Skip to main content

Newyddion

Mae ymchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, mewn ymgais i annog rhagor o bobl i ddod yn rhieni maeth.

Mae mwy na 7,000 o bobl ifainc yn derbyn gofal ledled Cymru, felly mae'r angen am rieni maeth yn cynyddu'n sydyn.

12 Tachwedd 2024

Adam Harcombe: O Wellhad i Lwyddiant gyda Vision Products

Mae cyn-chwaraewr rygbi o ardal Trealaw, Adam Harcombe, wedi dod yn arwr lleol o ganlyniad i'w daith wella anhygoel a'i gydnerthedd yn dilyn digwyddiad a newidiodd ei fywyd yn 2020.

12 Tachwedd 2024

Cymorth wyneb yn wyneb ar gael i gwblhau ymgynghoriad gofal preswyl

Bydd y sesiynau 'galw heibio' yma yn galluogi'r cyhoedd i ofyn cwestiynau i'r swyddogion mewn perthynas â'r cynigion a derbyn cymorth i gwblhau arolwg yr ymgynghoriad

12 Tachwedd 2024

Gwobr am gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Rhydywaun

Derbyniodd Mrs Heidi Bryant Miles o Ysgol Gyfun Rhydywaun Wobr y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) Ysbrydoledig am ei gwaith caled hi a'i thîm, a'u hymroddiad wrth gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

11 Tachwedd 2024

Cadw trigolion yn ddiogel ac yn gynnes y gaeaf yma

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau â'i ymrwymiad i gefnogi trigolion dros gyfnod y gaeaf, gyda chefnogaeth i fanciau bwyd, Canolfannau Croeso yn y Gaeaf a sefydliadau dielw.

11 Tachwedd 2024

Ysgol Gynradd Caegarw yn paratoi ar gyfer gwaith gwella maes chwarae

Mae offer dringo maes chwarae Ysgol Gynradd Caegarw, Aberpennar, ar fin cael eu gwella'n sylweddol. Mae'r ysgol wedi derbyn cynnig hael gan fusnes lleol, T Samuel Estate Agents.

08 Tachwedd 2024

Teithiau bws am bris rhatach i ddychwelyd ar gyfer mis Rhagfyr

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi y bydd modd teithio ar fysiau am bris rhatach ledled Rhondda Cynon Taf unwaith eto dros gyfnod yr ŵyl eleni. Bydd uchafswm o £1 am docyn bws un ffordd yn berthnasol ar gyfer teithiau lleol yn ystod mis...

08 Tachwedd 2024

Rhoi caniatâd ar gyfer Murlun y Lluoedd Arfog ar Llyfrgell yng Nghwm Cynon

Mae'r Cyngor wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer creu murlun celf stryd ar Lyfrgell Aberdâr, yn gefndir addas ar gyfer Gardd Goffa Lluoedd Arfog Cwm Cynon gerllaw

07 Tachwedd 2024

Dathlu Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd yn amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Roedd staff Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o groesawu Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn ystod Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd ym mis Hydref.

06 Tachwedd 2024

Cam cyntaf y cynllun trwsio draeniau i ddechrau yn Aberpennar

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar drwsio rhannau o bibellau sy'n bodoli eisoes ac ailadeiladu tyllau archwilio - yn Stryd y Buddugwr, Stryd y Clogwyn, Stryd Eva, Stryd y Ffrwd a'r Stryd Fawr

06 Tachwedd 2024

Chwilio Newyddion