Skip to main content

Gwobrwyo a dathlu rhieni maeth ymroddedig RhCT

RCT Pioneer Award winners

Mae rhieni maeth ymroddedig Rhondda Cynon Taf wedi ennill gwobr genedlaethol am y cymorth gwych maen nhw'n ei gynnig i'w cyd-rieni maeth, plant, pobl ifainc a theuluoedd.

Cafodd Arloeswyr Maethu Cymru RhCT eu cydnabod gan y Rhwydwaith Maethu am eu hymrwymiad rhyfeddol i'w cymheiriaid ac i barhau i godi safonau mewn maethu.

Mae Tracy a Matthew Lockyer, Tracy a Lee Grenter, Tyrone Willams, Tim a Tor Rickards, Sue Smith, Danielle Gauvain, Sian Roberts, Zoe a Mike Tutton, Ruth Hawkins a Leah Howells i gyd yn Arloeswyr - rhieni maeth profiadol sy'n rhannu eu sgiliau a'u gwybodaeth gyda'u cymheiriaid.

Mae pob un ohonyn nhw wedi helpu i greu amgylchedd meithringar a phroffesiynol lle mae profiad bywyd yn datblygu sgiliau a hyder.

Maen nhw'n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi rhieni maeth sydd newydd gael eu cymeradwyo a gweithio ar y cyd i lywio polisi a gwelliannau pellach, yn aml ar lefel genedlaethol.

Mae arloeswyr hefyd ar flaen y gad mewn achlysuron i'r cyhoedd ac ymgyrchoedd gwybodaeth sydd wedi'u trefnu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gofal maeth.

Mae eu hymrwymiad i gydweithio a chefnogi cymheiriaid wedi cryfhau'r system faethu yn RhCT ac wedi helpu i wella deilliannau i blant mewn gofal, gan arwain at y Rhwydwaith Maethu yn cydnabod Arloeswyr gyda Gwobr i Grŵp yn ei Gynhadledd Les flynyddol. 

Yn ogystal â bod yn arwydd o ymrwymiad yr Arloeswyr, mae'r wobr yn gydnabyddiaeth o'r amgylchedd o ansawdd uchel y mae Maethu Cymru RhCT wedi ymdrechu i'w greu i gefnogi ei rieni maeth ac, yn ei dro, plant lleol, pobl ifainc a theuluoedd.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys Gofal Maeth: "Mae pob rhiant maeth Maethu Cymru RhCT yn unigolyn arbennig sy'n defnyddio'i sgiliau a'i wybodaeth ei hun i gynnig y gofal lleol gorau i blant a phobl ifainc lleol. Rydyn ni'n falch o bob un ohonyn nhw."

“Mae cynllun yr Arloeswyr yn rhoi cyfle i rai o'n rhieni maeth mwy profiadol rannu eu sgiliau helaeth a'u profiad bywyd gyda'u cymheiriaid. Maen nhw'n creu amgylchedd o gefnogi a mentora cryf i gymheiriaid ac yn cefnogi datblygiad sgiliau a hyder pellach.

“Mae arloeswyr yn chwarae rhan hanfodol wrth annog rhagor o bobl i ystyried maethu a chefnogi rhieni maeth sy'n newydd i Faethu Cymru RhCT – gan dawelu meddyliau’r rhai sydd heb faethu o’r blaen a chroesawu’r rhai sydd wedi ymuno â’r gwasanaeth o sefydliadau maethu eraill.

“Does neb gwell i'ch cefnogi chi na rhywun a oedd unwaith yn rhiant maeth newydd ei hun ac sydd bellach â blynyddoedd o sgiliau a phrofiad i’w rhannu.

“Da iawn i'r Arloeswyr, mae'r wobr yma'n gydnabyddiaeth o'r gwaith hanfodol rydych chi'n ei wneud ac mae'n haeddiannol iawn. Diolch am ein helpu i lywio gwasanaeth maethu effeithiol, proffesiynol a meithringar.

"Rhaid hefyd sôn am garfan ehangach Maethu Cymru RhCT, yn ogystal â staff y Gwasanaethau i Blant, sy'n cydnabod bod rhaid i ni ddatblygu dulliau dewr fel hyn yn aml er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r bobl sydd ein hangen ni fwyaf.”

 

Meddai rhiant maeth arloesol, Tracy Grenter: “I fi, rydw i'n cwblhau'r cylch. Fe ges i gymorth gwych pan ddechreuais i faethu -  o flynyddoedd yn ôl.

“Rydw i nawr yn cael ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Pan fydd fy nghyfnod yn rhiant maeth yn dod i ben, bydda i'n gwybod bod straeon, profiadau a chyngor wedi'u rhannu... gan gwblhau'r cylch.

“Dydw i ddim yn ystyried maethu'n swydd, mae'n alwedigaeth, ond mae'n hyfryd cael cydnabyddiaeth bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn bwysig. Bod yn rhan o'r darlun ehangach, hau'r hadau, gwylio ein pobl ifainc yn ffynnu. Dydw i ddim yn gwneud hyn ar fy mhen fy hun, mae nifer o bobl yn gefn i fi. Rydyn ni i gyd yn cael cefnogaeth yn ystod bywyd ac rydw i'n credu bod cefnogi ein gilydd yn rhieni maeth yn ein helpu i fynd o nerth i nerth.”

Meddai cyd-riant maeth arloesol, Tyrone Griffiths: “Mae'r gydnabyddiaeth am wneud rhywbeth rydyn ni mor frwdfrydig amdano yn hyfryd. Mae'n atgyfnerthu'r rheswm pam rydyn ni'n ei wneud ac yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i rieni maeth eraill, y plant rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw, a gofal rhieni maeth eraill hefyd.

Mae helpu ein gilydd yn hollbwysig ac mae angen y cymorth hwnnw wrth fagu plentyn! Rydyn ni'n ei gymryd o ddifrif, felly mae cael cydnabyddiaeth yn wych.”

Mae Maethu Cymru RhCT yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i'w rieni maeth. Ochr yn ochr â lwfans wythnosol, gall rhieni maeth yr awdurdod lleol ddisgwyl derbyn y canlynol:

  • Rhieni maeth arloesol gwych
  • Gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol a charfan gymorth ymroddedig
  • Taliad cadw o £1,000 wedi'i dalu mewn dau randaliad gwerth £500
  • Grwpiau cymorth lleol, gan gynnwys cymorth dros goffi a sesiynau sgwrsio a cherdded
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth
  • Tocynnau hamdden teuluol am ddim a gostyngiadau unigryw eraill
  • Achlysuron ymgynghori ar gyfer rhieni maeth i helpu i lywio'r gwasanaeth maethu.

 

Gall maethu gynnwys arhosiad dros nos, seibiant byr, neu rywbeth mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol ac mae anghenion pob un yn amrywio o ran gofal maeth. Mae pob teulu maeth yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn wahanol.

A allwch chi ymuno â’n cymuned maethu yma ym RhCT?
Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ddydd Llun 13 Ebrill, 7–8. Mae hon yn gyfle i chi dderbyn gwybodaeth, gofyn cwestiynau a siarad â swyddogion recriwtio a maethwyr profiadol o gysur eich cartref eich hun 
Defnyddiwch y ddolen isod i gadw eich lle 

Mae Maethu Cymru RhCT yn parhau i groesawu ymholiadau gan unigolion a theuluoedd sydd â diddordeb mewn maethu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan: https://rhct.maethucymru.llyw.cymru/

Wedi ei bostio ar 06/03/2026