Skip to main content

Amgueddfa Glofeydd Cymru - Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Pontypridd

Prynwch eich tocynnau ar gyfer Taith yr Aur Du yn ogystal â'n hachlysuron eraill yma!

 Prynwch docynnau yma 


Prynwch docyn ar gyfer ein hatyniad sydd wedi ennill gwobrau, Taith Pyllau Glo Cymru.

Byddwch chi'n cael eich tywys o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser gan gyn-löwr a fu’n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda pan oedd yn fachgen ifanc. Daliwch yn dynn wrth i chi deithio yn ôl i wyneb y pwyll ar DRAM!

Mae arddangosfeydd digidol a rhyngweithiol am ddim yn dod â'r hanes yn fyw. Dysgwch ragor am fywydau ein glowyr, perchnogion y glofeydd a chymunedau Cwm Rhondda a oedd yn gyfrifol am bweru'r byd. Eisteddwch ym mharlwr perchennog cyfoethog y pwll glo neu ewch i siop draddodiadol.

Ewch i grwydro'r iard a darganfod y pethau cofiadwy o'r diwydiant glo - dramiau llawn glo, y Lloches Anderson hanesyddol a hen sylfeini'r efail a gafodd ei defnyddio gan gof y pwll glo.

Mae Caffi Bracchi, gweithdai a siop crefftau Craft of Hearts a gweithdai a danteithion Chocolate House wedi'u lleoli ar y safle, dyma brofiad gwych i bawb.

NEWYDDION DIWEDDARAF

Arddangosfa i nodi 40 mlynedd ers Streic y Glowyr 1984-85

Disgrifiad
Bydd arddangosfa o ffotograffau grymus a gymerwyd cyn, yn ystod ac ar ôl Streic y Glowyr 1984-85 yn agor i'r cyhoedd yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddydd Mercher, 6 Mawrth. ​

 

 

 

Stori ryngwladol yn eich milltir sgwâr

RCT-web-logo Trip Adviser logo 2022

RHP welsh hosipitality

RHP-Welsh-Hospitality-Awards

Quality-Assured-Shrt

Sandford-Awarrd-Tourism