Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod gwaith adfer senotaff Glynrhedynog wedi'i gwblhau. Cerflunwyr Ivor Phillips o Aberdâr a gwblhaodd y gwaith yn y cyfnod cyn Sul y Cofio, gan sicrhau bod y senotaff mewn cyflwr rhagorol ar gyfer y gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys glanhau pob elfen arno ac ychwanegu coflechi newydd i goffáu'r rhai a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r coflechi bellach yn cynnwys enw ychwanegol, James Breeze – taniwr dosbarth 1af a wasanaethodd ar yr HMS Stevenstone – sy'n golygu bod y gofeb yn parhau i anrhydeddu pawb a wnaeth yr aberth eithaf.
Mae'r gwaith yma'n rhan o raglen ehangach y Cyngor i gynnal a chadw cofebion rhyfel ledled y fwrdeistref sirol, yn unol â chanllawiau'r War Memorials Trust. Ers 2022, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr lleol i gynnal gwaith cynnal a chadw a gwelliannau hanfodol.
Yn rhan o'r rhaglen yma, cafodd 2 blac hanesyddol o'r Rhyfel Byd Cyntaf eu hadleoli i Lyfrgell Tonypandy yn dilyn cau Eglwys Sant Andreas, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hygyrch ac yn ddiogel. Mae'r plac cyntaf yn rhestru enwau milwyr lleol a gollodd eu bywydau yn ystod y gwrthdaro, tra bod yr ail blac yn coffáu'r dynion a wasanaethodd ym myddin ymgyrchol Prydain rhwng mis Awst a mis Tachwedd 1914. Mae'r 2 bellach yn rhan o arddangosfa dreftadaeth y llyfrgell, sy'n rhoi'r cyfle i ymwelwyr ddysgu rhagor am hanes rhyfel yr ardal, gan sicrhau bod y placiau'n cael eu cadw mewn cyflwr da a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd rhaglen glanhau cofebau'r Cyngor yn ailddechrau yng ngwanwyn 2026, pan fydd y tywydd yn gwella, gyda gwaith pellach ar y gweill ledled y fwrdeistref sirol.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae ein cofebau rhyfel yn rhan bwysig o’n treftadaeth ac yn deyrnged barhaol i’r rhai a wasanaethodd. Mae adfer senotaff Glynrhedynog, gan gynnwys ychwanegu coflechi ac enw James Breeze, yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei gofio ag urddas.
“Mae’r prosiect yma'n adlewyrchu ein haddewid parhaus i gynnal a chadw'r henebion yma a’n treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog leol ar yr un pryd.
“Hoffwn i ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn y prosiect yma, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau â’r ymdrechion yma ledled Rhondda Cynon Taf yn 2026.”
Mae'r fenter yma'n rhan o addewid ehangach o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog, a gafodd ei lofnodi gan y Cyngor gyntaf yn 2012 ac eto yn 2018. Mae'r Cyngor hefyd yn falch o fod â Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth pwrpasol Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr, sydd wedi cefnogi dros 1,000 o gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd hyd yn hyn. Mae'r gwasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim yma'n cynnig cyngor a chymorth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu neu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd. I siarad â swyddog, ffoniwch 07747 485 619 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: gwasanaethigynfilwyr@rctcbc.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth am waith treftadaeth y Cyngor, ewch i: Ein Treftadaeth Rhondda Cynon Taf. Os oes gyda chi ymholiad, neu os hoffech chi gymryd rhan mewn prosiectau yn y dyfodol, e-bostiwch: gwasanaethtreftadaeth@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 06/01/2026