Mae Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.
Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau.
Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.
Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?
Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.
Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!
Hawthorn external classes
| Dydd Llun | | |
| Tots Rygbi |
16:00 - 17:00 |
|
| Balanceability |
17:00 - 18:00 |
|
| Dydd Mawrth | | |
| Tots Pêl-droed |
17:00 - 18:00 |
| Tae kwon Do (Tigers) |
17:00 - 18:00 |
| Tae kwon Do |
18:00 - 19:00 |
| Dydd Mercher | | |
| Pêl-droed Cerdded |
10:00 - 11:30 |
|
| Carate |
18:30 - 19:30 |
|
| dydd iau | | |
| Dawns Gymdeithasol (bob 2 wythnos) |
14:00 - 15:30 |
|
| dydd GWENER | | |
| YAH |
12:30 - 15:30 |
|
| Dydd Sadwrn | | |
| Tae Kwon Do |
11:00 - 12:00 |
|
| Dydd Sul | | |
| Pêl-rwyd Top Tots |
11:00 - 14:00 |
|
| Tots Rygbi |
11:00 - 13:00 |
|