Skip to main content

Mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer Rasys Nos Galan eleni ar fin agor!

Nos Galan Thumbnail 500x500

Yn rhedeg am hwyl neu'n rasiwr elît, dyma'r newyddion mae pawb wedi bod yn aros amdanyn nhw – bydd y cyfnod cofrestru ar gyfer Rasys Nos Galan byd-enwog yn Aberpennar yn agor ar Dydd Llun, 14 Medi!

Un o draddodiadau chwaraeon mwyaf eiconig Cymru, mae Rasys Nos Galan yn dathlu bywyd a chyflawniadau'r rhedwr chwedlonol o Gymru, Guto Nyth Brân. Wedi'i sefydlu yn 1958, mae wedi dod yn achlysur unigryw ar Nos Galan, gan gyfuno athletau elît, hwyl i'r teulu a threftadaeth Gymreig. Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr a gwylwyr yn dod i Aberpennar i fod yn rhan o'r dathliadau, sydd wedi dod yn rhan annatod o galendr chwaraeon Cymru.

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau fesul cam, a hynny er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael cyfle i gadw lle. Felly, gwisgwch eich esgidiau chwaraeon ac ewch i strydoedd Aberpennar Nos Galan eleni ar gyfer yr achlysur Cymreig unigryw ac enwog yma.

Rydym wedi rhewi ffioedd mynediad ar gyfer 2026, felly mae hyd yn oed mwy o reswm i gymryd rhan! Mae mynediad i’r rasys eleni yn dechrau o gyn lleied â £8 (tocyn plentyn) gan gynnwys y ffi archebu.

Bydd lleoedd yn cael eu rhyddhau fel a ganlyn:

  • Dydd Llun 14 Medi am 10am
  • Dydd Llun 21 Medi am 12pm
  • Dydd Llun 28 Medi am 4pm

Y categorïau rasio ar y noson yw:

  • Ras 5K i Redwyr Elît (Dynion)
  • Ras 5K i Redwyr Elît (Menywod)
  • Ras Hwyl 5K (gwisg ffansi yn ddewisol)
  • Ras 600m i Blant 8 i 9 Oed a 10 i 11 Oed
  • Ras 1.2K i Blant 12 i 13 Oed ac 14 i 15 Oed

Nos Galan ychydig yn wahanol i'r arfer yw hi, wrth i wylwyr lenwi'r strydoedd i gefnogi'r rhedwyr, mwynhau adloniant byw, rhyfeddu at y tân gwyllt ac aros am y Rhedwr Dirgel enwog i gyrraedd. Y cwestiwn ar wefusau pawb yw – pwy fydd y rhedwr yn 2026?

Mae'r achlysur yn dechrau gyda'r rasys i blant, cyn i'r Rhedwr Dirgel enwog gyrraedd. Maen nhw'n cario ffagl Nos Galan ac yn ei chynnau yng nghanol y dref.  Yn 2025, cariodd arwr pêl-droed Cymru, Jess Fishlock MBE, y ffagl, gan ymuno â rhestr go arbennig o westeion blaenorol gan gynnwys Gareth Thomas CBE, yr Athro Laura McAllister CBE, Linford Christie MBE, Nigel Owens MBE, Chris Coleman OBE a James Hook.

Ar ôl i'r Rhedwr Dirgel gyrraedd, bydd tân gwyllt trawiadol yn goleuo'r nos, cyn i'r sylw droi at y prif achlysuron – y Ras Hwyl a'r rasys i redwyr elît. P'un a ydych chi'n mynd ar drywydd record bersonol, yn mwynhau'r awyrgylch mewn gwisg ffansi neu'n cefnogi o'r cyrion, mae Nos Galan yn cynnig noson fythgofiadwy i bob oed.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r traddodiad Cymreig hanesyddol yma a helpu i groesawu'r flwyddyn newydd gydag ychydig o ysbryd Nos Galan go iawn. Cofrestrwch ar-lein o Ddydd Llun, 14 Medi, yn www.nosgalan.co.uk.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: “Mae Rasys Nos Galan yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf eiconig Cymru ac yn draddodiad balch sy’n dod â chymunedau ynghyd i ddathlu ein treftadaeth gyfoethog wrth edrych ymlaen at y flwyddyn newydd. Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr yn dod i Aberpennar i fod yn rhan o'r achlysur unigryw yma, gan greu awyrgylch anhygoel sy'n gwneud Nos Galan mor arbennig.

"Rydyn ni wrth ein bodd yn agor y cyfnod cofrestru ar gyfer rasys eleni ac yn annog unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan i gadw eu lle cyn gynted â phosibl. P'un a ydych chi'n rhedwr profiadol sy'n anelu at record bersonol, yn cymryd rhan yn y Ras Hwyl gyda ffrindiau a theulu, neu'n cefnogi o'r cyrion, mae rhywbeth yma i bawb ei fwynhau.

"O ddyfodiad y Rhedwr Dirgel a chynnau'r ffagl i'r rasys eu hunain a'r tân gwyllt gwych, mae Nos Galan yn ffordd fythgofiadwy o groesawu'r flwyddyn newydd! Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl sy'n cymryd rhan ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i Aberpennar ar gyfer dathliad blwyddyn newydd gwych arall."

Dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook ac ewch i www.nosgalan.co.uk am yr wybodaeth ddiweddaraf!

Os ydych chi'n berchennog busnes ac yn dymuno ei hysbysebu ym mhamffled Rasys Nos Galan, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk. Mae cyfraddau hysbysebu yn dechrau o £53+TAW ac mae'r pamffled yn cyrraedd miloedd o bobl. Mae pecynnau noddi ar gael hefyd.

Rydyn ni hefyd yn edrych am wirfoddolwyr i'n helpu ni gyda Rasys Nos Galan 2026 ar y noson. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 08/09/2026