Mae'n bleser gyda ni gyhoeddi bod ailddatblygiad safle'r neuadd bingo ym Mhontypridd bellach ar agor i'r cyhoedd, a bydd y cilfachau bysiau newydd yn Heol Sardis yn cael eu defnyddio o ddydd Sadwrn!
Ers i'r cam adeiladu ddechrau ym mis Chwefror 2024, mae'r contractwyr presennol wedi bod yn cynnal gwaith i ailddatblygu safle'r hen neuadd bingo a chlwb nos Angharad's yn fan bywiog o safon - a hynny er mwyn bod yn fan cyrraedd clir i ymwelwyr ym mhen deheuol canol y dref. Mae arwyddion clir, gwybodaeth i ymwelwyr, mannau eistedd, ac ardaloedd gwyrdd a phlanhigion, i'w gweld yn yr ardal.
Mae'r holl fesurau rheoli traffig ar Heol Sardis bellach wedi cael eu symud.
Mae'r cilfachau bysiau wedi'u lleoli ar ffin y safle â'r A4054 Heol Sardis, gyferbyn â Gorsaf Drenau Pontypridd. Mae'r datblygiad wedi gwella'r rhan yma o ganol y dref ac wedi sicrhau bod Pontypridd yn parhau i gael ei hadfywio. Dyma dref sy'n mynd yn groes i'r duedd genedlaethol o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref ac mae'n is o lawer na'r duedd genedlaethol o ran siopau gwag.
Mae'r cilfachau bysiau bellach wedi'u cwblhau i raddau helaeth, a bydd y cyfleuster newydd yn agor o ddydd Sadwrn, 3 Awst. Yn y lle cyntaf, bydd yn cael ei ddefnyddio'n benodol gan fysiau'r gwasanaeth parcio a theithio ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru rhwng 3-10 Awst.
Bydd rhywfaint o waith ychwanegol yn cael ei gynnal maes o law, a bydd ciosg parhaol yn gweini bwyd a diodydd hefyd yn agor ar y safle yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae'n newyddion gwych bod y safle amlwg yma yng nghanol Pontypridd wedi'i gwblhau, a hynny cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol ar 3 Awst. Mae'r adeiladau gwag a oedd yno wedi cael eu trawsnewid yn borth croesawgar ym mhen deheuol y dref, wrth fanteisio ar y golau naturiol a ddaeth yn sgil y gwaith dymchwel.
"Y cynnig i greu man cyhoeddus modern oedd un o'r syniadau mwyaf poblogaidd pan aeth y Cyngor ati i ymgynghori â thrigolion ar sut i ailddatblygu'r safle yma. Bydd hefyd yn ategu'r cynlluniau sydd ar y gweill i ddatblygu hen safle Marks and Spencer yn 'plaza ar lan yr afon', gyda'r ddau yn rhan bwysig o weledigaeth Porth y De yn ein Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Pontypridd.
"Bydd y cilfachau bysiau yn cael eu defnyddio yn rhan o'r gwasanaeth parcio a theithio pwrpasol ar gyfer yr Eisteddfod o fore Sadwrn. Mae'r cilfachau newydd mewn lleoliad da i gysylltu â Gorsaf Drenau Pontypridd a hyrwyddo teithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig - a byddan nhw'n ategu'r cynnydd yn nifer y trenau bob awr sy'n cyrraedd ac yn gadael y dref, a hynny trwy Fetro De Cymru."
Derbyniodd dwy elfen y cynllun arian allanol pwysig, a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor. Mae'r man cyhoeddus yn cael ei ddarparu trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a derbyniwyd cyllid o'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y cilfachau bysiau.
Wedi ei bostio ar 02/08/2024