Efallai bydd trigolion Cwm-bach yn sylwi ar waith o'r wythnos nesaf ymlaen ger cwrs dŵr Nant-y-groes, yn rhan o raglen cynnal a chadw tomenni glo'r Cyngor.
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn cynnwys cwblhau gwaith rheoli llystyfiant ar hyd y cwrs dŵr, er mwyn caniatáu i waith arolygu pellach gael ei gynnal.
Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle o ddydd Llun, 3 Tachwedd ymlaen, ac yn para am oddeutu chwe wythnos.
Bydd ardal y gwaith ar hyd y cwrs dŵr - oddi ar Heol Cwm-bach (ger mynedfa'r cae chwarae), i gyfeiriad y gogledd tuag at bwynt sydd i'r gogledd-ddwyrain o Rodfa Conwy, ac i'r gogledd-orllewin o ben uchaf Heol Blaen Nant-y-groes.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf, a fydd yn cael mynediad i ardaloedd deheuol y safle oddi ar Heol Cwm-bach, ac ardaloedd gogleddol y safle oddi ar Bant yr Eos a'r hen reilffordd.
Does dim disgwyl i'r gwaith darfu llawer ar y gymuned, ond bydd ychydig o sŵn wrth i offer llaw gael eu defnyddio. Bydd cerbydau'n symud hefyd wrth gael mynediad i’r safle. Yr oriau gwaith fydd rhwng 8am a 5pm.
Mae'r gwaith yma wedi'i ariannu yn rhan o'r dyraniad gwerth £11.49 miliwn o Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau'r cyllid yma er mwyn galluogi ei Garfan Diogelwch Tomenni benodol i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.
Diolch i gymuned Cwm-bach am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith gael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 29/10/2025