Bydd y Cyngor yn cynnal achlysur galw heibio cyhoeddus ym Muarth-y-capel yn Ynys-y-bwl, lle mae modd i'r gymuned gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad arfaethedig i ymestyn ac adnewyddu'r lleoliad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn sylweddol. Byddai'r cynlluniau cyffrous yn darparu cyfleusterau newydd, modern o'r radd flaenaf i ddisgyblion a staff.
Mae Buarth-y-capel yn safle lloeren i Ysgol Tŷ Coch, un o bedair ysgol ADY y Cyngor. Mae'r safle'n canolbwyntio ar gynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion 14 i 19 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder y Sbectrwm Awtistig difrifol neu ddwys, sydd angen darpariaeth bwrpasol y tu hwnt i feini prawf ysgol ADY gyffredinol. Byddai'r cynigion gwerth miliynau o bunnoedd yn sicrhau bod modd i'r safle barhau i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion yma yn y dyfodol.
Mae croeso i drigolion ymweld â Buarth-y-capel i gael rhagor o wybodaeth, unrhyw bryd rhwng 3.15pm a 5.30pm ddydd Mawrth, 3 Chwefror. Bydd carfan y prosiect wrth law i esbonio'r cynigion yn fanylach ac i ateb unrhyw gwestiynau, tra bydd modd i drigolion hefyd adael eu hadborth yn ffurfiol i gael ei ystyried.
Mae'r cynigion buddsoddi yn cael eu datblygu gan y Cyngor, mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. EPT yw'r pensaer penodedig i ddylunio'r adeilad, a Knox and Wells yw'r contractwr penodedig i gyflawni'r gwaith adeiladu.
Bydd y prosiect yn cynnwys adeiladu estyniad unllawr, annibynnol ar safle presennol yr ysgol. Bydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth, pob un â'i hystafell ar wahân ei hun, cyfleusterau gofal personol, toiledau a mannau cefnogi. Bydd gan yr adeilad systemau ynni adnewyddadwy a bydd yn cael ei adeiladu i fod yn Carbon Sero Net. Bydd yn cael ei adeiladu yn ôl safonau Ysgolion yr 21ain ganrif a bydd yn safle cwbl hygyrch.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gwaith gwella'r ysgol bresennol, trwy gynyddu maint y brif neuadd, ailfodelu dwy ystafell ddosbarth, creu man cymunedol, ac ailwampio'r maes parcio i gynyddu nifer y lleoedd parcio ar y safle.
Bydd y prosiect cyffredinol yn ehangu Buarth-y-capel yn sylweddol, gan gefnogi twf angenrheidiol y ddarpariaeth arbenigol yma sy'n gwasanaethu llawer o gymunedau lleol. Os cytunir arno ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd yr adeilad newydd yn barod i agor ym mis Medi 2027.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Mae’n wych gweld y delweddau argraff arlunydd cyffrous yma wrth i’r Cyngor fwrw ymlaen â datblygiad arfaethedig mawr ar gyfer Buarth-y-capel yn Ynys-y-bwl, a fydd yn buddsoddi mewn estyniad a gwaith adnewyddu sylweddol i’r ysgol. Bydd hyn yn darparu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i'n pobl ifainc ac aelodau staff.
“Mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu buddsoddiad i helpu i greu capasiti ychwanegol ar draws ein hysgolion ADY. O fis Medi 2025 ymlaen, derbyniodd Ysgol Arbennig Maesgwyn estyniad gwerth £1.5 miliwn gyda chyfleusterau newydd a mannau modern, ac roedd hynny'n dilyn sefydlu lleoliad y Blynyddoedd Cynnar newydd ar gyfer disgyblion ag ADY ym mhentref Tonyrefail. Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wrthi'n adeiladu ei bumed ysgol ADY yng Nghwm Clydach, Ysgol Cambrian, i agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, tra bod Buarth-y-capel ei hun wedi derbyn ystafelloedd wedi'u hadnewyddu a mannau therapi arbenigol newydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
“Rydyn ni'n parhau i fod yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, nid yn unig gyda’n buddsoddiad ar y cyd mewn ysgolion ADY, ond ar draws ein hysgolion prif ffrwd hefyd. Mae prosiect Buarth-y-capel yn un o naw buddsoddiad ysgol newydd sy'n cael eu datblygu ledled y Fwrdeistref Sirol, yn rhan o ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r ysgol hynod gynaliadwy newydd ar gyfer cymuned Glyn-coch, Ysgol Glyn-Coch, hefyd yn dod yn ei blaen yn dda ar y safle, tra bod cynlluniau i fuddsoddi'n helaeth mewn ysgolion newydd ar gyfer Ysgol Llanhari ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda yn cael eu datblygu.
“Mae croeso i bawb ddod i’r achlysur cyhoeddus ym Muarth-y-capel yn Ynys-y-bwl ar 3 Chwefror, i gael rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y prosiect. Bydd yr adborth yn ein helpu i fireinio'r cynigion presennol wrth i ni symud ymlaen â'r prosiect cyffrous yma.”
Wedi ei bostio ar 28/01/2026