Lleoedd mewn Ysgolion Uwchradd yn 2026 ar gyfer y disgyblion hynny sy'n gadael Blwyddyn 6 ar ddiwedd Tymor yr Haf 2026.
- Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2025 a 10 Hydref 2025.
- Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 2 Mawrth 2026.
Sut i wneud cais?
Gwnewch eich cais ar-lein
Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml.
Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.
Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos. Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Nodwch: Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau. Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.
Gwybodaeth ddefnyddiol: