DYSGU
Rydyn ni'n cynnig ystod o gyfleoedd addysgol yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty sydd yn cynorthwyo staff addysgu i ddarparu cwricwlwm ystyrlon, perthnasol ac ysgogol ar gyfer dysgwyr. Gallwch chi lawrlwytho adnoddau i athrawon o'r dudalen hon am ddim.
Noder: Bydd pob gweithgaredd dysgu yn para am tua 90 munud
HANES Y Glo
Teithiwch yn ôl mewn amser a byddwch yn darganfod pwysigrwydd glo i ddatblygiad Pontypridd. Darganfyddwch effaith mwyngloddio ar yr amgylchedd a dysgwch sut mae pobl yn adeiladu cyfleusterau hamdden i fwynhau eu hamser hamdden mewn mannau glân, iach.
Bydd modd i blant:
- Nodi eu lleoliad ar fap a chynllunio llwybr o Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, trwy Barc Coffa Ynysangharad.
- Dysgu am hanes a threftadaeth y safle, a'i gysylltiadau â hanes a diwylliant Cymru.
- Deall tarddiad glo a'i ddefnyddiau, a chysylltu'r rhain â themâu cyfoes fel llygredd a byw'n iach.
Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Hanes, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth.
Gwaith dŵr
Darganfyddwch hanes unigryw Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, sut y cafodd ei adeiladu, a'r bobl enwog sydd wedi ymweld â’r lle yn y gorffennol. Dysgwch am Jenny James yn nofio ar draws Môr Hafren a'r Sianel a sut y defnyddiodd Lido Ponty i hyfforddi ar gyfer ei rasys.
Bydd modd i blant:
- Cyfrifo faint o ddŵr a gafodd ei ddefnyddio i lenwi'r Lido.
- Amcangyfrif sawl hyd gyfatebol o'r Lido wnaeth Jenny James eu nofio ar ei rasys traws-sianel.
- Nodi nodweddion hanesyddol Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, a'u cysylltu â'r adeilad fel y mae heddiw.
Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth, Hanes.
Boncyffion Coed
Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi'i leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad ac mae wedi'i amgylchynu gan y byd naturiol. Darganfyddwch y bwystfilod bach, yr adar a'r ystlumod sy'n byw yn y parc wrth i chi gerdded o gwmpas. Archwiliwch y gwahanol greaduriaid rydych yn eu darganfod ac archwiliwch eu hamgylchedd. Mae hyn yn gyfle gwych i chi ddod â'ch camera! Cymerwch ysbrydoliaeth o'r amgylchedd naturiol i wneud gwaith celf gan ddefnyddio dail, cerrig a brigau.
Bydd modd i blant:
- Cyfrifo uchder ac oedran coed.
- Dylunio a gwneud gwaith celf gan ddefnyddio adnoddau naturiol.
- Adnabod bwystfilod bach gwahanol sy'n byw yn y parc.
Cysylltiadau Cwricwlwm: Llythrennedd, Rhifedd, Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Celf.
CYNLLUNIO'CH YMWELIAD
I drefnu'ch ymweliad am ddim:
- Trefnwch eich ymweliad o leiaf bum niwrnod gwaith ymlaen llaw.
- Ffoniwch Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty ar 0300 004 0000 i wirio'r argaeledd ar gyfer y dyddiad yr hoffech ymweld â’r lle.
- Unwaith y byddwch wedi cytuno ar ddyddiad ac amser gyda Lido Ponty, llenwch a dychwelwch y ffurflen archebu ar-lein a fydd yn cael ei hanfon atoch chi drwy e-bost.
Mae athrawon ac arweinwyr grŵp yn gyfrifol am gynnal asesiadau risg cyn yr ymweliad yn unol â chanllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau addysg lleol.
Mae dogfen ‘trosolwg risg’ ychwanegol ar gael yma. Os ydych chi angen unrhyw wybodaeth bellach am y safle, cysylltwch â staff y Lido fel uchod.