Roedd Seremoni Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cwm Taf, a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2025 yn Cynon Linc yn Aberdâr, yn ddathliad llwyddiannus o gyflawniadau gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, roedd yr achlysur yn tynnu sylw at ymroddiad staff o fewn y sector gofal cymdeithasol, yn ogystal ag ysbrydoli unigolion i ddilyn cyfleoedd datblygu proffesiynol pellach.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Sian Nowell, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Rhondda Cynon Taf, a Kristie Llewelyn, Prif Reolwr Gwasanaethau i Oedolion Cyngor Merthyr Tudful, a arweiniodd yr achlysur fel meistri’r seremonïau. Fe wnaeth eu cyfraniadau, ochr yn ochr â siaradwyr gwadd a phobl bwysig – gan gynnwys Ceri Lynne Higgins, Gwawr Williams, Nicola Richards, a Claire Ball-Kaler – helpu i wneud y seremoni’n wirioneddol gofiadwy.
Yn ogystal, cafodd y seremoni ei mynychu gan feiri'r ddau awdurdod lleol, y Cynghorydd Sheryl Evans dros Rondda Cynon Taf a'r Cynghorydd John Thomas dros Ferthyr Tudful, yn ogystal â'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, a gynorthwyodd trwy gyflwyno'r tystysgrifau i'r unigolion.
Cyflwynwyd ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, graddau BA mewn Gwaith Cymdeithasol, cymwysterau rheoli’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), Gwobrau Addysg Ymarfer Gwaith Cymdeithasol, a gwobrau Asesiad o Gyflawniad Galwedigaethol.
Diolch yn arbennig i Cynon Linc, Aberdâr, am y lletygarwch a phartneriaeth wrth gynnal yr achlysur, gan sicrhau awyrgylch di-dor llawn dathlu i bawb, a llongyfarchiadau i bawb ar eu cyflawniadau.
Wrth fyfyrio ar lwyddiant yr achlysur, meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rwy’n falch o ddweud bod seremoni Gwobrau Gofal Cymdeithasol Cwm Taf wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae'r dathliad blynyddol hwn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled ein gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.
“Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n ymfalchïo’n fawr yn y cyfleoedd i gydnabod cyflawniadau ein staff a chefnogi eu twf proffesiynol parhaus. Mae'r seremoni hon yn tynnu sylw at eu hangerdd a'u hymrwymiad i ddarparu'r safonau gofal uchaf i'n cymunedau.
“Hoffwn ddiolch o galon i bawb a oedd yn bresennol, y siaradwyr a'r cyflwynwyr – a llongyfarchiadau unwaith eto i bawb a gafodd wobrau.”
Mae seremoni gwobrau Gofal Cymdeithasol Cwm Taf yn achlysur blynyddol sy'n parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cydnabod rhagoriaeth yn ein gweithwyr a meithrin datblygiad proffesiynol o fewn y sector.
Dysgwch ragor am weithio ym maes gofal cymdeithasol: Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Find out more about working in social care by visiting: Social Care and Social Work at Rhondda Cynon Taf Council | RCT - Rhondda Cynon Taf County Borough Council
Wedi ei bostio ar 06/06/2025