Dyma roi gwybod i drigolion fod y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd AMBR ar gyfer Storm Goretti. Bydd y rhybudd tywydd mewn grym o nos Iau hyd at fore Gwener (8-9 Ionawr). Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch pa fath o dywydd fydd yn effeithio ar yr ardal, ond mae'n bosibl y bydd eira mawr, ac mae gyda ni gyfrifoldeb i baratoi ar gyfer hyn.
Mae’n debygol y bydd yr eira yn effeithio ar ardaloedd yng ngogledd Rhondda Cynon Taf a ffyrdd y mynyddoedd.
Mae ein criwiau graeanu yn parhau i weithio'n ddi-baid i baratoi ein prif lwybrau a'n meysydd parcio cyn y tywydd oer a ragwelir – maen nhw'n dilyn ein rhwydwaith graeanu.
Mae'n bwysig iawn hefyd bod trigolion yn parcio'u cerbydau mewn modd ystyriol mewn ardaloedd preswyl, a hynny er mwyn sicrhau bod modd i'n cerbydau graeanu fynd heibio. Os yw ffordd wedi'i rhwystro, mae'n bosibl na fydd modd i'n cerbydau graeanu na'r cerbydau clirio eira gael mynediad i'r stryd neu'r ardal dan sylw.
Mae'r Cyngor yn monitro rhagolygon y tywydd, ac yn cynnal gwaith paratoi allweddol. Mae'r gwaith yma'n cynnwys paratoi ein criwiau a'n cerbydau, ynghyd â chriwiau a cherbydau sydd wedi'u darparu gan gontractwyr dibynadwy. Mae hyn yn golygu bod modd i'r Cyngor fanteisio ar fflyd o gerbydau clirio eira, tractorau, peiriannau JCB a cherbydau graeanu, y mae modd eu defnyddio ledled y Fwrdeistref Sirol, lle bo angen.
Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd adeg cyhoeddi'r datganiad yma (nos Fercher, 7 Ionawr), yn nodi y bydd rhybudd tywydd MELYN am eira mawr yn dod i rym o 5pm ddydd Iau, 8 Ionawr.
Yna bydd rhybudd AMBR yn dod i rym o 8pm ddydd Iau 8 Ionawr, ac yn para tan 9am ddydd Gwener, 9 Ionawr. Bydd y rhybudd melyn yn dod i ben am ganol dydd, ddydd Gwener.
Mae rhybudd tywydd Ambr y Swyddfa Dywydd yn nodi ei bod hi'n bosibl y bydd 10-15cm o eira mewn nifer o ardaloedd, gydag ardaloedd uwch o bosibl yn gweld 20-30cm. Mae'n debygol y bydd rhywfaint o oedi wrth deithio ar y priffyrdd ac ar drenau, yn ogystal â thoriadau pŵer.
Bwriwch olwg ar wefan y Swyddfa Dywydd i sicrhau eich bod chi'n effro i'r rhagolygon diweddaraf. Mae rhagor o wybodaeth allweddol am finiau halen i’r cyhoedd, casgliadau gwastraff, cau ysgolion, Mannau Diogel a Chynnes, a'n hymgyrch Cofiwch eich Cymdogion, wedi'i chynnwys ar waelod yr eitem newyddion hon.
Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae’r rhagolygon diweddaraf yn dal i fod yn ansicr ynghylch lefel y glaw, eirlaw neu eira fydd yn disgyn ledled y Fwrdeistref Sirol. Er ei bod hi'n bosibl y bydd y rhan fwyaf o'r Sir yn gweld glaw, mae daroganwyr tywydd yn rhybuddio y gallai ardaloedd uwch ledled y Sir weld dros 20cm o eira.
“Bydd carfanau'r Priffyrdd yn manteisio ar gymorth gweithwyr ac adnoddau ychwanegol o brynhawn Iau tan nos Iau, fodd bynnag, os bydd eira mawr – yn enwedig yn ardaloedd uwch y Sir – mae'n anochel y bydd yn effeithio ar drafnidiaeth, felly dyma annog trigolion i gynllunio ymlaen llaw.
“Bydd nifer sylweddol o weithwyr ac adnoddau ychwanegol yn cefnogi carfanau'r Priffyrdd eto fore Gwener er mwyn clirio'r eira mewn cynifer o gymunedau â phosibl. Yn ogystal â'n fflyd o beiriannau graeanu'r Priffyrdd a cherbydau clirio eira, bydd modd i ni fanteisio ar sawl JCB, tractor a threlar graeanu.
“Mae'r Cyngor yn bwriadu cyhoeddi diweddariad pellach ddydd Iau, yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf.”
Rydyn ni hefyd yn brysur iawn yn llenwi biniau halen i’r cyhoedd yn ein cymunedau. Os oes angen llenwi bin halen yn eich ardal, cwblhewch y ffurflen fer a hawdd hon ar wefan y Cyngor.
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu, ond mae'n bosibl y bydd hyn yn newid. Dylai trigolion roi eu gwastraff/ailgylchu yn y man casglu yn ôl y drefn arferol. Os nad oes modd i ni gyrraedd eich ardal chi o ganlyniad i'r tywydd, byddwn ni'n ceisio casglu'ch gwastraff yn fuan - felly gadewch eich gwastraff/ailgylchu yn y man casglu arferol.
Penaethiaid a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am benderfynu a oes angen cau ysgolion, nid y Cyngor. Mae yna dudalen ar wefan y Cyngor sy'n cynnwys manylion yr ysgolion hynny sydd wedi cau. Bydd ysgolion unigol yn diweddaru'r dudalen yma lle bo angen.
Mae ein Mannau Diogel a Chynnes yn parhau i fod ar agor yn ein cymunedau – gan roi cyfle i drigolion ddod at ei gilydd, darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar, a sicrhau nad oes rhaid i neb wynebu dyddiau hir y gaeaf ar eu pen eu hunain. Mae modd i chi ddysgu rhagor am y cynllun yma, gan gynnwys rhestr o'r holl Fannau Diogel a Chynnes, ar ein tudalen gartref bwrpasol.
Yn olaf, mae ein hymgyrch Cofiwch eich Cymdogion yn rhannu cyngor ynghylch sut y mae modd i drigolion helpu'u cymdogion yn ystod tywydd gaeafol. Mae modd i hyn amrywio o gadw llygad ar gymydog hŷn neu agored i niwed, rhoi halen o'r biniau halen ar y ffyrdd a chlirio eira yn ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Wedi ei bostio ar 07/01/2026