Skip to main content

Rhaglen clirio llystyfiant a gwaith cynnal a chadw yn Nhomen Cwmaman

Cwmaman Tip grid

Dyma roi gwybod i drigolion Cwmaman am waith sydd ar y gweill yn ardal helaeth hen safle Tomen Cwmaman, a fydd yn cael ei gynnal dros y cyfnod sydd i ddod.

Mae Tomen Cwmaman wedi'i lleoli'n gyffredinol i'r gorllewin o'r tai preswyl yn Stryd Glanrhyd, gyda Nant Aman Fawr yn rhedeg drwyddi. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithgareddau cynnal a chadw pwysig ar draws y safle mawr. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal o ddydd Llun 3 Awst hyd at y gaeaf 2026/27. 

Bydd gwaith cael gwared ar lystyfiant yn dechrau ar 3 Awst, er mwyn i lwybrau mynediad a llwybrau troed gael eu clirio ar draws y safle.  Mae'r gwaith yma'n bwysig er mwyn sicrhau mynediad diogel yn ystod archwiliadau a gweithgareddau cynnal a chadw yn y dyfodol. Bydd y llwybrau mynediad yn cael eu hatgyweirio a'u huwchraddio lle y bo angen, gan ddefnyddio peiriannau ar y safle.

Yn dilyn y cyfnod yma o waith, bydd rhaglen fwy helaeth o waith clirio llystyfiant yn dechrau. Mae disgwyl i hyn ddechrau ym mis Medi 2026, gan barhau tan y gaeaf.

Bydd y gwaith yma'n cynnwys cael gwared ar lystyfiant sy'n tyfu o fewn seilwaith draenio'r domen, ac wrth ei ochr, er mwyn adfer mynedfeydd, gwella cyflawniad draenio ar y safle, a chynorthwyo'r gweithgareddau monitro a chynnal a chadw parhaus yn y dyfodol.

Mae cyflawni gwelliannau bioamrywiaeth trwy reoli llystyfiant yn briodol ar draws y safle yn elfen allweddol o'r gwaith yma. 

Carfan Gofal y Strydoedd RhCT fydd yn cyflawni'r cynllun, a bydd gweithwyr yn cael mynediad i'r domen o ben gorllewinol Heol Glanaman (gyferbyn â Chlwb y Gweithwyr/y Clwb Cymdeithasol). Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd yn nifer y cerbydau yn ystod oriau'r gwaith (7am tan 5pm), fodd bynnag dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu llawer ar y gymuned ehangach yn gyffredinol.  Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o sŵn o ganlyniad i'r gwaith.

Does dim cynlluniau wedi'u gwneud i gau ffyrdd neu lonydd yn rhan o'r cynllun.  Mae'n bosibl y bydd rhai llwybrau mynediad a llwybrau troed ar safle'r domen ar gau dros dro wrth i waith gael ei gynnal, er mwyn sicrhau diogelwch mewn lleoliadau penodol.  Bydd arwyddion priodol yn cael eu gosod i roi gwybod i'r cyhoedd lle bo angen.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru - mae £13.7 miliwn wedi'i ddyrannu i'r Cyngor i barhau â gwaith archwilio a chynnal a chadw, ac i gyflawni rhaglen o waith, ar draws hen safleoedd tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf (2026/27).

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 31/07/2026