Skip to main content

Peidiwch â cholli Rasys Nos Galan 2025!

WhatsApp-Image-2025-01-02-at-13.47.45-(1)

Rydyn ni'n dweud yr un peth bob blwyddyn - peidiwch â cholli Rasys Nos Galan 2025!

Mae'r achlysur yn parhau i fynd o nerth i nerth ers 67 mlynedd, gyda lleoedd ar draws pob categori ras yn gwerthu allan o fewn dyddiau iddyn nhw gael eu rhyddhau.

Felly, paratowch i ymgeisio, oherwydd bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau wythnos nesaf.

Fel arfer, byddwn ni'n rhyddhau lleoedd ar gyfer pob ras - y ras i blant, elît i ddynion, elît i fenywod a'r ras hwyl - mewn camau, fel bod gan bawb gyfle i gadw lle.

Ymunwch â'r rasys elît i ddynion a menywod, ras hwyl (gwisg ffansi yn ddewisol) a chategorïau rasys i blant ar y noson. 

Dyma'r dyddiadau ar gyfer rhyddhau lleoedd ar gyfer Rasys Nos Galan 2025:

1. Dydd Llun, 8 Medi am 9am

2. Dydd Llun, 15 Medi am 12pm

3. Dydd Llun, 22 Medi am 6pm

 Unwaith y bydd lleoedd wedi mynd - byddan nhw wedi mynd - felly sicrhewch eich bod chi ar-lein ac yn barod i gadw'ch lle ar www.nosgalan.co.uk ar y dyddiadau ac amseroedd uchod.

Dyma'ch cyfle i ymuno yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf poblogaidd Cymru, sy'n digwydd yn Aberpennar ar Nos Galan.

Nid noson o gyflawniad ym maes chwaraeon yn unig yw hi, gyda channoedd o redwyr o bob oed a gallu yn cymryd rhan, ond hefyd yn achlysur ysbrydoledig, gyda Rhedwr Dirgel enwog o fyd chwaraeon yn cychwyn y rasys yn swyddogol – pwy fydd ef eleni?

Y llynedd, gwnaethon ni groesawu'r bocsiwr Cymreig byd enwog Lauren Price MBE, ac roedd y dorf wrth ei bodd. Ymunodd Ria Burrage-Male o Aberdâr, sy’n gyn-chwaraewr hoci Gemau'r Gymanwlad a menyw fusnes, â’r ferch o’r Cymoedd.

Mae hefyd yn noson o hwyl a thraddodiad i'r teulu – bydd cannoedd o gefnogwyr yn clodfori'r rhedwyr, i gwrdd â'r Rhedwr Dirgel a mwynhau awyrgylch unigryw'r rasys. Bydd y ffair hwyl a'r tân gwyllt hefyd yn dychwelyd ar gyfer 2025.

Mae eleni yn nodi 67 mlynedd ers dechrau Rasys Nos Galan, a sefydlwyd ym 1958 gan y diweddar Bernard Baldwin MBE i ddathlu’r chwedl leol Guto Nyth Brân. Fe oedd y dyn cyflymaf ar y ddaear a allai ddal aderyn yn ei ddwylo ei hun, yn ôl y sôn.

Ganed Guto ym 1700, ac mae'n destun chwedlau lu. Yn ôl y sôn, roedd yn gallu mynd o amgylch defaid ei dad o'r mynydd yn gyflymach nag unrhyw gi defaid a rhedeg o'i gartref i'r siopau ac yn ôl cyn i'r tegell ar stof ei fam gael cyfle i ferwi.

Enillodd nifer o rasys yn erbyn cystadleuwyr o bob man ac ar linell derfyn ei ras olaf, a enillodd ef, wrth gwrs, bu farw Guto ym mreichiau ei gariad, Sian y Siop. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno ac mae modd i chi ymweld â'i fedd.

Mae yna wasanaeth yn yr Eglwys ac mae torch yn cael ei gosod ar ei fedd ar ddechrau Nos Galan bob blwyddyn.

Lansiwyd Rasys  Nos Galan gan Bernard Baldwin MBE. Daethon nhw'n fwy poblogaidd a chawson nhw eu darlledu'n aml. Erbyn hyn mae'r achlysur yn denu dros 2,000 o redwyr o bob rhan o’r DU, gan gystadlu ar ystod o lefelau yn y rasys hanesyddol, yn ogystal â denu miloedd o gefnogwyr i strydoedd Aberpennar.

Mae'r achlysur yn cychwyn gyda rasys y plant, cyn i'r Rhedwr Dirgel gyrraedd gyda ffagl Nos Galan, sy'n cael ei ddefnyddio i oleuo goleudy Nos Galan yn y dref. Mae Rhedwyr Dirgel blaenorol wedi cynnwys Linford Christie, Nigel Owens, Chris Coleman, James Hook, Jamie Roberts, Nicole Cooke ac, wrth gwrs, Lauren Price MBE.

Mae tân gwyllt yn llenwi'r awyr ar Nos Galan, cyn i'r Rasys Elitaidd i Ddynion a Menywod, a'r Ras Hwyl boblogaidd ddigwydd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Mae galw mawr am leoedd ar gyfer Rasys Nos Galan ymhell ar ôl iddyn nhw werthu allan. Mae'n anodd dweud wrth bobl sy'n awyddus iawn i gymryd rhan bod dim lle ar ôl.

“Felly, wrth i ni baratoi ar gyfer Nos Galan 2025, dyma’ch atgoffa y bydd y lleoedd ar werth ym mis Medi. Mae gyda chi dri dyddiad rhyddhau, sef tri chyfle i sicrhau lle mewn digwyddiad chwedlonol sy'n dal i fod yn boblogaidd ar ôl 67 mlynedd.

“Mae’n ffordd wych o ddathlu diwedd y flwyddyn a dechrau'r flwyddyn newydd ac mae’r gwylwyr yn cael yr un faint o hwyl â'r rhedwyr trwy fod yn rhan o’r awyrgylch hudolus. Rydyn ni mor falch o Nos Galan a'r ffaith ei fod wedi cadw'r chwedl yn fyw cyhyd.

"Mae rhywbeth at ddant pawb. Mae modd i blant cymryd rhan yn y ras a chael eu cyfle eu hunain ar y podiwm gyda medal boblogaidd. Mae'r rasys elitaidd yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn ac, wrth gwrs, mae gyda ni'r Rhedwr Dirgel enwog a thân gwyllt. Am ffordd i ddathlu Nos Galan!"

Wedi ei bostio ar 01/09/2025