Mae Aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo ‘Strategaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy RhCT’ newydd i helpu'r trigolion hynny sy'n ei chael hi'n anodd fforddio gwres digonol ar gyfer eu cartrefi – gan sefydlu fframwaith ar gyfer buddsoddi, camau gweithredu ac ymyrraeth gan y Cyngor.
Cyfnod y Strategaeth newydd yw hyd at 2030, a'i bwriad yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a lleihau allyriadau carbon – gan gydymffurfio â nodau ac ymrwymiadau ehangach y Cyngor mewn perthynas â'r Newid yn yr Hinsawdd.
Nododd adroddiad i'r Cabinet ddydd Mercher 11 Mehefin, yr her barhaus, arwyddocaol o ran tlodi tanwydd. Diffiniad hyn yw'r sefyllfa lle mae angen i aelwydydd wario dros 10% o'u hincwm i wresogi eu cartrefi i lefel foddhaol. Mae'n effeithio'n anghymesur ar grwpiau sy'n agored i niwed (teuluoedd incwm isel, pobl anabl, unigolion oedrannus), a'r rhai sy'n byw mewn cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n wael.
Mae'r adroddiad yn ychwanegu bod trigolion yn Rhondda Cynon Taf yn wynebu risg arwyddocaol o dlodi tanwydd – gyda rhai o'r cymunedau sydd o dan yr anfantais fwyaf yn y rhanbarth yn bresennol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r math o gartrefi ledled yr ardal, a'u dull adeiladu, yn cyfrannu at berfformiad ynni gwaeth.
Fe wnaeth strategaeth flaenorol y Cyngor (2019-2023) welliannau mawr, gan gynnwys cyflwyno 12,500 o fesurau effeithlonrwydd ynni ar draws 6,000 o gartrefi, cynnal buddsoddiad gwerth tua £36 miliwn trwy raglenni ariannu allanol, a darparu arbedion gwerth £14 miliwn ar gyfer trigolion. Cyflawnodd y nifer uchaf o atgyfeiriadau a gosodiadau trwy gynllun Nyth Llywodraeth Cymru, ac fe wnaeth waith pwysig trwy raglen Arbed, Cynlluniau ECO 3 a 4 Flex, grant paneli solar ffotofoltäig, a chronfa Community Matters Western Power.
'Strategaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy RhCT' (2025-2030)
Bwriad y strategaeth newydd yw adeiladu ar y cynnydd da sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, gweithio gyda phartneriaid i leihau tlodi tanwydd ymhelllach a chefnogi trigolion Rhondda Cynon Taf i fyw mewn cartrefi cynnes, iach ac effeithlon o ran ynni. Ei gweledigaeth yw:
“Galluogi trigolion Rhondda Cynon Taf i fyw mewn cartrefi cynnes ac iach sy'n meithrin dyfodol llewyrchus. Ein nod yw cyflawni hyn drwy gefnogi aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn perygl o hynny, gan wella cysur thermol ac effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.”
Bydd pedwar amcan strategol yn sail i'r weledigaeth yma – cefnogi trigolion i geisio cyngor diduedd, am ddim, o safon ar faterion sy'n ymwneud ag ynni; gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi a fydd yn gwella cynhesrwydd thermol a lliniaru tlodi tanwydd; datgarboneiddio yn y ffordd y mae cartrefi'n cael eu cynhesu; gweithio gyda sefydliadau partner i leihau tlodi tanwydd mewn ffordd gydlynol, cyfannol ac ymatebol yn seiliedig ar anghenion aelwydydd.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r canlyniadau disgwyliedig o'r strategaeth newydd – sy'n amrywio o ragor o bobl yn derbyn cymorth ariannol, lleihau biliau ynni a chynyddu ymyraethau, i nodau ehangach megis denu buddsoddiadau pellach gan gynlluniau ynni wedi'u hariannu'n allanol, cynyddu ymwybyddiaeth o dechnoleg ynni adnewyddadwy, a gweithio ar y cyd â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n creu cyfleoedd ar gyfer rhaglenni yn seiliedig ar ardaloedd.
Mae rhagor o fanylion am y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd i gyflawni'r pedwar prif amcan strategol, yn ogystal â'r canlyniadau a ragwelir, wedi'u cynnwys yn adroddiad dydd Mercher i'r Cabinet, sydd ar gael ar wefan y Cyngor.
Wrth gytuno i gymeradwyo'r strategaeth, pleidleisiodd y Cabinet hefyd o blaid argymhelliad pellach sy'n benodol i eiddo ‘waliau solet’, megis tai teras wedi'u codi yn y 1900au, sy'n gyffredin yng nghymunedau'r cymoedd. Cytunodd Aelodau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried cynnwys y mathau yma o gartrefi, sydd hefyd â Thystysgrifau Perfformiad Ynni ‘B’ neu ‘C’ , mewn cynlluniau uwchraddio yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae tlodi tanwydd yn cael ei ysgogi gan nifer o ffactorau cyfunol yn ein cymunedau – o gostau ynni cynyddol a heriau Costau Byw ehangach i incwm aelwydydd is a chyflwr y tai lleol. Mae'n dorcalonnus meddwl bod rhai trigolion, gan gynnwys y bobl fwyaf agored i niwed, yn ei chael hi'n anodd fforddio i wresogi eu cartrefi'n ddigonol.
“Cafodd ‘Strategaeth Cynhesrwydd Fforddiadwy RhCT’, sydd newydd gael ei chymeradwyo, ei llunio wrth ddeall nad yw canlyniadau tlodi tanwydd yn rhai economaidd yn unig, maen nhw hefyd yn ymwneud â materion cymdeithasol ac iechyd pobl – gan gynnwys effaith ar les corfforol a meddyliol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i liniaru effaith tlodi tanwydd trwy dull cryf, strategol – gan barhau â gwaith ein strategaeth flaenorol a gyflwynodd fesurau effeithlonrwydd ynni ar draws 6,000 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf.
“Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddydd Mercher, bydd swyddogion nawr yn rhoi'r strategaeth ar waith am y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2030, a bydd yn cael ei monitro bob chwarter a blwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod modd i ni fesur effaith ein camau gweithredu a'n hymyraethau, er mwyn sicrhau eu bod nhw'n bodloni anghenion trigolion. Roeddwn i hefyd yn falch bod Aelodau wedi pleidleisio o blaid yr argymhelliad sy'n berthnasol i eiddo 'waliau solet', megis tai teras wedi'u codi yn y 1900au, i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a lobïo er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gymwys ar gyfer cynlluniau uwchraddio yn y dyfodol, a'u bod nhw'n elwa ar ddeunydd inswleiddio mewn waliau allanol a mewnol.”
Wedi ei bostio ar 13/06/2025