Skip to main content

Bydd buddsoddiad gwerth £350,000 yn trawsnewid llawr uchaf Canolfan Hamdden Tonyrefail, gan ddarparu campfa newydd sbon.

Untitled Design

Bydd buddsoddiad gwerth £350,000 gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn trawsnewid llawr uchaf Canolfan Hamdden Tonyrefail, gan ddarparu campfa newydd sbon.

Bydd y gofod enfawr, sydd dwywaith yn fwy na'r gampfa bresennol, yn cynnig golygfeydd dros y parc ac yn cynnwys ystod eang o gyfarpar newydd sbon.

Bwriwch olwg ar y rhestr lawn yma.

Mae disgwyl i'r gampfa newydd agor ym mis Ionawr 2027. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn Canolfan Hamdden Tonyrefail ar Facebook neu Instagram i gael y newyddion diweddaraf a manteisio ar gynigion gwych.

Mae'r buddsoddiad, sy'n cael ei gyflawni drwy Raglen Trawsnewid RhCT, wedi'i dargedu i ddarparu cyfleusterau hyd yn oed yn well i drigolion a hynny wrth i nifer y bobl sy'n mynychu Canolfan Hamdden Tonyrefail, un o 12 canolfan sy'n cael ei gweithredu gan wasanaeth Hamdden am Oes y Cyngor, gynyddu.

Mae hyn yn cynnwys y bobl hynny sy'n defnyddio'r ganolfan ac sydd wedi galw am gampfa fwy, yn ogystal â chwsmeriaid newydd posibl sy'n chwilio am gampfa fodern â chyfarpar gwych – mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd ac ystafell ffitrwydd y mae modd eu mwynhau.

Bydd y buddsoddiad yn golygu bod modd i'r Cyngor a'r gwasanaeth Hamdden am Oes barhau i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i drigolion sy'n haeddu cyfleusterau rhagorol yn eu cymunedau, gan roi'r cyfle iddyn nhw fwynhau bywydau mwy heini ac iach.

Mae tua 12,000 o bobl eisoes yn mwynhau mynediad diderfyn a hawdd i sesiynau yn y gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio, gwersi nofio, campau dŵr, chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd diolch i aelodaeth Hamdden am Oes.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am Hamdden am Oes: “Dyma newyddion cyffrous i’r gymuned leol.

“Bydd y gampfa newydd yn cynnig lle gwych i holl gwsmeriaid y ganolfan, sydd wedi bod yn galw am gampfa fwy ar gyfer Canolfan Hamdden Tonyrefail ers peth amser.

“Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn sydd gan ein cwsmeriaid i’w ddweud, gan dargedu buddsoddiad Trawsnewid RhCT i greu campfa newydd sy’n cynnwys cyfarpar newydd sbon ac ymateb i'r hyn y mae'r cyhoedd wedi dweud eu bod nhw am ei weld.

“Bydd campfa newydd Canolfan Hamdden Tonyrefail yn agor ym mis Ionawr 2027, dim ond blwyddyn ar ôl i Ganolfan Chwaraeon Abercynon agor ei champfa a’i hystafell troelli newydd. Cafodd y cynlluniau yma eu hariannu gan gyllid Trawsnewid RhCT hefyd.

“Yn ogystal ag ariannu’r datblygiadau blaenllaw yma, mae cyllid Trawsnewid RhCT hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar draws y gwasanaeth Hamdden am Oes i ddarparu sawna newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda ac ar ystod eang o gynlluniau i wella'r goleuadau, cyfleusterau dosbarth ffitrwydd, ystafelloedd newid, addurniadau ac arwyddion mewn canolfannau eraill.

“Mae’r buddsoddiad cyson, a fydd yn parhau, yn dangos ein hymrwymiad cryf i sicrhau bod gan drigolion fynediad at gyfleusterau Hamdden am Oes modern a hygyrch o ansawdd uchel, lle mae modd iddyn nhw gyflawni'u nodau personol o ran iechyd a lles. Mae'n modd i hyn gynnwys mynychu'r gampfa, dysgu nofio, cwrdd â ffrindiau i fwynhau gem o bêl-bicl neu gyfle i gymdeithasu yn ystod dosbarth ffitrwydd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cychwyn yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail ac at weld y gampfa newydd."

Mae gyda ni 12 canolfan Hamdden am Oes, gan gynnwys wyth pwll nofio, ledled Rhondda Cynon Taf.

Yn rhan o'ch aelodaeth Hamdden am Oes fisol, bydd modd i chi gael mynediad i'r holl ganolfannau, gan gynnwys yr holl gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon dan do, ystafelloedd ffitrwydd, gwersi nofio a champau dŵr.

Rydyn ni'n cynnig gostyngiadau i bobl 60 oed a hŷn, pobl 18 oed ac iau, pobl sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, cynhalwyr llawn amser a'r rhai sy'n rhan o gynlluniau Golau Glas a'r Lluoedd Arfog.

Rydyn ni hefyd yn cynnig Aelodaeth Gorfforaethol i'r rheiny sy'n gweithio i fusnesau neu sefydliadau partner, neu'n aelodau o'r sefydliadau/busnesau yma.

Mae modd i chi fwrw golwg ar y cynlluniau aelodaeth sydd ar gael i chi yma.

 

Wedi ei bostio ar 20/11/2026