Skip to main content
Lido Ponty - National Lido of Wales
 

Gweithdy Ffotograffiaeth Greadigol ar gyfer Dysgwyr

 

Mae Lido Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gymryd rhan yn ymgyrch #ThanksToYou y Loteri Genedlaethol.

Trwy brynu tocynnau'r Loteri Genedlaethol dros y 21 blynedd diwethaf, mae pobl ledled y wlad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i dreftadaeth y DU. Maen nhw wedi helpu Cronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF) i fuddsoddi dros £1biliwn mewn prosiectau sy'n helpu diogelu a meithrin ein treftadaeth naturiol werthfawr. Mae dros £1.6miliwn wedi cefnogi gwaith adfer Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty.

Ar 9 Rhagfyr, bydd Gweithdy Ffotograffiaeth Creadigol yn cael ei gynnal AM DDIM, yn rhan o ymgyrch #ThanksToYou.

Allan James LRPS, LMPA, FIOS, ffotograffydd o fri o dde Cymru fydd tiwtor y Cwrs.

www.allanjamesphotography.co.uk

Mae'r cwrs yma wedi'i anelu at ddechreuwyr ac unigolion sydd eisiau gwella'u sgiliau. Dyma gyfle i'r unigolion yma roi cynnig ar eu sgiliau newydd

Bydd modd i'r rheiny sy'n cymryd rhan ennill dealltwriaeth well o sut i ddefnyddio camera yn ogystal â dysgu rheolau aur ffotograffiaeth.

Bydd y cwrs yn cynnig amrywiaeth o arddangosiadau yn y dosbarth a chyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd.

Ffoniwch ni ar 01443 404699 rhwng 9am a 2pm er mwyn cymryd rhan yn y cwrs ac i gadw lle. Nodwch: dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, felly cadwch le yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

Rhaid i'r rheiny sy'n cymryd rhan ddod â'u camera personol.

Telerau ac Amodau

Mae'r Cwrs Ffotograffiaeth Greadigol yn cael ei gynnal AM DDIM. Fodd bynnag, bydd unigolion sydd yn cofrestru ar gyfer y cwrs ond sydd ddim yn dod ar y diwrnod ac sydd ddim yn rhoi gwybod i drefnydd y cwrs o leiaf 24 awr cyn i'r cwrs gychwyn yn derbyn dirwy o £25.

Mae hawl gan gyfranogwyr ganslo'u lle ar y cwrs ar unrhyw adeg hyd at 24 cyn dechrau'r achlysur ac heb dderbyn ffi.

Rhaid i gyfranogwyr ddod â'u cyfarpar eu hunain.

Rhaid bod gyda chyfranogwyr docyn loteri dilys.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb sy'n cymryd rhan, rhaid i gyfranogwyr glynu wrth gyfarwyddiadau trefnwyr y cwrs ar bob oherwydd dyfnder y pwll, a fydd yn agos atyn nhw.

Does dim hawl gan gyfranogwyr fynd i mewn i'r pwll ar unrhyw adeg.

Rhaid i gyfranogwyr fod yn gwrtais i bob hyfforddwr a chyfranogwyr eraill ar bob adeg.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag ymddygiad unigolyn arall siarad â hyfforddwr y cwrs ar unwaith.

Mae gan y trefnwyr yr hawl i wahardd unrhyw un o'r cwrs ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs, a byddan nhw'n gofyn i'r unigolyn adael y lleoliad ar unwaith. Bydd unrhyw unigolyn sy'n gwrthod gadael y lleoliad yn dilyn y cyfarwyddiadau yma yn cael ei atgyfeirio at yr Heddlu ar unwaith.

Mae gan Lido Ponty gamerâu TCC (CCTV) sy'n edrych ar bob rhan o'r cyfleuster.

Bydd amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer am ddim ar gael trwy gydol y dydd ond fydd dim bwyd yn cael ei ddarparu.

Dylai cyfranogwyr nodi bod y cwrs yma'n cael ei gynnal mewn man cyhoeddus ac felly, does dim modd i'r trefnwyr gwarantu na fydd bwydydd sy'n debygol o effeithio ar unigolyn ag alergeddau difrifol yn bresennol yn lleoliad y cwrs. Rhaid i gyfranogwyr sydd ag alergeddau sicrhau eu bod nhw'n cymryd y camau gweithredu angenrheidiol er mwyn cadw'n ddiogel.

Fydd y trefnwyr ddim yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddifrod sy'n cael ei wneud i offer cyfranogwr o ganlyniad i fynychu'r cwrs.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cadw'r hawl i ddefnyddio unrhyw luniau gaiff eu tynnu yn ystod y cwrs at ddibenion hyrwyddo.

 
cadw logo RCT CBC Logo lottery fund logo erdf logo