Skip to main content

Y Cabinet yn cytuno ar broses ymgynghori ar y gyllideb gyda cham un yn dechrau'n fuan

Budget-2026-Social-Media-WELSH - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau cam cyntaf ei ymgynghoriad cyhoeddus blynyddol mewn perthynas â Chyllideb y flwyddyn nesaf (2026/27) yn fuan, a hynny ar ôl i'r Cabinet gytuno i barhau â'r dull dau gam sydd eisoes wedi'i sefydlu. Bydd cam un yn canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Cyngor o ran buddsoddi, a bydd cyfle i bobl gymryd rhan ar-lein yn ogystal â chyfleoedd ymgysylltu wyneb yn wyneb.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar ddydd Mercher, 22 Hydref, yn rhannu manylion y dull arfaethedig o ran ymgysylltu â thrigolion a rhanddeiliaid. Bob blwyddyn, mae dau gam y broses ymgynghori yn chwarae rhan bwysig yn y broses o bennu Cyllideb y Cyngor, gan fod y safbwyntiau a gesglir gan y cyhoedd yn darparu gwybodaeth berthnasol i uwch swyddogion y Cyngor ac Aelodau'r Cabinet gan lywio eu penderfyniadau terfynol.

Ddydd Mercher, cymeradwyodd y Cabinet y dulliau arfaethedig o ran ymgynghori â thrigolion, a'r amserlen ar gyfer y gwaith yma. Bydd cam un yn cael ei gynnal yn hydref 2025, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau buddsoddi, lefelau Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd. Bydd hyn yn helpu i lywio'r Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27. Bydd ail gam yr ymgynghoriad, sy'n cael ei gynnal yn gynnar yn 2026, yn canolbwyntio ar y strategaeth ddrafft hon.

Mae modd i'r Cyngor gadarnhau y bydd yr ymgynghoriad cam un ar gyfer Cyllideb 2026/27 yn cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 3 Tachwedd - a bydd yn para chwe wythnos, tan ganol mis Rhagfyr.

Gwefan Dewch i Siarad RhCT fydd prif wefan yr ymgynghoriad. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth allweddol yn amlinellu cyd-destun a chefndir y gyllideb, ynghyd â chyfleoedd ymgysylltu sy'n rhoi cyfle i chi gyflwyno adborth. Mae hyn yn cynnwys efelychydd cyllideb rhyngweithiol sy'n gofyn i drigolion ddewis y gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw ar raddfa symudol, yn seiliedig ar y cyllid sydd ar gael. Mae'r adnodd hawdd ei ddefnyddio yma wedi'i ddatblygu ers ei gyflwyno y llynedd.

Bydd sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r broses ac annog ymgysylltu trwy gydol yr ymgynghoriad, tra bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at randdeiliaid allweddol (gan gynnwys Panel y Dinasyddion, Cynghorwyr a staff).

Mae modd i drigolion hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros y ffôn drwy ffonio Canolfan Alwadau'r Cyngor (01443 425014), lle byddwn ni'n cynnig apwyntiadau unigol dros y ffôn. Mae modd anfon arolygon papur a gwybodaeth ar gais, a bydd cyfeiriad Rhadbost ar gael er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad trwy'r post. Anfonwch y rhain i'r cyfeiriad yma: Rhadbost (RUGK-EZZL-ELBH), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.

Bydd nifer o achlysuron ymgysylltu wyneb yn wyneb hefyd yn cael eu cynnal yn ein cymunedau lleol. Bydd yr achlysuron yma'n rhoi cyfle i ni amlinellu dull y Gyllideb, ateb cwestiynau, a chasglu barn y cyhoedd. Bydd yr achlysuron yma'n fodd i drigolion lleol siarad yn uniongyrchol â swyddogion am wasanaethau'r Cyngor. Bydd y Cyngor yn rhannu'r dyddiadau a'r lleoliadau ar ôl cwblhau'r trefniadau.

Byddwn ni hefyd yn ymgysylltu â nifer o 'Rhwydweithiau Cymdogaeth' – yn ogystal â grwpiau fel y Grŵp Cynghori Pobl Hŷn, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y Cydbwyllgor Ymgynghorol, Cylch Trafod Cyllideb Ysgolion a'r Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned. Bydd ein carfan Gwasanaethau Ieuenctid hefyd yn archwilio dull rhyngweithiol o ran ymgysylltu â phobl ifanc.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Bob blwyddyn, mae’r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â'r cyhoedd mewn perthynas â'r broses o bennu'r Gyllideb. Mae'r Cabinet wedi cytuno eto i fabwysiadu dull dau gam ar gyfer 2026/27, bydd y dull yma'n golygu bod barn y bobl wedi'i llywio gan yr wybodaeth fwyaf diweddar a pherthnasol, a hynny ar wahanol gamau o'r broses.

“Er bod gyda ni fformiwla sydd wedi’i hen sefydlu, rydyn ni o hyd yn ystyried sut y gellir ei datblygu ymhellach, gan sicrhau bod modd i ni gyrraedd rhagor o drigolion – ar-lein ac all-lein. Cymerodd mwy na 1,100 o bobl ran yn y broses y llynedd, ac ers hynny mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Strategaeth Cymryd Rhan newydd, sy'n cryfhau ein hymrwymiad tuag at sicrhau bod modd i bawb yn y gymuned ddweud eu dweud ar sut mae ein gwasanaethau yn cael eu cynllunio a'u darparu, a'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud.

“Mae derbyn mewnbwn gwerthfawr gan drigolion yn bwysicach fyth eleni gan ystyried yr heriau ariannol parhaus ym maes Llywodraeth Leol. Rhybuddiodd Cynllun Ariannol Tymor Canolig mis Medi am y cyfnod heriol iawn sydd o'n blaenau o ganlyniad i ffactorau fel pwysau costau byw parhaus – mae hyn yn dilyn cyfnod parhaus o ostyngiadau cyllido mewn termau real dros nifer o flynyddoedd.

“Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi nodi y bydd Cyllideb un flwyddyn yn cael ei chyflwyno ar gyfer 2026/27, gan gynyddu gwariant y flwyddyn gyfredol yn unol â lefelau chwyddiant yn unig (2%). Gan ystyried bod costau cyflogau a chostau eraill yn cynyddu llawer yn uwch na'r lefel hon, bydd pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf. Mae'r gwaith modelu sefyllfa ariannol sydd wedi'i gynnal gan swyddogion yn awgrymu bwlch posibl gwerth £28.2 miliwn y flwyddyn nesaf, a hynny cyn ystyried lefelau Treth y Cyngor. Bydd y sefyllfa hon yn dod yn gliriach yn dilyn cyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru. Mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025.

“Byddwn i'n annog trigolion sydd â diddordeb i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad cam un o’r wythnos sy’n dechrau 3 Tachwedd. Mae modd iddyn nhw gymryd rhan ar-lein, mewn achlysuron lleol, dros y ffôn a thrwy’r post – a bydd modd iddyn nhw hefyd ddefnyddio'r efelychydd cyllideb unwaith eto, sy'n rhoi cyfle i drigolion bennu eu blaenoriaethu nhw gan ystyried y cyllid sydd ar gael.”

Wedi ei bostio ar 29/10/2025