Skip to main content

Parti Haf yr 80au RhCT

Welsh poster re-sized

Yn ôl i'r 80au! Martin Kemp fydd prif seren Parti Haf Rhondda Cynon Taf ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Trowch y cloc yn ôl a dewch i wrando ar y synth wrth i chi ail-fyw degawd mwyaf eiconig y byd cerddoriaeth! Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ar y cyd ag Arena Projects, yn falch o gyflwyno Parti Haf yr 80au RhCT — sy'n dod i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn, 30 Awst 2025

Bydd yr achlysur bywiog yma’n dathlu popeth sy'n ymwneud â'r 80au. Bydd yr hwyl yn dechrau am 4pm ac yn para'n hwyr, gan addo noson o hel atgofion a dawnsio i gerddoriaeth gwbl eiconig. 

Prif Berfformiwr:
Martin Kemp – Set DJ 'Back to the 80s'
Bydd y canwr adnabyddus o'r band Spandau Ballet yn troelli'r recordiau er mwyn codi'ch hwyliau a chael pob un ar ei draed. Bydd pawb wrth eu boddau'n canu a dawnsio i gerddoriaeth boblogaidd yr 80au.

Perfformwyr eraill:

  • 80s Live – Sioe lwyfan sy’n llawn egni ac yn dathlu cerddoriaeth bop, roc a baledi pŵer gorau’r degawd. Gyda gwisgoedd disglair, lleisiau pwerus, a chaneuon cyfarwydd gan Duran Duran, Madonna, Wham!, Bon Jovi a llawer yn rhagor, bydd 80s Live yn cludo'r gynulleidfa yn syth yn ôl i oes y dillad lliwgar.
  • Tears for Beers – Bydd y band lleol yma'n rhoi ei stamp ei hun ar glasuron yr 80au.
  • Super Choir – Ensemble lleisiol egnïol sy'n dod â harmoni, egni, ac anthemau’r 80au yn fyw drwy greu ymdeimlad cymunedol.
  • Y DJs Katie Owen & Kay Russant o Day Fever – A hwythau'n adnabyddus am eu setiau ewfforig poblogaidd, bydd y ddau DJ yma o Day Fever yn chwarae caneuon dawns gorau'r 80au er mwyn cadw'r dorf yn effro gyda'r nos.
  • Jagger a Woody o Heart Radio fydd yn cyflwyno! Bydd y ddau wrth law i dynnu coes, chwarae gemau a chodi hwyl wrth iddyn nhw arwain y gynulleidfa drwy adloniant y noson.

Dim ond £20 (+ffi archebu) yw pris tocyn! Peidiwch â cholli'ch cyfle i fwynhau'r achlysur gwych yma ar safle godidog Parc Coffa Ynysangharad. Dewch â'ch ffrindiau, gwisgwch i fyny, a mwynhewch stondinau bwyd stryd, bariau a llond trol o hwyl yng nghanol tref Pontypridd.

Mae tocynnau'n mynd ar werth am 10:00am, ddydd Iau 12 Mehefin . Ewch i www.seetickets.com

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Yn dilyn llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd hi'n amlwg bod galw am achlysuron cerddoriaeth ar raddfa fwy yn Rhondda Cynon Taf, felly rydyn ni'n falch o allu cynnig y cyngerdd arbennig yma â thema'r 80au.  Mae'r Cyngor eisoes yn cynnig achlysuron i drigolion ac ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Mae'r calendr achlysuron yn dechrau gydag Ŵy-a-sbri y Pasg yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ac yn para hyd at Nos Galan, pan fydd strydoedd Aberpennar yn llawn miloedd o redwyr a chefnogwyr ar gyfer Rasys Nos Galan. I gael rhagor o wybodaeth am yr achlysuron yma a rhagor, dilynwch gyfrifon pwrpasol y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol - chwiliwch am 'Be sy 'mlaen RhCT/What's on RCT' ar Facebook ac Instagram. Yn y cyfamser, mwynhewch eich taith yn ôl i'r 80au ar 30 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd – mae'n addo bod yn achlysur gwych arall!

P'un a ydych chi'n cofio'r degawd neu beidio - dewch i fwynhau'r dathliad lliwgar yma ym Mharti Haf yr 80au Rhondda Cynon Taf.

Mae Parti Haf yr 80au RhCT wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU
Wedi ei bostio ar 10/06/2025