Mae gwaith bellach wedi'i gwblhau i ddatblygu tir nad oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghanol tref Porth er mwyn darparu lleoedd parcio ychwanegol, ynghyd â mannau gwyrdd a mannau eistedd ar gyfer y cyhoedd.
Dechreuodd y Cyngor ar y gwaith yn y lleoliad amlwg yma yng nghanol y dref ym mis Chwefror 2025 ac mae wedi'i gyflawni gan Calibre Contracting Ltd. Roedd y tir yn cael ei ystyried yn ddolur llygad yn dilyn tân yn yr eiddo pen teras yn 37 Stryd Hannah sawl blwyddyn yn ôl.
Cafodd cam adeiladu'r cynllun ei ariannu gan ddefnyddio cyfraniad gwerth 70% gan Lywodraeth Cymru, drwy ei menter Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi.
Yn ogystal â gwneud yr ardal yn fwy dymunol yn weledol, cafodd y cynllun ei gyflawni er mwyn ceisio atal yr achosion o dipio'n anghyfreithlon sydd wedi digwydd yn y lleoliad yma. Mae'r cynllun hefyd yn ffurfioli'r trefniadau parcio ar gyfer y darn yma o dir.
Mae'r cynllun wedi ychwanegu pedwar lle parcio arhosiad byr i Faes Parcio Stryd Hannah gerllaw, sy'n gwasanaethu canol y dref. Bydd modd parcio’n rhad ac am ddim, gyda lleoedd parcio arhosiad byr (hyd at ddwy awr) sy'n addas ar gyfer ymwelwyr â chanol y dref yn hytrach nag at ddefnydd busnesau.
Crëwyd ymylon glaswelltog hefyd, gydag ardaloedd wedi'u tirlunio a seddi. Er y cafodd y rhan fwyaf o'r gwaith ei gwblhau ar amser erbyn diwedd Mawrth 2025, cafodd elfen fechan o'r cynllun - gosod un fainc ychwanegol yn rhan o'r gwelliannau i'r ardal gyhoeddus - ei gwblhau'n fwy diweddar.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae'r mannau parcio yma'n ychwanegiad i'w groesawu i Faes Parcio Stryd Hannah. Bydden nhw'n darparu opsiynau parcio arhosiad byr ychwanegol, fel bod modd i ymwelwyr â chanol y dref gael mynediad i fusnesau lleol. Fel holl feysydd parcio'r Cyngor yn y Porth, bydd modd eu defnyddio am ddim, gan annog pobl i Siopa'n Lleol a chefnogi masnachwyr lleol.
“Rydyn ni'n croesawu cymorth pwysig gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r prosiect yma, drwy ei menter Trawsnewid Trefi. Yn gyntaf bu'n gymorth i gaffael y safle yn dilyn y tân yn yr adeilad, ac roedd hefyd yn gymorth i gyflawni’r cam adeiladu y gwanwyn yma. Yn ogystal â'r lleoedd parcio ychwanegol, mae'n adfywio darn o dir oedd ddim yn cael ei ddefnyddio sydd wedi cael ei effeithio gan dipio anghyfreithlon. Bydd hefyd yn darparu meinciau a mannau gwyrdd.
“Mae canol y dref wedi elwa o Strategaeth Adfywio’r Porth yn y blynyddoedd diwethaf, gan gyflawni buddsoddiad pwysig sy'n cynnwys Hwb Cymunedol Plaza’r Porth, ehangu’r ddarpariaeth Parcio a Theithio, uwchraddio gwead y stryd, helpu landlordiaid i wella blaen eu siopau drwy’r Grant Cynnal Canol Trefi a sicrhau bod cyfleusterau Di-wifr ar gael i’r cyhoedd. Agorodd prif Hwb Trafnidiaeth y Porth i’r cyhoedd yn ddiweddar hefyd. Dechreuodd gwasanaethau bws weithredu o'r Hwb Trafnidiaeth am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2025.
“Diolch i drigolion a busnesau am eich cydweithrediad tra bod y gwaith yma'n cael ei gwblhau, roedd y gwaith yn cynnwys cau'r ffordd ar un dydd Sul yn gynnar yn y cynllun. Rydw i’n falch bod ymwelwyr i ganol y dref bellach yn defnyddio’r mannau parcio, a bod gosod mainc ychwanegol yn ddiweddar wedi sicrhau bod y prosiect wedi cael ei gwblhau.”
Wedi ei bostio ar 30/04/2025