Skip to main content

Newyddion

Cabinet yn trafod Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru

Bob blwyddyn, yn rhan o'i broses rheoli arian gadarn, mae'r Cyngor yn adrodd ar ei waith modelu cyllideb a chynllunio ariannol ar gyfer y cyfnod i ddod - cyn y gwaith manwl ar strategaeth y gyllideb i'w wneud yn yr hydref

27 Medi 2024

Dysgu iaith yn ffynnu yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Cafodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, croeso cynnes i Ysgol Gymunedol Tonyrefail ddydd Mawrth, Medi 24, i weld y dysgu iaith sy'n digwydd mewn partneriaeth ag Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd.

26 Medi 2024

Gweithredu Strategaeth Tai newydd RhCT

Yn ei gyfarfod ar Dydd Llun, Medi 23, cymeradwyodd y Cabinet Strategaeth Dai ddrafft newydd RhCT (2024-2030), gan gychwyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol.

25 Medi 2024

Cytuno ar gynigion i liniaru'r pwysau presennol ar gapasiti ysgolion arbennig

Bydd hyn yn arwain at sefydlu canolfan ategol y Blynyddoedd Cynnar yn Nhonyrefail, ynghyd â buddsoddiad o hyd at £5 miliwn yn y ddarpariaeth arbenigol bresennol yn Ynys-y-bwl

25 Medi 2024

Cyllid sylweddol ar gyfer camau nesaf Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci

Mae cyllid gwerth bron i £1m wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu camau nesaf Cynllun Lliniaru Llifogydd sylweddol Treorci – a hynny er mwyn symud ymlaen â dyluniad opsiwn a ffefrir a rannwyd yn flaenorol gyda thrigolion

25 Medi 2024

Pedwar dosbarth cynnal dysgu newydd wedi'u cynnig i ddiwallu angen lleol

Bydd y Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i wella'i arlwy dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol – a fyddai'n cynyddu nifer y dosbarthiadau yn y Fwrdeistref Sirol o 48 i 52

24 Medi 2024

Cytuno ar raglen waith y cyllid arfaethedig gwerth £6 miliwn ar gyfer priffyrdd

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar raglen gyfalaf atodol arfaethedig a fyddai'n buddsoddi £6m arall ar gyfer Priffyrdd a Phrosiectau Strategol yn 2024/25, ar ben rhaglen gyfalaf fawr y Cyngor sydd eisoes yn cael ei chyflwyno eleni

24 Medi 2024

Bwrw ymlaen â chynigion i helpu i leihau nifer yr eiddo gwag tymor hir

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r Cabinet wedi bwrw ymlaen â chynigion i gynyddu lefel Treth y Cyngor sy'n cael ei godi ar berchnogion eiddo sydd wedi aros yn wag am fwy na blwyddyn – er budd cymunedau

23 Medi 2024

Adroddiad cynnydd ar y gwaith o ail-adeiladu Pont Droed y Bibell Gludo

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynllun parhaus i ail-adeiladu Pont Droed y Bibell Gludo ger Abercynon. Mae'r gwaith yn parhau i symud ymlaen yn ôl y rhaglen, ac mae'n achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn...

23 Medi 2024

Buddsoddiad pellach ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor i'w drafod

Yn adroddiad y Cabinet ar gyfer y cyfarfod ddydd Iau, mae swyddogion wedi amlinellu bod modd defnyddio'r gronfa Buddsoddi/Seilwaith wrth gefn sydd gan y Cyngor i ariannu'r buddsoddiad arfaethedig gwerth £6.95 miliwn yn llawn

17 Medi 2024

Chwilio Newyddion