Skip to main content

Clybiau a Sefydliadau Allanol

Mae Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.

Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau. 

Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.

Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?

Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.

Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!

Llantwit fardre external classes
Dydd SulAMSER 
Pêl-droed "Little Kickers" 09:00 - 13:00  
Pêl-droed "Little Kickers" 17:00 - 17:55