Mae staff Llyfrgell Treorci wrth eu boddau'n croesawu dau biano digidol cymunedol newydd. Bydd y rhain yn rhoi cyfleoedd newydd i fod yn greadigol, i ddysgu ac i ddod â phobl at ei gilydd trwy gerddoriaeth.
Cyrhaeddodd y pianos ym mis Mawrth 2026 diolch i Lang Lang International Music Foundation, yn rhan o raglen genedlaethol sydd â'r nod o wneud cerddoriaeth yn fwy hygyrch mewn mannau cyhoeddus. Caiff ymwelwyr eu mwynhau nhw'n rhad ac am ddim, gan helpu i wneud cerddoriaeth yn fwy hygyrch i bobl o bob oed a gallu ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ychwanegiad cyffrous yma'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus Gwasanaeth y Llyfrgelloedd i gefnogi creadigrwydd, lles a dysgu gydol oes, ac yn cryfhau rôl Llyfrgell Treorci yng nghanol y gymuned. Tyfodd y syniad o adborth lleol ac mae'n adeiladu ar boblogrwydd y piano digidol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Llyfrgell Pontypridd.
Gyda thua 1,500 o ymwelwyr bob wythnos, Llyfrgell Treorci yw'r cartref perffaith i'r pianos. Mae un wedi'i osod yn yr oriel ar gyfer chwarae hamddenol, ac mae'r ail i'w gael yn y man newydd i artistiaid, gan annog cydweithio a defnyddio medrau creadigol.
Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol gan gynnwys Theatr y Parc a’r Dâr, Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf, ysgolion a grwpiau cymunedol, bydd y llyfrgell yn cynnal rhaglen amrywiol o weithdai, perfformiadau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd, gan roi cyfle i bawb gymryd rhan a dod â’r pianos yn fyw!
Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Her Ddarllen yr Haf eleni; gweithgaredd am ddim i blant 4-11 oed yn ystod gwyliau'r ysgol i ddarganfod y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth a llythrennedd mewn ffyrdd hwyliog a diddorol. Nod yr her yw gwella sgiliau darllen a hyder plant wrth iddyn nhw gasglu gwobrau am ddim am eu darllen. Bydd gan bob llyfrgell yn RhCT becyn cychwyn ac mae modd i blant ymuno drwy ymweld ag unrhyw lyfrgell yn RhCT.
Mae hyn yn tynnu sylw at beth yw pwrpas ein llyfrgelloedd, sef mannau croesawgar a chynhwysol lle mae modd i bobl gysylltu, dysgu sgiliau newydd a mynegi eu hunain yn greadigol, mae ganddyn nhw gymaint o bethau i'w cynnig, dewch i ddarganfod mwy!
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: “Mae’r pianos newydd yma'n rhoi cyfle arall i’r gymuned ddefnyddio'i chreadigrwydd. Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig ystod eang o weithgareddau, hanes, gwybodaeth a grwpiau cymunedol, a dyma enghraifft wych o sut maen nhw'n parhau i esblygu i ddiwallu diddordebau pobl leol. Mae'n wych gweld Llyfrgell Treorci yn adeiladu ar ei hysbryd cymunedol cryf eisoes, gan roi cyfle i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd roi cynnig ar rywbeth newydd, datblygu eu sgiliau, neu dim ond mwynhau'r gerddoriaeth! Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi cyfleoedd fel hyn sy'n helpu i ddod â phobl at ei gilydd mewn lle mor gadarnhaol a chroesawgar.”
Mae modd i chi ddysgu rhagor am ein gwasanaeth y llyfrgelloedd ac ymaelodi â llyfrgell ar-lein.
Dilynwch @RCTLibraries ar Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn eich llyfrgell leol!
Wedi ei bostio ar 14/05/2026