobrau iddyn nhw.
Mae'r garfan ymroddedig yn y ganolfan yn cynnig cyfle i bob ysgol a grŵp cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf ymweld â Chanolfan Addysg bwrpasol a rhyngweithiol lle mae llawer o adnoddau a gwybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Mae cyfle yno hefyd i gael profiad o ddidoli deunyddiau i’w hailgylchu yn y Cyfleuster Adfer Deunyddiau Bach. Pe hoffech chi ragor o fanylion i'ch ysgol neu'ch grŵp, ewch i www.rctcbc.gov.uk/YmweldBrynPica.
Meddai'rAelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd, y Cynghorydd Ann Crimmings:
"Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.
"Fe wnaethon nhw gasglu swm anhygoel, sy'n golygu bod dros 3,200 cilogram o wastraff posibl yn cael ei ailddefnyddio neu’i ailgylchu.
"Mae'r disgyblion wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ailgylchu ac yn deall pam mae mor bwysig. Dylai ailgylchu fod yn rhan annatod o'n bywydau bellach. Wrth i le i'n gwastraff ddod yn fwy prin, rhaid i ni wneud pob dim o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n lleihau faint rydyn ni'n cael gwared arno, ac yn ailddefnyddio ac yn ailgylchu cymaint ag y gallwn ni ar bob cyfle. Mae'r Cyngor yn cefnogi gwasanaethau amrywiol i helpu trigolion i ailgylchu, gan gynnwys gwasanaeth ailgylchu sych, bwyd a chewynnau bob wythnos wrth ymyl y pafin.
"Gyda'n gilydd gallwn ni wneud gwahaniaeth, fel mae'r disgyblion ysgol yma wedi dangos. Daliwch ati!"
Os ydych chi'n barod i wynebu'r her ailgylchu, mae modd ichi chwarae'r GÊM ar www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu. Cofiwch rannu eich sgoriau uchel gyda ni ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio'r hashnod #GemAilgylchuRhCT
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad i'ch ysgol neu grŵp cymunedol chi, ewch i www.rctcbc.gov.uk/YmweldBrynPica, neu e-bostiwch YmweldBrynPica@rctcbc.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch y Cyngor ar Facebook ac Instagram, neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Wedi ei bostio ar 09/03/2026