Mae modd i chi weld copi o’r Map Diffiniol a Datganiad o Hawliau Tramwy Cyhoeddus am ddim trwy drefnu apwyntiad yn ein swyddfeydd.
Er mwyn trefnu apwyntiad, cysylltwch â ni drwy e-bost - Cefngwlad@rctcbc.gov.uk
Rydyn ni'n cynnig dau wasanaeth y mae modd talu amdanyn nhw:
- Chwiliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Dyfyniadau o Fap Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am un o'r gwasanaethau uchod, rhaid i chi wneud taliad BACS am y ffi ofynnol (BACS) a darparu tystiolaeth o dalu ynghyd â map sy’n amlinellu'r ardal chwilio ofynnol mewn coch.
Bydd dogfennau'n cael eu darparu ar ffurf PDF o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r taliad gael ei dderbyn.
Mae modd i chi weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'n prisiau isod.
Chwiliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Byddwn ni fel arfer yn ymateb i geisiadau am wybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus drwy ddarparu dyfyniad o'r copi gweithiol electronig o'r Map Diffiniol am y prisiau sydd wedi'u nodi isod. Bydd y dyfyniadau’n cael eu darparu ar ffurf PDF yn ôl yr arfer.
Dehongliad o'r Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus yw’r copi electronig gweithiol, mae’n cynnwys yr holl newidiadau/addasiadau'n cael eu hystyried.
Dylid nodi nad y map hwn yw'r Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus (y cofnod cyfreithiol hwnnw) ac, er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb wrth gyfieithu o'r papur mapio gwreiddiol, fyddwn ni ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wallau, yn enwedig wrth edrych ar raddfeydd sy'n fwy na'r mapio gwreiddiol.
Graddfa
|
Ffi
|
2,500 – 5,000
|
£33.87
|
>5,000
|
£43.25
|
Os yw ymholiadau ychwanegol yn codi o ganlyniad i'r chwiliad sydd wedi'i ddarparu, codir tâl o £15.00 (+TAW) am bob ymholiad (yn ychwanegol i bris yr echdyniad o'r map sydd wedi'i rhoi uchod).
Dyfyniadau o'r Map Diffiniol o Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae modd i chi wneud cais am ddyfyniad o'r Map Diffiniol am y prisiau isod. Lle bo'n briodol, mae dyfyniadau o'r Map yn cael eu darparu gyda manylion ysgrifenedig. Bydd y dyfyniadau yn cael eu darparu ar ffurf PDF yn ôl yr arfer.
Y tri Map Diffiniol sy'n dangos y Fwrdeistref Lleol:
- Rhondda ar raddfa o 1:10 000 (Dyddiad perthnasol 16/10/1992)
- Cynon ar raddfa o 1:10 000 (Dyddiad perthnasol 15/12/1995)
- Taf-elái ar raddfa o 1:25 000 (Dyddiad perthnasol 01/01/1971)
Nodwch: Nid oes hawl gennych i lungopïo’r mapiau na'r dogfennau cyfreithiol yma.
Maint
|
Ffi
|
A4
|
£ 15.00 (+ TAW)
|