
Llun gan - Philip Warren Photography
Mae Gwesty Pencelli yn Nhreorci yn ffynnu yn dilyn ei ailagor yn ddiweddar! Derbyniodd y perchennog newydd gymorth pwysig gan swyddogion i sicrhau cyllid er mwyn ailwampio'r adeilad felly mae'r Cyngor yn atgoffa busnesau bod cyfleoedd cymorth a grantiau ar gael.
Fe wnaeth yr hen dafarn ar Deras Pencae gau'n barhaol yn 2022 ar ôl cyfres o gyfnodau ysbeidiol lle'r oedd ar gau yn ystod y pandemig. Roedd yr adeilad ei hun mewn cyflwr gwael, ac roedd angen cynnal gwaith mawr er mwyn iddo weithredu'n fusnes ffyniannus unwaith eto.
Roedd gan y perchennog presennol, SGM Property a Hospitality Ltd, weledigaeth i ailagor yr adeilad yn fwyty, bar a gwesty – a derbyniodd ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer y defnyddiau datblygu yma ym mis Mehefin 2024. Gofynnodd y perchennog i'r Cyngor am unrhyw gyfleoedd ariannu i helpu gyda'r prosiect, a rhoddodd swyddogion wybod am gyllid grant trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Parhaodd swyddogion â'r cymorth yma drwy gydol y broses cyflwyno cais, ac roedd modd i'r Cyngor gadarnhau'r cais llwyddiannus am gyllid grant yn yr hydref, 2024.
Dysgwch ragor am y rhaglenni buddsoddi ariannol sydd ar gael i fusnesau Rhondda Cynon Taf ar ein tudalennau gwe pwrpasol, yn ogystal â'r cymorth sydd ar gael gan y Cyngor i fanteisio arnyn nhw.
Roedd angen cwblhau prosiect Gwesty Pencelli erbyn y gwanwyn, 2025, er mwyn bodloni telerau'r grant felly aeth perchennog yr adeilad ati i gwblhau'r gwaith dros fisoedd y gaeaf. Mae'r prosiect wedi'i gwblhau ac mae wedi cynnwys ailwampio'r eiddo cyfan, ailgynllunio a moderneiddio'r llawr gwaelod, a gosod cegin newydd.
Cafodd y lloriau uwch eu troi'n 11 o ystafelloedd gwesty – gyda phob ystafell wedi'i henwi ar ôl pyllau glo lleol er mwyn talu teyrnged i hanes a threftadaeth mwyngloddio cyfoethog Cwm Rhondda. Mae amryw o atgyweiriadau a newidiadau wedi cael eu gwneud hefyd i'r adeilad. Roedd yr adeilad wedyn yn barod i ddechrau pennod newydd yn ei hanes ei hun – gyda'r bwyty, bar a gwesty'n agor o 23 Mai.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Mae Gwesty Pencelli wedi bod yn destun gwaith trawsnewid gwych dros y misoedd diwethaf! Mae'r dafarn wedi bod yn rhan hirsefydlog o ganol tref Treorci, ac rydw i wrth fy modd bod yr ailddatblygiad yma wedi arwain at ailagor yr adeilad i'r cyhoedd yn fwyty, bar a gwesty sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned leol. Mae hyn hefyd yn golygu bod adeilad mor amlwg wedi cael ei atal rhag parhau i fod yn wag a rhag mynd yn adfail.
“Yn gyffredinol, mae angen rhagor o lety ar gyfer ymwelwyr yng nghymunedau ein trefi a'n pentrefi, felly mae elfen y gwesty i'w chroesawu'n fawr. Rydyn ni'n disgwyl y bydd galw mawr am y gwesty a bydd hyn yn cyfrannu at ddenu rhagor o ymwelwyr i Dreorci – yn enwedig o ystyried y ffaith bod modd cyrraedd canol y dref, yr orsaf drenau a Theatr y Parc a'r Dâr ar droed o'r gwesty.
“Rydw i hefyd yn falch iawn o rôl y Cyngor o ran galluogi'r datblygiad yma, gyda Swyddogion Adfywio'n gweithio'n agos gyda pherchennog Gwesty Pencelli i gael gwybod am y cyllid grant a oedd ar gael, ac yn rhoi cymorth iddo i gyflawni ailddatblygiad llwyddiannus. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod â busnesau ac amwynderau newydd i'n hardaloedd manwerthu yn y ffordd yma sydd, yn ei dro, yn helpu i wella'r ecomoni. Dyma annog busnesau sydd â diddordeb i gysylltu i gael gwybod am y cymorth sydd ar gael.”
Ychwanegodd Gary Thomas, Cyfarwyddwr SGM Property and Hospitality Ltd: “Rydyn ni wedi mwynhau mas draw gweithio gyda charfan Adfywio Cyngor Rhondda Cynon Taf i gyflwyno ein cynlluniau ar gyfer adnewyddu gwesty Pencelli. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol, o ran ymgysylltiad y swyddogion a'r arweiniad maen nhw wedi gallu ei gynnig ar lwybrau posibl i helpu gyda'r cynllun.
“Gyda phob hen adeilad, unwaith i chi ddechrau ar y gwaith, rydych chi fel arfer yn canfod problemau pellach, ac roedd yr un peth yn wir am yr adeilad yma. Diolch byth, gyda'r cymorth a gawsom drwy Grant Ffyniant a Rennir y DU drwy'r Cyngor, roedd hyn yn golygu, hyd yn oed gyda chost uwch, ein bod wedi gallu cyflawni'r cynllun yn brydlon ac i'r safon gorau. Mae bellach modd i ni gynnig cyfleuster modern i'r gymuned ar gyfer y boblogaeth gyfagos, ac rydyn ni wedi sicrhau dyfodol parhaus un o adeiladau mwyaf amlwg a hanesyddol yr ardal hefyd.”
Wedi ei bostio ar 03/06/2025