Skip to main content

Gweithio sifftiau nos ar gyfer cam nesaf datblygiad mawr ym Mhontypridd

Pontypridd closure - Copy

Dyma wybodaeth i gymuned Pontypridd am y mesurau rheoli traffig nesaf ar gyfer y gwaith o ddymchwel yr Orsaf Heddlu a Maes Parcio Heol Berw. Bydd y mesurau ar waith o 7pm tan 2am, rhwng 1 a 4 Medi. Bydd y mesurau ar waith gyda'r nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Fydd dim modd defnyddio'r troad i'r chwith i Heol Berw (sydd i'w weld yn y llun) dros dro. Fydd dim mesurau rheoli traffig yn ystod y dydd, rhwng cyfnodau o waith.

Yn ddiweddar, cwblhaodd y Cyngor y trefniadau ar gyfer cau Maes Parcio Heol Berw yn barhaol ar 30 Gorffennaf. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad gyda Heddlu De Cymru a gadarnhaodd y camau nesaf ar gyfer plismona ym Mhontypridd. Mae adeilad yr Heddlu ar Heol Berw wedi cael ei drosglwyddo i'r Cyngor, a bydd canolfan Heddlu newydd, sy'n weladwy a hygyrch yng nghanol y dref, yn cael ei sefydlu ar Stryd y Taf.

Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn datblygu ac yn trin a thrafod datblygiad aml-ddefnydd a fydd yn cwmpasu safleoedd hen orsaf yr heddlu a'r maes parcio. Mae'r opsiynau posibl ar gyfer y safle'n cynnwys gwell mannau cyhoeddus, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i'r gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.

Dechreuodd y cam dymchwel ar gyfer y ddau adeilad ar 3 Awst, a bydd contractwr y Cyngor, Prichard’s, yn gwneud y gwaith yma tan ddechrau 2027. Yn ystod y chwe wythnos gyntaf ar y safle, bydd y gweithgareddau'n cynnwys sefydlu man ar y safle ar gyfer y peiriannau/offer, cynnal arolygon arbenigol a gwaith gwaredu, gwaith rhagarweiniol mewnol, gosod sgaffaldiau, ac yna dechrau dymchwel yr adeilad. Mae'r cam dymchwel yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 

Caewyd lôn ar Stryd Morgan (ger Gorsaf Fysiau Pontypridd) ar 3 Awst a bydd ar gau hyd nes y bydd y cam dymchwel wedi'i gwblhau. Bydd y llwybr troed o amgylch adeiladau’r orsaf heddlu a maes parcio hefyd yn parhau i fod ar gau.

Cam nesaf y mesurau rheoli traffig gyda'r nos 

Yn ddiweddar, gosododd cwmni Prichard's sgaffaldiau ar ran o'r adeilad gan ddefnyddio mesurau rheoli traffig yn ystod y dydd (17-21 Awst). Roedd y rhain yn cynnwys signalau dros dro wrth gyffordd Heol Berw / Stryd y Bont, a chau lôn ger y fferyllfa ar Heol Berw. Llwyddwyd i gwblhau'r gwaith yma yn unol â'r amserlen.

Ar y pryd, rhoddodd y Cyngor rybudd bod angen ail wythnos o waith i osod sgaffaldiau ar ran wahanol o'r adeilad. Mae'r trefniadau bellach wedi'u cwblhau, a bydd modd cynnal y gwaith yn ystod y nos. Mae'n cynnwys:

  • Cau'r lôn troi i'r chwith ar Stryd Morgan, gan ddechrau o bwynt ger y Muni, hyd at gyffordd Heol Berw / Stryd y Bont. O ganlyniad, fydd dim modd troi i'r chwith wrth y gyffordd yma i Heol Berw – fel mae'r map canlynol yn dangos. Bydd y trefniadau yma ar waith rhwng 7pm a 2am o ddydd Mawrth, 1 Medi, tan ddydd Gwener, 4 Medi. Bydd angen i bob gyrrwr sydd am droi i'r chwith ddargyfeirio ar gylchfan Stryd y Bont, teithio i'r gyffordd o'r cyfeiriad arall, a throi i'r dde i Heol Berw. Fydd dim angen goleuadau traffig dros dro, a fydd dim mesurau rheoli traffig ychwanegol ar Heol Berw ei hun.

Sylwch, bydd y troad i'r chwith oddi ar y brif ffordd tuag at Orsaf Fysiau Pontypridd a'r Iard Nwyddau yn parhau i fod ar gael. Bydd y trefniadau ar waith am bedair noson, gan ddod i ben erbyn 2am ddydd Sadwrn, 5 Medi. Bydd gwasanaethau bysiau gyda'r nos yn dilyn llwybr y dargyfeiriad, felly bydd teithiau'n hirach. Bydd y Bont Wen hefyd ar agor drwy gydol yr amser yma ar ôl i'w chynllun atgyweirio diweddar ddod i ben ar 14 Awst.

Diolch i drigolion ac i ddefnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod gwaith yma, sy'n garreg milltir ar gyfer ailddatblygiad cyffrous y safle strategol yn y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 26/08/2026