Cynghorydd Bob Harris a Richard Hughes
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ailddatblygiad sylweddol Y Muni ym Mhontypridd bellach wedi'i gwblhau, a chaiff ei defnyddio am y tro cyntaf yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol.
Aeth Aelod o'r Cabinet, y Cynghorydd Mark Norris, i'r adeilad ddydd Llun, ynghyd â Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Richard Hughes, i ddathlu rhoi'r allweddi i'r Cyngor. Knox & Wells oedd y contractwr a gafodd ei benodi ar gyfer yr ailddatblygiad modern gwerth £6 miliwn, ac roedd hynny'n briodol gan mai dyna'r cwmni a adeiladodd yr adeilad gwreiddiol, Capel Wesleaidd, yn 1895.
Mae gwaith terfynol wedi cael ei gynnal yr wythnos yma i baratoi'r lleoliad. Mae adeilad Y Muni bellach yn barod i fod yn lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru rhwng 3 a 10 Awst, lle bydd cystadlaethau rhagarweiniol a rhai achlysuron gyda'r nos yn cael eu cynnal.
Mae'r ailddatblygiad wedi cael ei gwblhau gan ddefnyddio cyllid gwerth dros £5.3 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, yn ogystal â chyfraniadau gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru sy'n golygu mai £6 miliwn oedd cyfanswm y buddsoddiad.
Mae gwaith y prosiect wedi cynnwys adnewyddu holl wyneb allanol yr adeilad, y prif awditoriwm ac ailwampio rhannau eraill o'r adeilad megis y bar, y cyntedd a chreu mesanîn newydd sy’n edrych dros y bar. Mae nodweddion Gothig gwreiddiol yr adeilad rhestredig wedi cael eu hagor, eu gwella a'u hadnewyddu.
Mae tymor o achlysuron amrywiol a chyffrous eisoes wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer mis Medi 2024 ymlaen – sy'n cynnwys rhaglen lawn o gerddoriaeth, comedi ac achlysuron ar sgrîn fawr.
Aeth y Cynghorydd Bob Harries (yn y llun, ar y chwith), Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, i'r adeilad ddydd Iau i weld y lleoliad gwych a'r gwaith terfynol cyn ei agor.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Am bron i 40 o flynyddoedd ers y 1980au, mae’r adeilad wedi bod yn dirnod rhanbarthol poblogaidd ar gyfer y celfyddydau a diwylliant sydd wedi cael ei werthfawrogi. Rydw i wrth fy modd bod yr ailddatblygiad gwych yma wedi sicrhau dyfodol yr adeilad yn lleoliad celfyddydau a diwylliant rhanbarthol, o'r enw Y Muni bellach, ar gyfer Pontypridd a Rhondda Cynon Taf.
“Roedd modd i fi ymweld â'r Muni ddydd Llun i weld y gwaith trawsnewid anhygoel, ac mae'r adeilad ar ei newydd wedd. Mae ei nodweddion hanesyddol wedi cael eu hagor a’u gwella mewn ffordd ystyriol, ac mae'r lleoliad bellach yn cynnwys cyfleusterau modern i gynnal achlysuron cerddoriaeth ac achlysuron ar sgrîn fawr.
“Ar y diwrnod cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd, rydw i'n falch o gyhoeddi bod yr ailddatblygiad sylweddol gwerth £6 miliwn bellach wedi'i gwblhau a bod Y Muni yn barod i chwarae rhan yn nathliadau'r ŵyl.
“Rydw i'n edrych ymlaen at ymateb y cyhoedd i weld yr adeilad am y tro cyntaf, yn enwedig pan fydd yr adeilad yn ailagor yn llawn gyda rhaglen gyffrous Awen o achlysuron.”
Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Yn dilyn prosiect ailddatblygu gwych, mae'n gyflawniad sylweddol y bydd Y Muni ar agor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
“Mae'r garfan yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, y contractwyr Knox & Wells, y nifer fawr o is-gontractwyr a chyflenwyr, a'm cydweithwyr yn Awen wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y lleoliad yn barod i groesawu'r gymuned leol ac ymwelwyr â'r Eisteddfod yn ôl yr wythnos nesaf.
“Byddwn ni wedyn yn ailagor ym mis Medi gyda rhaglen wych o gerddoriaeth fyw, sinema a chomedi, gan gynnwys perfformiad preifat gyda Dan Donnelly a Jon Sevink o fand Levellers, drymiwr AC/DC ac aelod o fand Manfred Mann's Earth Band, Chris Slade, a gafodd ei eni ym Mhontypridd, a Nigel Clark, prif ganwr band Britpop y 90au, Dodgy.”
Wedi ei bostio ar 02/08/2024