Skip to main content

Teithiau bws am bris rhatach i ddychwelyd ar gyfer mis Rhagfyr

NEW bus

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd modd teithio ar fysiau am bris rhatach ledled Rhondda Cynon Taf unwaith eto dros gyfnod yr ŵyl eleni. Bydd uchafswm o £1 am docyn bws un ffordd yn berthnasol ar gyfer teithiau lleol yn ystod mis Rhagfyr 2024.

Bydd y teithiau bws rhatach ar gael am fis cyfan, o ddydd Sul 1 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 31 Rhagfyr. Bydd yn berthnasol i bob taith sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - a bydd yn berthnasol i bob gweithredwr bysiau. Bydd y teithiau bws rhatach ar gael o'r gwasanaeth cyntaf i'r gwasanaeth olaf bob dydd, heb unrhyw gyfyngiadau amser ar waith ar gyfer cymudwyr.

Dyma'r pumed cyfnod ers haf 2023 lle mae’r ffi uchaf o £1 am daith bws un ffordd wedi bod yn berthnasol yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y rhain yn cynnwys cyfnod y Nadolig y llynedd, ac yn fwyaf diweddar dros wyliau'r haf yn 2024.

Mae'r mesur wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol a'i nod yw helpu i leihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae wedi'i dargedu ar gyfer adegau allweddol o'r flwyddyn, fel gwyliau'r ysgol a chyfnod y Nadolig. Mae'r cynllun yma wedi bod yn bosibl unwaith eto diolch i gyllid pwysig gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Yn ystod cyfnod y cynnig, rhaid i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer. Ni fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r mesur o gyflwyno uchafswm o £1 am docyn bws un ffordd wedi bod yn boblogaidd iawn dros y pedair gwaith flaenorol y mae wedi'i gynnig, ac rwy'n falch bod modd i’r Cyngor a gweithredwyr bysiau lleol ei gynnig eto trwy gydol mis Rhagfyr 2024 - sef tymor cyfan yr ŵyl, sy'n gallu bod yn gyfnod anodd yn ariannol i deuluoedd.

"Mae gweithredwyr wedi nodi cynnydd amlwg yn nifer y bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau bysiau lleol yn ystod cyfnodau blaenorol y cynnig, wrth i ni geisio mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag dal y bws. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio o ddydd i ddydd - i ddiogelu'r amgylchedd, lliniaru tagfeydd ar ein ffyrdd, a lleihau amseroedd teithio.

"Bydd y cynnig yn berthnasol unwaith eto i bob taith bws sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffin Rhondda Cynon Taf, a'r gobaith yw y bydd yr amod yma’n helpu i annog pobl i siopa'n lleol dros gyfnod yr ŵyl, gan gefnogi ein masnachwyr lleol ar yr un pryd. Mae'r Nadolig yn adeg bwysig o'r flwyddyn i'n hardaloedd manwerthu, gyda llawer o achlysuron a gweithgareddau'n digwydd. Bydd y teithiau bws rhatach yn helpu trigolion i gael mynediad i ganol ein trefi yn ystod y tymor prysur yma.

"Unwaith eto, rydyn ni'n croesawu'r cymorth pwysig gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n darparu cyllid ar gyfer cynlluniau sy'n helpu i fynd i'r afael â chostau byw uchel. Dyfarnwyd cyfanswm o £1.1m i'r Cyngor y llynedd, ac mae £1.2m ychwanegol wedi'i sicrhau ar gyfer 2024/25, gan ein galluogi i barhau i gyflwyno mesurau fel teithiau rhatach ar fysiau yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn."

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 08/11/24