Browser does not support script.
Mae adran Cynllunio ar gyfer Argyfyngau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynllunio ac yn rhoi cynlluniau ar brawf, mae hefyd yn hyfforddi staff i sicrhau bod y trefniadau a'r gweithdrefnau cywir ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw ddigwyddiadau neu argyfyngau mawr sy'n digwydd yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaethau brys, y GIG, cwmnïau trafnidiaeth a chyfleustodau i ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer argyfyngau, yn seiliedig ar Gofrestr Risgiau Cymunedol Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y De, i sicrhau ymateb effeithiol i ddigwyddiadau sy’n argyfyngau a chadw cymunedau'n ddiogel.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio’n agos â phartneriaid megis yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaeth ambiwlans, cyrff iechyd, yr Awdurdod Glo a Llywodraeth yn rhan o ymateb amlasiantaeth mewn argyfwng, a hynny er mwyn sicrhau ymateb wedi’i gydlynu ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel. Fel arfer, bydd RhCT yn agor ei Ystafell Rheoli Argyfyngau i reoli'r digwyddiad ac yn gwahodd partneriaid amlasiantaeth i gefnogi'r ymateb.
Mewn ymateb amlasiantaeth i argyfwng, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel yr heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans, cyrff iechyd, yr Awdurdod Glo a Llywodraeth Cymru i gydlynu ymdrechion a diogelu'r cyhoedd. Mae'n debygol y bydd RhCT yn agor ei ystafell reoli mewn argyfwng er mwyn rheoli'r digwyddiad ac yn gwahodd partneriaid amlasiantaeth i fod yn rhan ohoni.