Skip to main content

Derbyn Plant o Oed Meithrin

Beth ydw i angen ei wneud?

Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/09/2023 a 31/12/2023

Mae angen i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer mis Ionawr 2027 a lle mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer mis Medi 2027.

Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/01/2024 a 31/03/2024

Mae angen i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer mis Ebrill 2027 a lle mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer mis Medi 2027.

Os yw dyddiad geni eich plentyn rhwng 01/04/2024 a 31/08/2024

Dim ond am le mewn Dosbarth Meithrin ar gyfer mis Medi 2027 y mae angen i chi wneud cais.

Lleoedd mewn Dosbarthiadau Meithrin 2027 - ar gyfer disgyblion â dyddiadau geni rhwng 01/09/2023 a 31/08/2024.

  • Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2026 a 6 Tachwedd 2026.
  • Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2027.

Cyflwyno cais

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml. 

Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Nodwch:  Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol: