Skip to main content

Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn dathlu achrediad mawreddog Croeso Cymru

VAQUAS re-sized

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn dathlu ar ôl derbyn achrediad mawreddog VAQAS (Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr) Croeso Cymru, sy'n cydnabod y profiad eithriadol y mae'r amgueddfa yn ei gynnig i ymwelwyr, yn ogystal â'i hymrwymiad i ragoriaeth. Mae'r achrediad yn adlewyrchu'r safonau cryf sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr Croeso Cymru. Mae'n asesu ansawdd atyniadau ledled Cymru, gan gynnwys eu croeso, dehongliad, glendid, arlwyo, manwerthu a phrofiad cyffredinol yr ymwelwyr.

Atyniad Twristiaid Unigryw o Arwyddocâd Cenedlaethol

Mae'r amgueddfa'n parhau i dyfu fel un o atyniadau treftadaeth mwyaf deniadol Cymru. Mae ymwelwyr yn ymweld o bob cwr o'r byd i fynd ar Daith danddaearol yr Aur Du, lle mae cyn-lowyr yn tywys grwpiau o ymwelwyr o dan y ddaear ac yn rhannu straeon pwerus am fywyd ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Uwchben y ddaear, mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn dod â hanes yn fyw. Mae gwledd o arddangosfeydd digidol ac arteffactau gwreiddiol.

Lleoliad Arbennig ar gyfer Achlysuron ac Ymweliadau Grŵp

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda hefyd yn cynnal rhaglen o achlysuron difyr drwy gydol y flwyddyn. Yn amrywio o arwerthiannau cist car cymunedol a grwpiau ymchwil, i achlysuron mawr i'r teulu fel Ŵy-a-sbri y Pasg ac Ogof Siôn Corn. Mae'r amgueddfa'n lleoliad poblogaidd i ysgolion a grwpiau o dwristiaid diolch i'r caffi, siop anrhegion, gweithdai a theithiau addysgol.

Mae tocynnau Ŵy-a-sbri y Pasg ar werth nawr yma

Arddangosfeydd Cyffrous Newydd ar y gweill yn 2026

Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r amgueddfa'n paratoi i ddatgelu'r arddangosfeydd newydd mawryn 2026, gan adrodd straeon, dehongli hanes yn ddigidol a chyflwyno profiadau i ymwelwyr fod yn rhan ohonyn nhw. Bydd y newidiadau yma'n cryfhau rôl yr amgueddfa fel cyrchfan ddiwylliannol ac addysgol flaenllaw yn Ne Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau: 

Mae cyflawni achrediad VAQAS yn gydnabyddiaeth wych o'r gwaith caled a'r angerdd y mae pawb yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn eu dangos. Mae'r wobr yma'n adlewyrchu'r croeso eithriadol y mae ymwelwyr yn ei dderbyn, a'r ffordd y mae ein treftadaeth yn dod yn fyw yn yr amgueddfa. Gydag arddangosfeydd newydd cyffrous ar y gweill yn 2026, mae'r achrediad yma'n atgyfnerthu'r ffaith bod yr amgueddfa yn un o atyniadau Cymru y dylech chi ymweld â nhw. Rydyn ni'n hynod falch o'r staff a'r profiad maen nhw'n ei ddarparu.

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn parhau i anrhydeddu hanes Cymoedd Cwm Rhondda. Mae'n amgueddfa sy'n annog arloesedd, gan sicrhau bod ei straeon yn parhau i fod yn berthnasol, yn ddiddorol ac yn fythgofiadwy i genedlaethau'r dyfodol.

Ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda i gael rhagor o wybodaeth am deithiau, arddangosfeydd, ymweliadau addysgol a llawer yn rhagor.

 

Wedi ei bostio ar 12/03/2026