Skip to main content

Adeilad yn Aberdâr wedi'i adfywio gyda fflatiau ac ehangiad i fusnes caffi

Rates building 3 - Copy

Mae'r Cyngor yn falch o fod wedi chwarae ei ran yn y gwaith llwyddiannus diweddar i ailddatblygu'r hen adeilad Ardrethi yng nghanol tref Aberdâr – gan sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn ailddefnyddio'r adeilad pwysig.

Mae swyddogion wedi bod yn helpu Morris Property Developments Ltd i gyflwyno ceisiadau a manteisio ar gyllid grant sylweddol, gan alluogi gwaith creu 10 fflat modern yn yr adeilad ar y Stryd Fawr – ac mae tenantiaid wedi'u trefnu ar gyfer pob un. Mae uned fasnachol newydd hefyd wedi'i chreu yn rhan o'r datblygiad, ac rydyn ni'n falch iawn bod cwmni Coco's Coffee and Kitchen bellach wedi agor ei ddrysau, gan ehangu ei fusnes yn Aberdâr.

Mae gan yr adeilad rhestredig Gradd II, a gafodd ei adeiladu o ddechrau i ganol y 19eg Ganrif, bwysigrwydd hanesyddol. Cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn swyddfeydd y Cyngor a'i ddefnyddio ar gyfer casglu ardrethi gan Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr yn y 1960au. Wedi i'r adeilad gael ei wagio yn 1990, aeth yr eiddo i ddwylo perchnogion preifat ac mae wedi aros yn wag ers 35 o flynyddoedd, gyda'r gobaith o'i ailddatblygu yn lleihau wrth iddo ddirywio ymhellach.

Fodd bynnag, prynwyd yr adeilad gan gwmni Morris Property Developments Ltd yn 2022, ac mae'r Cyngor wedi cefnogi ei gais i Raglen Trawsnewid Trefi er mwyn ailddatblygu'r adeilad yn sylweddol. Mae'r cyllid yma a gafodd ei sicrhau wedi ategu buddsoddiad y datblygwr ei hun ar gyfer y prosiect.

Mae'r busnes lleol, Coco's, sydd eisoes yn boblogaidd yng nghanol tref Aberdâr o ganlyniad i'w siop goffi a chanhwyllau ar Stryd y Canon, wedi sicrhau'r uned fanwerthu newydd yn yr hen adeilad Ardrethi. Mae hyn wedi galluogi'r cwmni i symud elfen caffi'r busnes i eiddo mwy, ac adeiladu ar lwyddiant ei safle ar Stryd y Canon o ran gwneud canhwyllau a nwyddau persawr ar gyfer y cartref yn y siop.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  “Mae'n newyddion gwych bod y Cyngor wedi gallu helpu'r prosiect cyffrous yma. Mae adeilad rhestredig Gradd II, sydd wedi bod yn wag ers tua 1990, yn cael ei ailddefnyddio o ganlyniad i'r ailddatblygiad. Mae hefyd wedi darparu cartrefi sydd eu hangen yn fawr yn y dref, wedi galluogi busnes lleol i ehangu a chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol newydd, ac wedi cyfrannu at adfywiad economaidd cyffredinol yr ardal fanwerthu.

“Roedd ailddatblygu ac ailddefnyddio adeiladau sy'n bodoli eisoes ar gyfer darpariaethau o ansawdd uchel yn thema allweddol yn Strategaeth Canol Tref Aberdâr, a gafodd ei mabwysiadu yn 2023 i fod yn lasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Mae prosiect yr hen adeilad Ardrethi bellach wedi gwneud hynny, gan ymuno â phrosiectau Gwesty'r Boot, Hen Neuadd y Dref, ac hen dafarn The Black Lion, sydd wedi sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu hailddefnyddio.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru yn rhan o'i Rhaglen Trawsnewid Trefi, er mwyn galluogi prosiectau canol trefi lleol. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen yn ein helpu ni i ddatblygu Strategaeth Canol Tref Tonypandy, yn debyg i Aberdâr a sawl tref arall. Mae hefyd wedi cefnogi buddsoddiadau allweddol megis prosiect parhaus 'plaza ar lan yr afon' ym Mhontypridd, a gwaith sydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar sydd wedi darparu lleoedd parcio ychwanegol ar Stryd Hannah, Porth, ac wedi adfywio safle'r hen Neuadd Bingo ym Mhontypridd.

“Hoffwn i ddiolch i gwmni Morris Property Developments Ltd am ei brosiect gwych yn hen adeilad Ardrethi Aberdâr, a dyma ddymuno'r gorau i'w denant masnachol, Coco's Coffee and Kitchen, wrth i'r cwmni ehangu'i fusnes ac agor drysau ei ail safle yn Aberdâr.”

Yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i gefnogi busnesau, adfywio canol trefi ac annog buddsoddiad gan y sector preifat, mae ystod o raglenni buddsoddi y mae modd i swyddogion helpu i gael mynediad atyn nhw. Rydyn ni'n annog busnesau i fwrw golwg ar wefan y Cyngor er mwyn gweld yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael.

Bwriwch olwg ar dudalen Facebook Coco's Coffee and Candles am ragor o newyddion a gwybodaeth am y busnes yn Aberdâr, wrth iddo ddechrau pennod newydd.

Wedi ei bostio ar 12/09/2025