Dyma roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr â thref Pontypridd y bydd angen mesurau rheoli traffig ar Heol Berw (17-21 Awst) er mwyn dymchwel adeiladau Gorsaf Heddlu Pontypridd a Maes Parcio Heol Berw. Dyma'r cyntaf o ddau gyfnod disgwyliedig o fesurau rheoli traffig a fydd yn effeithio ar Heol Berw. Mae'r ail gyfnod yn cael ei drefnu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Er nad oes angen cau ffyrdd yr wythnos nesaf, mae'n debygol y bydd y trefniadau'n tarfu ar draffig ar Heol Berw a'r ffyrdd cyfagos. Rydyn ni'n cynghori gyrwyr i osgoi teithio ar hyd y llwybr yma os oes modd. Mae'r gwaith wedi cael ei drefnu ar gyfer gwyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Yn ddiweddar, cwblhaodd y Cyngor y trefniadau ar gyfer cau Maes Parcio Heol Berw yn barhaol ar 30 Gorffennaf. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad gyda Heddlu De Cymru a gadarnhaodd y camau nesaf ar gyfer plismona ym Mhontypridd. Mae adeilad yr heddlu ar Heol Berw wedi'i drosglwyddo i'r Cyngor. Bydd canolfan heddlu newydd, weladwy a hygyrch yng nghanol y dref yn cael ei sefydlu ar Stryd y Taf.
Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn datblygu ac yn trin a thrafod datblygiad aml-ddefnydd a fydd yn cwmpasu safleoedd hen orsaf yr heddlu a'r maes parcio. Mae'r opsiynau posibl ar gyfer y safle'n cynnwys gwell mannau cyhoeddus, maes parcio newydd modern, cysylltiadau gwell ar gyfer cerdded a beicio, gwelliannau i'r gyffordd ar Stryd y Bont a chyfleoedd i ddatblygu adeiladau preswyl, masnachol a diwylliannol newydd.
Dechreuodd y cam dymchwel ar gyfer y ddau adeilad ar 3 Awst. Contractwr y Cyngor, Prichard’s, fydd yn gwneud y gwaith a fydd yn parhau tan ddechrau 2027. Yn ystod y chwe wythnos gyntaf ar y safle, bydd y gweithgareddau'n cynnwys sefydlu man ar y safle ar gyfer y peiriannau/offer, cynnal arolygon arbenigol a gwaith gwaredu, gwaith rhagarweiniol mewnol, gosod sgaffaldiau, ac yna dechrau dymchwel yr adeilad. Mae'r cam dymchwel yn cael ei gefnogi drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae lôn ar Stryd Morgan (ger Gorsaf Fysiau Pontypridd) ar gau ers 3 Awst a bydd yn parhau i fod ar gau hyd nes i'r gwaith dymchwel ddod i ben. Bydd y llwybr troed o amgylch yr orsaf heddlu a’r maes parcio hefyd ar gau.
Mesurau rheoli traffig tymor byr sydd ar ddod ar gyfer gosod sgaffaldiau
Bydd angen mesurau rheoli traffig tymor byr, penodol mewn dau leoliad arall er mwyn gosod sgaffaldiau ar rannau o'r adeilad. Mae'r cyfnod cyntaf wedi'i gynllunio ar gyfer Awst 2026 i gyd-fynd â gwyliau haf ysgolion. Mae'r ail gyfnod yn cael ei drefnu ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:
- Goleuadau traffig dros dro ar gyffordd Heol Berw a Stryd y Bont a chau lôn ger y fferyllfa a'r ganolfan feddygol ar Heol Berw (10am ddydd Llun, 17 Awst tan ddiwedd y dydd ddydd Gwener, 21 Awst). Does dim angen cau'r ffordd, ond bydd lôn ar gau ac mae hon i'w gweld mewn porffor ar y map. Bydd y goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw yn ystod oriau prysur i sicrhau effeithlonrwydd. Bydd bysiau a cherbydau mawr yn gallu defnyddio pob llwybr.
- Goleuadau traffig dros dro ar y rhan o Stryd Morgan y tu allan i flaen adeilad yr orsaf heddlu (mae dyddiadau a threfniadau i'w cadarnhau maes o law). Does dim disgwyl y bydd unrhyw ffordd ar gau, ond bydd angen cael mesurau rheoli traffig dros dro wrth gyffordd Heol Berw a Stryd y Bont. Mae swyddogion yn gweithio i gwblhau manylion y gwaith yma.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Prichard’s i darfu cyn lleied â phosibl, ond bydd oedi yn anochel yn ystod y ddwy elfen o'r gwaith. Dylai modurwyr ystyried defnyddio llwybrau amgen os oes modd.
Nodwch, mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gyda'r cynllun i gwblhau gwaith atgyweirio lleol i Bont Heol Berw (Y Bont Wen), a fydd yn cael ei gynnal rhwng 10 ac 16 Awst. Bydd y gwaith ar y bont wedi'i gwblhau cyn i'r mesurau rheoli traffig cyntaf ar Heol Berw ddechrau ar 17 Awst. Bydd y Bont Wen ar agor drwy'r amser pan fydd mesurau rheoli traffig sy'n effeithio ar Heol Berw ar waith.
Diolch i drigolion ac i ddefnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cydweithrediad yn ystod y cam dymchwel yma, sy'n garreg filltir ar gyfer ailddatblygiad cyffrous y safle strategol yn y dyfodol.
Wedi ei bostio ar 13/08/2026