Bydd y Cyngor yn cwblhau gwaith hanfodol i newid y goleuadau traffig ar yr A4059 Ffordd Hirwaun, ger Trenant. Mae modd gweld y goleuadau traffig yn y llun. Bydd angen cynllun rheoli traffig dros yr wythnos nesaf.
Mae'r goleuadau wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac felly mae angen eu newid. Bydd signalau LED yn cael eu gosod, sy'n well ac hefyd yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd.
Mae'r Cyngor wedi troi at gwmni Centregreat Ltd i gwblhau'r gwaith. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ddydd Sul, 11 Ionawr ac yn para tua wythnos. Fodd bynnag, nodwch ei bod hi'n bosibl y bydd y gwaith yn cael ei ohirio os bydd y tywydd oer a ragwelir yn cael effaith ar gynnydd.
Bydd y contractwr yn cynnal goleuadau traffig dwyffordd yn ystod oriau prysuraf y bore a'r prynhawn.
Bydd lôn ar gau y tu allan i'r oriau yma. Efallai bydd hyn yn achosi peth oedi i yrwyr. Wrth i'r gwaith fynd rhagddo, bydd man croesi dros dro yn cael ei ddarparu i gerddwyr.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy raglen gyfalaf barhaus y Cyngor ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol.
Diolch ymlaen llaw i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 07/01/2026