Mae'r cynllun rheoli traffig angenrheidiol cychwynnol ar gyfer gwaith dymchwel Gorsaf yr Heddlu Pontypridd a Maes Parcio Heol Berw o 3 Awst wedi'i gadarnhau. Mae angen system unffordd ar Stryd Morgan, sydd i'w gweld yn y rhan sydd yn y llun ger yr orsaf fysiau. Bydd modd i draffig deithio ar hyd y ffordd yma fel arfer o'r Heol Fawr, a bydd mynediad ar gael i'r orsaf fysiau ac i Faes Parcio Iard y Nwyddau/Goods Yard.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor ei drefniadau ar gyfer cau Maes Parcio Heol Berw'n barhaol ar ddiwedd y dydd, ddydd Iau 30 Gorffennaf. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gyda Heddlu De Cymru, yn cadarnhau'r camau nesaf ar gyfer plismona ym Mhontypridd, sy'n cynnwys cau a throsglwyddo ei adeilad Heol Berw i'r Cyngor. Mae'r cynlluniau yma'n cynnwys safle newydd, gweladwy a hygyrch ar gyfer yr heddlu ar Stryd y Taf yng nghanol y dref, a fydd yn agor yn fuan.
Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn datblygu ac yn trin a thrafod datblygiad aml-ddefnydd a fydd yn cwmpasu safleoedd hen orsaf yr heddlu a'r maes parcio. Mae'r opsiynau posibl ar gyfer y safle'n cynnwys gwell mannau cyhoeddus, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i'r gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.
Mae'r Cyngor wedi penodi Prichard's fel y contractwr ar gyfer gwaith dymchwel y ddau adeilad, gyda'r gwaith mawr yma o waith yn dechrau ddydd Llun, 3 Awst . Mae disgwyl y bydd y gwaith dymchwel cyffredinol wedi'i gwblhau tua dechrau 2027. Yn ystod y chwe wythnos gyntaf ar y safle, bydd y gweithgareddau'n cynnwys sefydlu man ar y safle ar gyfer y peiriannau/offer, cynnal arolygon arbenigol a gwaith gwaredu, gwaith rhagarweiniol mewnol, gosod sgaffaldiau, ac yna dechrau dymchwel yr adeilad.
Mae lleoliad canolog y safle cyfan, ynghyd â'i agosrwydd at y rhwydwaith ffyrdd a'r orsaf fysiau, yn cyflwyno her sylweddol i gyflawni'r gwaith yn ddiogel - gan leihau'r aflonyddwch i ddefnyddwyr ffyrdd, trigolion a busnesau.
Mae disgwyl i'r cyfnod dymchwel ddechrau yn yr wythnosau nesaf a bydd yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Cynllyn rheoli traffic ar gyfer y gwaith dymchwel o 3 Awst
Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r contractwr i gyflwyno opsiynau rheoli traffig – gan ystyried sawl ffactor fel darparu lle i'r gweithlu a'r peiriannau, a gosod sgaffaldiau ar y safle. O 3 Awst, bydd y mesur dros dro canlynol yn cael ei roi ar waith, a'r disgwyl yw y bydd yn parhau fel hynny drwy gydol yr holl waith dymchwel:
- Bydd rhan o Stryd Morgan (wrth ochr Gorsaf Fysiau Pontypridd) yn dod yn ffordd unffordd – o'i chyffordd â'r A4223 am bellter o tua 80 metr. Mae hyn yn golygu y bydd traffig o'r Heol Fawr yn dal i allu troi i Stryd Morgan a chyrraedd yr orsaf fysiau yn ôl yr arfer. Bydd angen i gerbydau sy'n mynd ar hyd y ffordd yma o ochr ogleddol Stryd Morgan gymryd gwyriad byr, o amgylch yr orsaf fysiau trwy Stryd y Capel, i ymuno â'r Heol Fawr. Mae'r trefniant unffordd a'r llwybr amgen wedi'u hamlygu ar y map canlynol. Bydd y llwybr troed wrth ymyl gorsaf yr heddlu a'r maes parcio hefyd ar gau, gyda llwybrau amgen i gerddwyr wedi'u harwyddo'n glir.
Mae anger cynllyn reholi traffig tymor byr ychwanegol dros yr wythnosau nesaf
Nodwch, bydd angen cynllun rheoli traffig pellach ar Heol Berw (ger y fferyllfa a'r ganolfan iechyd) a Stryd y Bont (ar flaen gorsaf yr heddlu). Bydd y rhain yn cael eu cynnal am gyfnod byr o ran amser, yn digwydd un ar ôl y llall, i osod sgaffaldiau i'r adeilad. Bydd angen cynllun rheoli traffig ar y naill a'r llall wrth gyffordd Heol Berw ac mae'n anochel y bydd hi'n tarfu ar draffig.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda chwmni Pritchard's i gyflawni'r trefniadau. Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am y trefniadau yma'n fuan. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn ddiweddarach ym mis Awst 2026, ond mae'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a dydy'r dyddiadau ddim wedi'u cadarnhau eto.
Mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gyda'r cynllun sydd ar y gweill i gwblhau atgyweiriadau lleol i Bont Heol Berw (Y Bont Wen). Bydd y Bont Wen ar agor pan fydd y cynllun rheoli traffig ar waith ac yn effeithio Heol Berw.
Diolch i drigolion ac i ddefnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod gwaith yma, sy'n garreg milltir ar gyfer ailddatblygiad cyffrous y safle strategol yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 29/07/2026